Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gweithredoedd o gariad a charedigrwydd

Gall gweithredoedd bach wneud gwahaniaeth mawr

gan Kirk Hayles (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2009)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio'r syniad o garedigrwydd a chariad heb fod â’r awydd am elw personol.

Paratoad a Deunyddiau

  • Ymgyfarwyddwch â’r stori am Gandhi sydd i’w gweld yng Ngham 2 y ‘Gwasanaeth’.
  • Dewisol: efallai yr hoffech chi baratoi stori bersonol yn lle'r un sydd i’w gweld yng Ngham 4 y ‘Gwasanaeth’.
  • Dewisol: ar ôl y gwasanaeth, efallai yr hoffech chi arddangos nodiadau atgoffa o amgylch yr ysgol gyda thestun a lluniau neu symbolau addas, rhywbeth yn debyg i hyn, efallai, 'Cofiwch - rhowch gynnig ar weithred garedig yr wythnos hon.’

Gwasanaeth

  1. Eglurwch fod y gwasanaeth hwn yn ymwneud â gweithredoedd o garedigrwydd a chariad. Gofynnwch i'r plant a ydyn nhw eisoes wedi profi unrhyw weithred garedig heddiw.

    Gwrandewch ar ymateb rhai o’r plant.
  2. Eglurwch i’r plant eich bod yn mynd i adrodd stori wrthyn nhw am ddyn o'r enw Gandhi. Roedd yn arweinydd enwog ac yn un o’r pleidwyr mwyaf dros gyfiawnder a welodd y byd erioed.

    Wrth i Gandhi fynd i mewn i gerbyd trên un diwrnod, llithrodd un o'i esgidiau i ffwrdd oddi ar ei droed a glanio ar y trac. Ni lwyddodd i’w chael yn ôl am fod y trên yn symud. Er syndod mawr i'w gymdeithion, plygodd Gandhi i lawr yn hamddenol a thynnu'r esgid arall oddi ar ei droed. Wrth i'r trên barhau i symud ymlaen, fe daflodd Gandhi yr esgid honno yn ôl ar hyd y trac fel ei bod yn glanio'n agos at y gyntaf. Pan ofynnwyd iddo gan gyd-deithiwr pam yr oedd wedi gwneud y fath beth, gwenodd Gandhi gan ddweud, ‘Bydd gan y dyn tlawd a fydd yn dod o hyd i'r esgid yn gorwedd ar y trac bar o esgidiau'n awr i’w defnyddio.’

  3. Eglurwch fod Gandhi yn byw yn India, gwlad lle mae llawer o dlodi. Roedd llawer o bobl yn cerdded yn droednoeth oherwydd eu bod yn methu â fforddio prynu esgidiau. Ail-ddarllenwch y stori, gan adael amser i'r plant feddwl am ei  hystyr - fe fyddwch yn sylwi, o bosib, fod y plant yn gwrando'n fwy astud yr ail dro.

  4. Os ydych chi’n gallu, cyflwynwch enghraifft fodern o garedigrwydd, fel yr un canlynol o brofiad personol y sawl sydd wedi ysgrifennu'r nodiadau hyn.

    Roedd y wraig oedd o'm blaen wrth beiriant tocynnau'r maes parcio yn chwilio'n ddyfal yn ei phwrs a'i bag am arian mân, gan fwmian drwy'r amser ei bod hi'n mynd i fod yn hwyr. Chwifiodd bapur £20, a gofynnodd i mi a oedd gen i arian mân i'w gyfnewid am y papur £20 - £1 yn unig oedd ei angen arni er mwyn talu am y tocyn ac ymadael â'r maes parcio. Fe ddywedodd, pe byddai'n gorfod mynd yn ôl i gyfeiriad canol y dref i gael newid, yna fe fyddai'n hwyr yn cyfarfod â'i merch i gael cinio.

    Doedd gen i ddim cymaint â gwerth £20 o arian mân yn newid arnaf, felly'n syml cynigiais iddi'r darn £1 yr oedd ei angen arni i dalu am barcio ei char. Gofynnodd y wraig i mi a allai anfon yr arian ataf. Fe ddywedais wrthi nad oedd rhaid iddi wneud hynny, gan ddweud fy mod i’n tybio y byddai hithau wedi gwneud yr un modd i rywun arall yn yr un sefyllfa. Gwenodd a dweud diolch yn fawr gan ysgwyd fy llaw yn ysgafn wrth gymryd y darn £1 oedd yn cael ei gynnig iddi. Talodd am y tocyn a phrysurodd yn ei blaen. Fe sylweddolais nad oedd gennyf fi ddigon o arian mân i dalu am fy nhocyn i wedyn, ac y byddai'n rhaid i mi ddychwelyd i'r siopau i gael newid - ond roedd yn ddiwrnod heulog, doeddwn i ddim ar frys, ac roeddwn i’n teimlo'n dda.

  5. Anogwch y plant i feddwl am yr hyn y bydden nhw’n gallu ei wneud, efallai gartref, er mwyn dangos eu caredigrwydd a'u cariad tuag at bobl eraill. Awgrymwch y gallen nhw beri syndod i'w rheini, neu i berthynas arall, trwy gynnig gwneud paned o de neu olchi'r llestri. Fel arall, yn llawer mwy grymus, fe allen nhw roi cusan i'w rhieni ar eu boch a sibrwd ‘Rwy'n eich caru chi’ cyn diflannu allan i chwarae, neu adael nodyn bach i'r un perwyl er mwyn i rywun gael hyd iddo.

  6. Atgoffwch y plant mai'r pethau bach caredig hynny a wnawn, sydd yn aml yn cael yr effaith fwyaf ar bobl eraill.

Amser i feddwl

Roedd Gandhi’n ddyn hynod a oedd â’r gallu anhygoel i feddwl mewn ffordd wahanol iawn i'r rhan fwyaf o bobl eraill. Roedd yn aml yn meddwl am bobl eraill cyn meddwl amdano’i hun. Gallwn i gyd ddysgu rhywbeth o'i esiampl.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Helpa ni i chwilio bob dydd am gyfleoedd i fod yn garedig wrth eraill.
Helpa ni beidio byth â bod yn rhy brysur yn gofalu amdanom ein hunain fel ein bod yn anghofio am bobl eraill.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon