Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Barod ar gyfer yr Adfent?

gan Rebecca Parkinson (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2010)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ein hannog i ddefnyddio tymor yr Adfent i baratoi ein hunain ar gyfer y Nadolig.

Paratoad a Deunyddiau

  • Mae'r gwasanaeth hwn yn gweithio'n dda heb unrhyw gyfarpar (props) - mae'r plant, yn syml, yn defnyddio eu dychymyg - felly dewisol yn unig yw’r deunyddiau canlynol os hoffech eu defnyddio. Mae'n well os ydych chi’n gallu dod â’r pethau hyn i’r golwg wrth i’r plant roi awgrymiadau i chi, felly dechreuwch y gwasanaeth â’r pethau hyn o’r golwg.

    - Eitemau y byddech chi’n mynd â nhw gyda chi pe byddech chi’n mynd am ddiwrnod i lan y môr, fel gwisg nofio, a thywel, ychydig o arian, bwced a rhaw, ac eli haul.
    - Eitemau y byddech chi’n mynd â nhw gyda chi pe byddech chi’n mynd i gysgu noson yn nhy ffrind (sleepover), fel brwsh dannedd, pyjamas, clustog a sach gysgu, a set arall o ddillad i newid iddyn nhw y diwrnod wedyn.
    - Plât, cyllell a fforc.
  • Yn y gwasanaeth hwn, rydych chi’n mynd i actio tair sefyllfa ac yn mynd i siarad â'r plant wrth i chi wneud hynny. Ym mhob achos, byddwch yn dychmygu eich bod yn cyrraedd sefyllfa benodol ac yn darganfod nad ydych chi’n gallu mwynhau'r profiad oherwydd nad ydych chi wedi paratoi yn gywir. Byddwch yn gofyn i'r plant wedyn sut y gallech chi fod wedi paratoi'n well ym mhob achos.
  • Efallai yr hoffech chi ofyn i rai o’r oedolion ar staff yr ysgol, neu i rai o’r plant, actio’r gwahanol sefyllfaoedd.

Gwasanaeth

  1. Dywedwch wrth y plant eich bod yn mynd ar daith i lan y môr. Actiwch yr olygfa fel pe byddech chi’n cyrraedd y traeth, drwy roi sylwadau ar y dwr a'r tywod, a sylwi ar fan hufen iâ.
    Nawr actiwch eich bod yn edrych ar y môr eto, ac yn mynegi gofid na allwch fynd i mewn i'r dwr yn eich dillad fel rydych chi ar hyn o bryd. Esboniwch nad oes dim gwahaniaeth, fe allwch chi chwarae yn y tywod yn lle hynny. Mynegwch siom wedyn pan fyddwch chi’n sylweddoli nad ydych chi wedi dod â bwced a rhaw gyda chi na dim byd felly i chwarae gyda nhw. Ond dywedwch wedyn, o leiaf fe allwch chi gael hufen iâ. Wps! Wedyn bydd yn rhaid i chi fynegi siom pan fyddwch chi’n sylweddoli nad yw’r hufen ia i’w gael yn rhad ac am ddim, a does gennych chi ddim arian i brynu un! Po fwyaf o fynegiant y byddwch chi’n ei roi yn eich sgwrs, gorau oll - ceisiwch ymddangos yn llawn cyffro, ac yna’n siomedig iawn bob tro wedi i chi  sylweddoli nad yw’r pethau hyn yn bosib.

    Dyma i chi enghraifft o sgript.
    ‘Rydw i’n teimlo’n llawn cyffro! Rydw i wedi dod ar drip arbennig i lan y môr. Rydw i wrth fy modd ar y traeth. Edrychwch, draw yn y fan acw, dyna’r môr a’r tonnau. Mae’n ddiwrnod cynnes, braf, hyfryd, a finnau’n methu aros  nes caf fi fynd i nofio yn y tonnau.
    (Edrychwch i laer ar y tywod.) Mae’r tywod yn gynnes ac rydw i wrth fy modd yn teimlo’r tywod yn rhedeg rhwng bodiau fy nhraed. Y tro diwethaf i mi fod yma, fe wnes i godi’r castell tywod mwyaf a welsoch chi erioed. O, edrychwch! Dyna fan gwerthu hufen ia. Ar ôl i mi fod yn y dwr, ac ar ôl i mi godi castell tywod enfawr eto, rydw i’n mynd i brynu hufen ia mawr efo siocled Flake ynddo fo.
    Iawn, yn gyntaf, fe wna i fynd i’r dwr i nofio. O na! Dw i ddim wedi dod â gwisg nofio . . . beth alla i ei wisgo? (Edrychwch yn drist.)
    O wel, os na fedra i fynd i nofio, fe wna i chwarae yn y tywod yn lle hynny . . . O na! Dw i ddim wedi dod â bwced a rhaw efo fi. Mewn gwirionedd, dydw i ddim wedi dod ag unrhyw bethau efo fi i chwarae â nhw. (Edrychwch yn drist.)
    O wel, o leiaf, fe fydda i’n gallu cael hufen ia. (Chwiliwch yn eich pocedi.) O na! Rydw i wedi anghofio dod ag arian efo fi, hefyd! Mae’n edrych yn debyg na fydda i’n gallu cael hufen ia ychwaith. O na! Dyma ddiwrnod ofnadwy!

  2. Yna, dilynwch arddull debyg i esgus eich bod yn mynd ar sleepover, ond wedi anghofio popeth. Does gennych chi ddim brwsh dannedd (rydych chi’n pryderu am ddeffro gyda blas ofnadwy yn eich ceg); dim pyjamas (rydych chi’n pryderu am deimlo'n oer yn y nos); dim clustog (rydych chi’n pryderu ynghylch bod yn anghyfforddus); a dim sach gysgu (eto, rydych chi’n pryderu am deimlo'n oer ac yn anghyfforddus).

  3. Wedyn byddwch yn gwneud yr un math o beth gyda sefyllfa pan fyddwch chi’n ceisio bwyta pryd o fwyd. Mae gennych chi blât, cyllell a fforc, ond rydych chi wedi anghofio prynu unrhyw fwyd. Ceisiwch greu awyrgylch drwy sôn am ba mor llwglyd ydych chi, a disgrifio'r bwydydd y byddech chi’n hoffi eu bwyta. Mynegwch eich siom wrth sylweddoli y bydd yn rhaid i chi barhau i fod yn llwglyd!

  4. Dewisol: ailedrychwch ar bob un o’r sefyllfaoedd hyn, a gofynnwch i'r plant pa baratoadau y dylech chi fod wedi gwneud. Wrth i'r plant ddweud pob gwrthrych, gofynnwch iddyn nhw ddod i'r blaen i ddal y gwrthrych hwnnw, yn ôl beth fydd gennych chi.

  5. Eglurwch fod y pedair wythnos cyn y Nadolig yn cael eu galw'n Adfent. Mae’r Adfent yn gyfnod arbennig i Gristnogion. Yn ystod y pedair wythnos, mae gennym gyfle i baratoi ein hunain ar gyfer y Nadolig. Nid yw hyn yn unig yn golygu cael partïon, gosod addurniadau a phrynu anrhegion, mae'n golygu paratoi ein calonnau ar gyfer y neges y Nadolig.
    Mae Cristnogion yn credu bod Duw, ar adeg y Nadolig, wedi anfon Iesu i'r Ddaear i gynnig heddwch i ni ac i ddangos i'r byd faint mae'n ein caru ni. Wrth i ni nesáu at y Nadolig, mae'n bwysig i ni aros a meddwl am fyw mewn heddwch a chariad gyda rhai sydd o'n cwmpas. Mae'n bwysig i ni fod yn barod ar y tu mewn, yn ein meddyliau a’n teimladau, er mwyn i ni allu dathlu rhyfeddod y Nadolig.

Amser i feddwl

Gofynnwch y cwestiynau canlynol i’r plant.

- A ydyn ni mewn heddwch â’n gilydd?
-A ydyn ni wedi bod yn cweryla ac wedi gwneud i bobl eraill gynhyrfu, a gwneud ein hunain yn drist?
-A ydyn ni wedi brifo teimladau rhywun?
-A ydyn ni wedi gwneud rhywbeth y dylen ni fod yn dweud sori am ei wneud?

Os yw'r ateb i unrhyw un o'r tri chwestiwn olaf yn ‘Do’, mae’r Adfent yn amser da i ddatrys pethau. Mae'n amser da i ddweud sori, gwneud ffrindiau ac unioni pethau. Os gwnawn ni hynny, fe allwn ni fod yn wirioneddol barod i ddathlu'r Nadolig yn y ffordd iawn o feddwl.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am y Nadolig,yr adeg pan fyddwn ni’n dathlu’r rhodd werthfawr a gawsom yn dy fab, Iesu.
Diolch i ti am yr heddwch y mae Iesu’n gallu ei roi yn ein calonnau.
Helpa ni i ddefnyddio’r tymor Adfent hwn i baratoi ein hunain
fel y gallwn ni fwynhau’r Nadolig, gan wybod ein bod mewn heddwch gyda’r rhai hynny sydd o’n cwmpas ni.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon