Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Bod yn ffrind i eraill

Er mwyn cael ffrindiau da, rhaid i chi fod yn ffrind da

gan Rebecca Parkinson (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2010)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried beth mae’n ei olygu i fod yn ffrind da.

Paratoad a Deunyddiau

  • Trefnwch fod y detholiad o'r delweddau canlynol ar gael gennych chi, sef delweddau’n ymwneud â chyfeillgarwch, a threfnwch fodd o’u dangos yn ystod y gwasanaeth:

    - grwp o ffrindiau ifanc, ar gael ar: <http://tinyurl.com/hp88tgg>
    - grwp o ffrindiau yn eu harddegau, ar gael ar: <http://tinyurl.com/z5sswrd>
    - rhai plant bach sy’n ffrindiau, ar gael ar: <http://tinyurl.com/zh8lnn9>
    - tair cath, ar gael ar: <http://tinyurl.com/jzbpv4b>
  • Fe fydd arnoch chi hefyd angen llunio rhestr o weithgareddau y gall y plant eu perfformio, sydd wedi eu cysylltu mewn rhyw ffordd â chyfeillgarwch. Er enghraifft, chwarae gyda'i gilydd, rhannu jôcs, mynd i dy rhywun am de, gofalu am rywun pan fydd ef neu hi yn drist, neu mewn helbul.

Gwasanaeth

  1. Dangoswch y delweddau i’r plant.

    Dangoswch y lluniau sydd wedi eu rhestru uchod i’r plant, a gofynnwch ydyn nhw’n gallu gweld rhyw gysylltiad rhyngddyn nhw. Y cysylltiad yw eu bod yn dangos rhyw agwedd ar gyfeillgarwch.

  2. Eglurwch yr hoffech chi i rai o’r plant ddod i’r tu blaen atoch chi mewn parau. Fe fyddwch chi’n rhoi tasg iddyn nhw actio neu feimio rhyw weithgaredd sy’n dangos rhywbeth y mae ffrindiau’n ei wneud gyda’i gilydd. Fe fyddwch chi eisiau i weddill y gynulleidfa ddyfalu beth maen nhw’n ei gyfleu.

    Gan ddefnyddio’r rhestr uchod, edrychwch a yw eich cynulleidfa’n gallu dyfalu beth yw’r gweithgaredd y mae’r plant yn ei actio yn eu tro? Fe allech chi ofyn a oes rhywun arall yn dymuno dod ymlaen i feimio neu actio rhyw weithgaredd arall y mae ffrindiau yn eu gwneud gyda’i gilydd, a gofyn i’r gynulleidfa ddyfalu eto.

  3. Holwch y plant a ydyn nhw’n cofio amser neu ddigwyddiad arbennig y gwnaethon nhw ei rannu gyda ffrind? Pam y gwnaethon nhw fwynhau eu hunain gymaint? Beth oedd yn gwneud yr achlysur yn un mor arbennig?

    Eglurwch i’r plant ei fod yn beth braf iawn cael ffrindiau i ofalu amdanom pan fyddwn ni’n teimlo’n drist. Ond mae’n bwysig hefyd ein bod ninnau’n gwneud ymdrech i fod yn ffrind da i bobl eraill. Mae gwir gyfeillgarwch yn ymwneud â beth fyddwn ni’n gallu ei roi i’n ffrindiau yn hytrach na beth mae ein ffrindiau yn gallu ei roi i ni.

  4. Awdur enwog o America yn y 19 ganrif oedd Ralph Waldo Emerson. Mewn traethawd yn ymwneud â chyfeillgarwch, fe ddywedodd ef mai’r unig ffordd i gael ffrind yw trwy fod yn ffrind, ‘The only way to have a friend is to be one.’ Holwch y plant beth maen nhw’n ei feddwl yw ystyr y dyfyniad yma. Eglurwch mai wrth roi pobl eraill yn gyntaf y gallwn ni fod yn ffrind, nid wrth fod yn hunanol a mynnu ein ffordd ein hunain.

  5. Mae dyfyniad enwog i’w gael yn y Beibl, yn Llyfr y Pregethwr, sy’n dweud hyn am gyfeillgarwch:
    ‘Y mae dau yn well nag un, oherwydd ... os bydd y naill yn syrthio, y mae’r llall yn gallu ei godi.’

Holwch y plant beth maen nhw’n feddwl yw ystyr yr adnod, ac yna rhowch foment neu ddwy iddyn nhw feddwl am sut y bydden nhw’n gallu helpu i ‘godi’ pobl eraill.

Amser i feddwl

Meddyliwch am y geiriau o’r Beibl ac am eiriau Ralph Waldo Emerson:
-‘Ymae dau yn well nag un, oherwydd … os bydd y naill yn syrthio, y mae’r llall yn gallu ei godi.’
-‘Yrunig ffordd i gael ffrind yw bod yn ffrind.(The only way to have a friend is to be one.)’

Meddyliwch am adeg pan fu rhywun yn ffrind o ddifrif i chi. Efallai eich bod wedi teimlo’n unig ryw dro, neu wedi bod yn teimlo’n drist, ac roedd rhywun wedi gofalu amdanoch chi. Efallai eich bod wedi cael trafferth i wneud rhyw wait, ryw dro, a bod rhywun wedi’ch helpu chi. Meddyliwch am gyfleoedd gawsoch chi eich hunan, ryw dro, i fod y ffrind da i rywun. Penderfynwch fod yn ffrind da i rywun heddiw.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am ein ffrindiau.
Diolch am yr hwyl y byddwn ni’n gallu ei gael gyda nhw, ac am yr adegau hapus y byddwn ni’n eu treulio gyda’n gilydd.
Helpa ni  fod yn ffrindiau da,
a helpa ni i beidio â bod yn hunanol, ond i feddwl bob amser am bobl eraill a’u hanghenion.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon