Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Grym geiriau plant

Mae llawer o bethau y gall oedolion eu dysgu gan blant

gan Alison Thurlow

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried y gall oedolion ddysgu yn aml oddi wrth eiriau plant.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Dangoswch Sleid 1.

    Gofynnwch y cwestiynau canlynol.

    - Oes rhywun wedi clywed rhywun yn dyfynnu’r geiriau canlynol ryw dro, ‘O enau plant bychain ... ‘ neu wedi clywed y dywediad Saesneg, ‘Out of the mouths of babes oft times come gems’?
    - Beth ydych chi’n ei feddwl yw ystyr y dywediad yma?

    Gwrandewch ar ymateb rhai o’r plant.

    Awgrymwch ei fod yn golygu bod plant, hyd yn oed plant ifanc iawn, yn aml yn dweud rhai pethau doeth iawn.

  2. Gofynnwch i'r plant droi at y person nesaf atyn nhw a thrafod a ydyn nhw, ryw dro, wedi dweud unrhyw beth doeth sydd wedi helpu oedolyn mewn rhyw ffordd.

    Gwrandewch ar ymateb rhai o’r plant.

  3. Eglurwch y gallwn ddod o hyd i nifer o storïau am blant yn y Beibl. Trwy ddarllen y straeon hyn, rydyn ni’n dysgu bod Duw yn gwerthfawrogi plant yn fawr iawn, ac yn aml mae ganddo swyddi pwysig iddyn nhw eu gwneud. Anogwch y plant i wrando'n ofalus ar y stori sydd gennych chi heddiw, a meddwl am y cyngor doeth a roddodd y forwyn fach i Naaman.

    Dangoswch Sleid 2.

    Y milwr a’r forwyn
    fach

    Unwaith roedd dyn o'r enw Naaman a oedd yn filwr dewr iawn – yn wir, roedd yn bennaeth byddin.  Ond roedd Naamanyn teimlo'n drist, a hefyd yn teimlo ychydig yn ofnus, oherwydd roedd yn dioddef o'r gwahanglwyf. Roedd ei groen yn troi'n wyn ac nid oedd yn gallu teimlo pethau'n iawn. Doedd neb yn gwybod sut i'w wella.

    Roedd byddin Naaman wedi dal llawer o bobl yn eu brwydrau ac un o'r bobl hynny oedd merch ifanc a ddaeth yn forwyn i wraig Naaman. Gwelodd y ferch ifanc pa mor drist oedd Naaman a chofiodd, bod proffwyd o'r enw Elias yn byw yn ei thref enedigol, filltiroedd lawer i ffwrdd. Gwyddai'r ferch pan fyddai Elias yn gweddïo ar Dduw, byddai llawer o bobl yn cael eu gwella o’u gwaeledd. Felly, fe fagodd ddigon o blwc, aeth at ei meistres a dweud, ‘Yn Samaria, y lle rwyf fi'n dod ohono, mae yna ddyn Duw o'r enw Elias. Pan fydd Elias yn gweddïo ar ran pobl, bydd Duw yn eu gwella. Pe byddai Naaman yn mynd i'w weld, fe fyddai'n cael ei wella o'r gwahanglwyf.’

    Fe anfonodd gwraig Naaman y neges hon at Naaman, ac fe welodd ef fod hwn yn syniad pur dda. Cafodd ganiatâd gan y brenin i fynd ar y daith hir a chychwynnodd yng nghwmni nifer o bobl, ac roedd ganddo lythyr o gyflwyniad a llu o drysorau i'w rhoi'n wobr pe byddai'n cael ei wella o'i wahanglwyf.

    Pan gyrhaeddodd Naaman o'r diwedd, curodd ar ddrws Elias. Gwas i Elias wnaeth agor y drws ac fe roddodd iddo neges i Naaman oddi wrth Elias. Y neges oedd, ‘Os wyt ti eisiau cael dy wella, dos i ymdrochi seithwaith yn Afon yr Iorddonen.’

    Roedd Naaman yn flin iawn bod Elias wedi anfon ei was ato yn hytrach na dod ei hunan i siarad ag ef. ‘Beth sydd mor arbennig am Afon yr Iorddonen?’ meddai'n flin wrth ei weision. ‘Onid oes yna lawer o afonydd yn fy ngwlad fy hun y gallwn i fod wedi ymdrochi ynddyn nhw?’

    ‘Pwyllwch!’ meddai un o weision Naaman. ‘Pe byddai wedi gofyn i chi wneud rhywbeth anodd iawn, fe fyddech chi wedi ei wneud, yn byddech? Pam na wnewch chi roi cynnig arni? Gadewch i ni weld beth wnaiff ddigwydd os gwnewch chi yn ymdrochi yn Afon yr Iorddonen.’

    Felly dyna'n union wnaeth Naaman.  Ar ôl ymdrochi bump o weithiau yn yr afon, doedd dim wedi digwydd. Roedd pawb yn dal eu hanadl - dim ond dwywaith i fynd eto! Ond pan gododd Naaman allan o'r dwr y seithfed tro, roedd ei wahanglwyf wedi diflannu'n llwyr - roedd ei groen mor llyfn â chroen plentyn!

    Rhuthrodd Naaman i gartref Elias a cheisio rhoi'r cyfan o'r trysor yr oedd wedi ei gario gydag ef iddo. Fodd bynnag, doedd Elias ddim angen unrhyw beth oherwydd Duw oedd wedi gwella Naaman, nid ef. Yn y diwedd, cytunodd Naaman. ‘Iawn,’ meddai, ‘ond os gweli di'n dda a gaf fi fynd â pheth o bridd dy dir adref gyda mi fel y gallaf sefyll arno ac addoli dy Dduw, yn ogystal?’

    Nodiodd Elias a gwenu wrth i Naaman gychwyn am adref – yn ôl at ei wraig, ac at y forwyn fach a oedd wedi rhoi cyngor mor dda iddo.

Amser i feddwl

Dangoswch Sleid 3.

Gofynnwch i'r plant droi at y person nesaf atyn nhw a thrafod y cwestiwn sy’n ymddangos ar y sleid.

- Pam ydych chi'n meddwl mai plentyn a ddywedodd wrth Naaman am fynd at Elias, ac nid oedolyn?

Gwrandewch ar ymateb rhai o’r plant.

Pwysleisiwch nad ydym yn wir yn gwybod yr ateb i'r cwestiwn hwn. Efallai bod y ferch fach yn fwy dewr na'r oedolion, neu efallai bod ganddi gof gwell. Efallai bod aelod o deulu’r forwyn fach wedi cael ei iacháu yn y gorffennol. Neu, efallai bod y forwyn fach yn syml yn fwy sylwgar na’r bobl eraill, neu fod y gweision a’r morynion hyn yn rhy brysur gyda'r holl bethau roedd yn rhaid iddyn nhw eu gwneud i sylwi.

Doedd yr hyn a ddywedodd y ferch wrth Naaman ddim yn gymhleth. Mae hi'n syml wedi dweud wrtho am rywbeth yr oedd hi wedi ei weld, a’i bod yn meddwl y gallai hynny ei helpu. Fe arweiniodd y weithred ddoeth a dewr hon at y ffaith i Naaman gael ei wella o'i wahanglwyf.

Pan fyddwn ni’n ifanc, fe allwn ni deimlo weithiau mai oedolion sy’n ein helpu ni yn hytrach na'r ffordd arall. Fodd bynnag, mae’n bosib i blant helpu oedolion mewn sawl ffordd, ac ni ddylem fod ag ofn ceisio gwneud hynny.

Dangoswch Sleid 4.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am y doethineb rwyt ti’n ei roi’n aml i blant.
Helpa ni, bob un ohonom, i ddweud pethau doeth wrth ein gilydd.
Helpa ni i feddwl cyn i ni ddweud rhywbeth.
Helpa ni i fod yn ddewr, ac i helpu pobl eraill sydd o’n cwmpas ni.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

Great big God’ (Vineyard Records UK, 2001) – ac os byddwch chi’n defnyddio’r gerddoriaeth fe allech chi ddefnyddio Sleid 5 ar gyfer y geiriau.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon