Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Wnaeth Iesu ddim aros yn fabi bach

Nid yw stori’r Nadolig yn dod i ben yno!

gan Kirstine Davis

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Defnyddio gwisgoedd drama Gwyl y Geni i'n hatgoffa nad yw stori'r Nadolig yn dod i ben yno.

Paratoad a Deunyddiau

  • Bydd angen i chi gasglu nifer o wisgoedd drama Gwyl y Geni, fel gwisg Mair, Joseff, bugail, asyn, dyn doeth ac angel. Dylai'r rhain gael eu rhoi mewn bag fel na ellir eu gweld ar y dechrau.
  • Trefnwch i fod â chrys-T neu glogyn Superman. Neu, fe allech chi ddefnyddio delwedd o hwn, ac os felly fe fydd arnoch chi angen trefnu modd o’i dangos. Mae enghraifft i’w chael ar:http://tinyurl.com/jnov85d
  • Dewisol: efallai yr hoffech chi ddefnyddio’r gân ‘Jesus is my superhero’ gan Hillsong Kids. Ac os felly fe fydd arnoch chi angen trefnu modd o chwarae’r gerddoriaeth. Mae’n para2.39 munud, ac mae ar gael ar:https://www.youtube.com/watch?v=V76x50BfA7k

Gwasanaeth

  1. Rhowch groeso i’r plant i'r gwasanaeth ac eglurwch eich bod, cyn i holl wisgoedd drama’r Nadolig gael eu rhoi i gadw yn y cwpwrdd, yn mynd i gael un olwg olaf arnyn nhw, yn sydyn! (Sylwer: os nad yw gwisgoedd drama Gwyl y Geni wedi cael eu gwisgo yn ystod eich drama Nadolig, bydd angen newid geiriad y frawddeg hon.)

    Tynnwch y wisg gyntaf allan o’r bag.

    Gofynnwch y cwestiynau canlynol.

    - I bwy rydych chi'n meddwl y byddai’r wisg hon yn perthyn yn stori'r Nadolig?

    Gofynnwch i blentyn i wisgo’r wisg a sefyll ym mhen blaen yr ystafell.

  2. Ailadroddwch y broses ar gyfer yr ail wisg.

  3. Tynnwch y wisg Superman allan o’r bag, neu dangoswch y ddelwedd.

    Gofynnwch y cwestiynau canlynol.

    - Felly, i bwy rydych chi'n meddwl y byddai’r wisg hon yn perthyn yn stori'r Nadolig?

    Gan edrych yn ddryslyd, gofynnwch y cwestiwn canlynol.

    - Beth sydd a wnelo Superman â stori Gwyl y Geni?

  4. Os ydych yn ei ddefnyddio, rhowch y crys-T neu glogyn Superman yn ôl yn y bag ac ailadrodd y broses gwisgo i fyny nes bod y cyfan o wisgoedd drama Gwyl y Geni sydd gennych chi wedi cael eu defnyddio. Gosodwch y plant yn y tablo. Holwch oes rhywun yn gallu awgrymu unrhyw beth sydd ar goll o'r tablo. Gallai awgrymiadau gynnwys anifeiliaid, sêr, ac yn y blaen. Gobeithio y bydd rhywun yn sylwi bod y baban Iesu ar goll. Os nad oes unrhyw un yn awgrymu hynny, arweiniwch y plant tuag at ateb hwn. 

  5. Ewch yn ôl at y bag o wisgoedd ac esgus chwilio am y ddoli babi. Eglurwch nad oes unrhyw ddoli babi yn y bag - yr unig beth sy'n weddill yw’r dilledyn Superman. (Os ydych yn defnyddio’r llun, eglurwch nad oes dim ar ôl yn y bag - yr unig beth sydd heb ei defnyddio yw’r ddelwedd o wisg Superman.)

  6. Ceisiwch esgus eich bod wedi sylweddoli rhywbeth pwysig yn sydyn. Pwysleisiwch eich bod yn chwilio am fabi, ond mewn gwirionedd, doedd Iesu ddim wedi aros yn fabi am byth. Roedd wedi tyfu. Eglurwch ein bod weithiau'n dal i feddwl am Iesu fel y babi bach yn stori'r Nadolig ac yn anghofio ei fod wedi tyfu i fyny.

  7. Edrychwch o gwmpas yr ystafell ar y plant a'r oedolion a nodi bod pob un ohonyn nhw wedi bod yn fabanod unwaith. Nid oes unrhyw un ohonom yn aros fel babi; mae pawb yn tyfu ac yn newid wrth fynd yn hyn.

  8. Yn union fel pawb yn yr ystafell, wnaeth Iesu ddim aros yn fabi. Cafodd ei fagu, ac fe dyfodd yn fachgen ac yn ddyn, ac fe wnaeth bethau anhygoel. Mae Cristnogion yn credu bod Iesu wedi gwneud pethau a oedd yn llawer rhy anodd i bobl gyffredin eu gwneud, pethau fel iachau pobl o afiechydon cas iawn doedd dim modd eu gwella, achub pobl o sefyllfaoedd oedd yn niweidiol i’w bywyd, ac fe wnaeth hyd yn oed fwydo miloedd o bobl gyda dim ond swm bach iawn o fwyd. Mae Cristnogion yn credu bod Iesu yn uwch arwr, neu yn ‘superhero’.

  9. Os ydych chi’n defnyddio'r crys-T neu’r clogyn Superman, gwahoddwch blentyn ymlaen atoch chi i’w wisgo. Gofynnwch i'r plentyn ymuno â'r plant eraill yn y tablo sy’n darlunio stori Gwyl y Geni.

Amser i feddwl

Atgoffwch y plant nad ydym yn gwybod llawer am Iesu fel plentyn. Fodd bynnag, mae Cristnogion yn credu bod Iesu, wedi iddo dyfu, wedi gwneud pethau rhyfeddol ac wedi addysgu miloedd o bobl am Dduw. Weithiau, rydym yn anghofio mai’r un person yw’r baban yn y preseb â’r un rydyn ni’n cofio amdano ar adeg y Pasg, pan fyddwn ni’n meddwl am farwolaeth Iesu a'i atgyfodiad wedyn o fod yn farw i fod yn fyw eto.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am y Nadolig ac am yr holl hwyl gawsom ni.
Diolch i ti am stori hyfryd y Nadolig.
Helpa ni i gofio sut y gwnaeth Iesu ddysgu i ni sut i fyw,
drwy roi pobl eraill yn gyntaf a charu ein gilydd.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

Dewisol: efallai yr hoffech chi ddefnyddio’r gân ‘Jesus is my superhero’ gan Hillsong Kids. Mae’n para2.39 munud, ac mae ar gael ar:https://www.youtube.com/watch?v=V76x50BfA7k

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon