Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Apêl y Pabi Coch

Pam bod Apêl y Pabi Coch yn digwydd bob blwyddyn?

gan Revd Alan M. Barker (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2009)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried arwyddocâd apêl flynyddol y Pabi Coch.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen cael Pabi Coch Dydd y Cofio a cherdd ar y thema. Mae’r gerdd, ‘In Flanders fields’, ar gael ar:http://tinyurl.com/qfplfu ac fe allech chi drefnu rhywun i’w darllen. Neu os hoffech chi gerdd Gymraeg, mae’r gerdd Y Pabi Coch i’w chael yn y gyfrol, Cerddi’r Cof; Gwasg y Dref Wen. Mae’r bardd yn gweld y milwr fel y blodyn, ac mae’n gorffen gyda’r geiriau:

‘Ond rhywun â didostur law

A'th gipiodd o'th gynefin draw

I estron fro, a chyn y wawr

Syrthiaist, a'th waed yn lliwio'r llawr.’

  • Fe fydd arnoch chi angen darn mawr o gerdyn gyda’r gerdd acrostig hon wedi ei hysgrifennu arno ar gyfer Cam 6 y Gwasanaeth.

    Parchwn y rhai sy’n ein gwasanaethu
    A meddyliwn am y bobl hynny sy’n dioddef.
    Bydd llawer o bobl yn dioddef oherwydd rhyfel.
    I bawb, ym mhob man, mae heddwch yn bwysig.  

    Cydymdeimlwn â’r rhai sy’n gweithio dros gael heddwch i’n byd    
    Oedwn am funud i wneud hynny, a
    Chofiwn!
  • Cadwch mewn cof deimladau a gofidiau rhai sy’n perthyn i gymuned yr ysgol sydd ag aelodau o’u teuluoedd yn gwasanaethu ar hyn o bryd yn y lluoedd arfog.
  • Mae rhagor o wybodaeth am Apêl y Pabi Coch ar gael ar:www.britishlegion.org.uk

Gwasanaeth

  1. Dangoswch eich Pabi Coch Dydd y Cofio.

    Trafodwch arwyddocâd y pabi coch. Mae’r blodau pabi coch papur yn cael eu gwerthu bob blwyddyn gan y Lleng Brydeinig (Royal British Legion)– elusen sy’n darparu gofal a chefnogaeth i rai sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, a rhai sydd yn y lluoedd arfog ar hyn o bryd hefyd.

  2. Cynhaliwyd Diwrnod y Pabi am y tro cyntaf yn 1921, dair blynedd ar ôl i’r Rhyfel Byd Cyntaf ddod i ben. Yn ystod y rhyfel hwnnw, cafodd dros 18 miliwn o bobl eu lladd ledled y byd a chafodd 23 miliwn arall eu hanafu. Daeth miloedd o bobl ifanc adref o’r rhyfel wedi eu hanafu mor ddrwg fel nad oedden nhw’n gallu gweithio wedyn, ac roedden nhw wir angen help.

    Dewiswyd y pabi coch fel symbol i’r apêl am help iddyn nhw. Roedd y blodyn hwn i’w weld yn y caeau yn Fflandrys, yng ngorllewin gwlad Belg. Yn y fan honno y digwyddodd peth o’r brwydro mwyaf ofnadwy yn ystod y rhyfel i gyd. Ac yn ystod yr haf roedd y blodau coch i’w gweld yn tyfu yn y caeau a oedd wedi cael eu difrodi oherwydd yr holl ymladd. Roedd y blodau’n gain ond yn wydn, ac roedd lliw coch y blodyn yn atgoffa pobl am yr holl golli gwaed a ddigwyddodd yn ystod y rhyfel.
  3. Cerdd Saesneg a ysgrifennwyd gan fardd o’r enw John McCrea a fu’n ysbrydoliaeth i sefydlu Diwrnod y Pabi Coch, cerdd yn dwyn y teitl ‘In Flanders Fields’. (Efallai yr hoffech chi ddarllen y gerdd. Neu o bosib, fe allech chi ddarllen cerdd y bardd Cymraeg I. D. Hooson, Y Pabi Coch).

    Os byddwch am ddarllen y gerdd, ‘In Flanders fields’, mae ar gael ar:http://tinyurl.com/qfplfuneu fe allech chi drefnu rhywun i’w darllen i chi.
  4. Caiff y blodau pabi coch papur sy’n cael eu gwerthu yr adeg hon o’r flwyddyn eu cynhyrchu mewn ffatri o eiddo’r Lleng Brydeinig. Mae’r ffatri’n cyflogi dynion a merched sy’n gyn-aelodau o’r lluoedd arfog - llawer ohonyn nhw ag anableddau oherwydd eu bod wedi cael eu hanafu yn y rhyfeloedd. Caiff tua 36 miliwn o’r pabïau eu gwneud bob blwyddyn! Y gweithwyr yn y ffatri sy’n gwneud y torchau pabi sy’n cael eu gosod ar gofadeiladau rhyfel mewn gwasanaethau ar Ddydd y Cofio hefyd.

  5. Pwysleisiwch y ffaith, pan fyddwn ni’n prynu pabi, rydyn ni’n cefnogi’r gwaith lles a gofal y mae’r Lleng Brydeinig yn ei wneud. Wrth wisgo’r pabi rydyn ni’n dangos ein bod ni’n cofio, ac yn meddwl am bobl eraill, ac yn werthfawrogol o’r rhai wnaeth roi eu bywyd i’n hamddiffyn ni. Mae hefyd yn ein hatgoffa am y rhai hynny sy’n wynebu rhyfel yn ein dyddiau ni a’r bobl sy’n ymladd dros heddwch.

  6. Dangoswch y gerdd acrostig i’r ‘Pabi Coch’.

    Pan fyddwch chi’n gwisgo pabi coch, fe fyddwch chi’n gallu dweud:

    Parchwn y rhai sy’n ein gwasanaethu
    A meddyliwn am y bobl hynny sy’n dioddef.
    Bydd llawer o bobl yn dioddef oherwydd rhyfel.
    I bawb, ym mhob man, mae heddwch yn bwysig.  

    Cydymdeimlwn â’r rhai sy’n gweithio dros gael heddwch i’n byd    
    Oedwn am funud i wneud hynny, a
    Chofiwn!

Amser i feddwl

Gwahoddwch eich cynulleidfa i feddwl yn dawel am bob un o’r pwyntiau hyn sydd yn y gerdd.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch am y rhai hynny sydd wedi rhoi eu hunain er mwyn amddiffyn eraill.
Diolch am bawb a ymladdodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd i geisio dod â heddwch i'r byd.
Bydd gyda phob un sy'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog heddiw.
Helpa bob un ohonom i wneud ein rhan tuag at ddod â heddwch i’r byd.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon