Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ydych chi’n fy adnabod i?

Ystyried pa mor bwysig yw dod i adnabod rhywun

gan Gordon Lamont (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2010)

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Ystyried y dylem werthfawrogi ein gilydd a chydnabod bod llwyddiant allanol ddim  yr un fath â lles mewnol.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen paratoi tri cherdyn mawr gyda’r canlynol wedi eu hysgrifennu arnyn nhw:

    - enw rhywun sy’n ymddangos ar raglen deledu realaeth, neu rywun sy’n enwog ar hyn o bryd
    - enw unigolyn y byddai’r plant wedi cael ei hanes neu wedi clywed amdano yn yr ysgol 
    - y  geiriau ‘Y plentyn hwn’ a saeth yn pwyntio am i lawr

    Cadwch y cardiau o’r golwg tan y foment briodol.

Gwasanaeth

  1. Eglurwch y gêm ‘Pwy ydw i?’ Bydd tri gwirfoddolwr yn dod ymlaen ac yn wynebu’r gweddill o’r plant. Bydd arweinydd y gwasanaeth yn dal y cerdyn cyntaf i fyny y tu cefn i’r gwirfoddolwr cyntaf, cerdyn a fydd yn dweud wrth bawb arall pwy mae’n ei gynrychioli. Gall y gwirfoddolwr wedyn holi hyd at 20 cwestiwn er mwyn darganfod pwy yw’r person. Rhaid i’r cwestiynau hyn fod yn rhai y gellir eu hateb gydag atebion fel Ie neu Na. Er enghraifft  fe allai’r gwirfoddolwr ofyn cwestiynau fel: Ai merch ydw i? Ydw i’n fyw? Ydw i ar y teledu? Ydych chi wedi clywed amdanaf fi yn yr ysgol? Ydw i’n rhywun o fyd chwaraeon neu fabolgampau? 


    Pan fydd y gwirfoddolwr wedi dyfalu pwy ydyw ef neu hi, caiff yr ail gerdyn ei ddal uwchben yr ail wirfoddolwr, ac ymlaen. 

  2. Chwaraewch y gêm. Byddwch yn barod i gefnogi wrth awgrymu rhai cwestiynau; er bod hon yn gêm syml fe all fod yn anodd i rai o’r plant feddwl am gwestiynau i’w gofyn. Fe allech chi ofyn i weddill y plant awgrymu cwestiynau hefyd, efallai - os gallan nhw wneud hynny heb ddatgelu gormod pwy yw’r cymeriad.

    Pan fyddwch chi wedi cyrraedd y trydydd plentyn, gwnewch bwynt o danlinellu’r ffaith wedyn pa mor anodd oedd hi i’r plentyn sylweddoli pwy oedd ef neu hi! Cymeradwywch y gwirfoddolwyr a gofynnwch iddyn nhw fynd yn ôl i’w lle i eistedd.

  3. Eglurwch fod pawb erbyn hyn yn gwybod pwy oedd y tri pherson, ond a ydyn nhw’n eu hadnabod o ddifrif? Faint ydyn ni yn ei wybod o ddifrif am bobl? Er enghraifft, mae popeth a wyddom am rywun enwog yn cael ei drosglwyddo i ni trwy gyfrwng yr hyn y byddwn ni’n eu galw’n gyfryngau torfol - papurau newydd, cylchgronau, y teledu, y radio a’r rhyngrwyd. Allwn ni ddim dweud ein bod ni’n eu hadnabod o ddifrif, oherwydd dydyn ni erioed wedi eu cyfarfod! Dydyn ni ddim wedi cyfarfod â’r ail berson chwaith. Mae pawb ohonom wedi cyfarfod â’r trydydd (y plentyn) ond doedd ef neu hi ei hun ddim yn gwybod pwy oedd o neu hi hyd yn oed. Mae pobl yn llawer mwy cymhleth nag y mae’r 20 cwestiwn Ie/Nage yn gallu ei ddangos.

Amser i feddwl

Gofynnwch y cwestiynau sy’n dilyn, gan oedi i ganiatáu amser i feddwl ar ôl pob un.

- Pwy ydw i’n ei adnabod orau?
- Pwy sy’n fy adnabod i orau?
-A fydd fy ffrindiau weithiau yn peri syndod i mi trwy fod yn wahanol i’r hyn rwy’n ei ddisgwyl?
-Sut y gallaf i ddod i adnabod pobl eraill yn well?

Mae gennym ni i gyd berthynas â phobl eraill. Weithiau, fe allwn ni gymryd y rhain yn ganiataol. Weithiau, fe allwn ni anghofio cymryd yr amser i fod yn ddiolchgar am y rhai sy’n ein caru ac yn gofalu amdanom. Weithiau, rydym yn gwneud rhagdybiaethau’n rhy sydyn ynghylch sut rai yw pobl o'r ffordd y maen nhw’n edrych neu oherwydd sut ddillad y byddan nhw’n eu gwisgo.

Gadewch i ni gymryd amser i fod yn ddiolchgar am y rhai sydd o'n cwmpas, a bod yn barod bob amser i ddod i adnabod pobl cyn i ni ffurfio barn amdanyn nhw.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon