Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

The New Year

Meddwl am ddechrau’r flwyddyn newydd ac ystyried y newidiadau allai ddod yn ei sgîl.

gan Jan Edmunds

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Meddwl am ddechrau’r flwyddyn newydd ac ystyried y newidiadau allai ddod yn ei sgîl.

Paratoad a Deunyddiau

  • Chwiliwch am focs cardfwrdd mawr; os oes gennych chi amser, fe allech chi ei orchuddio i’w wneud yn ddeniadol.

  • Rhowch label ar un ochr, ‘Ein Haddunedau Blwyddyn Newydd’. Gosodwch y bocs fel bod y plant yn ei weld, ond ddim yn gweld y label.

  • Fe fydd arnoch chi angen pad o bapurau ysgrifennu a phin ffelt. Fe fyddai OHP yn ddefnyddiol ar gyfer y gerdd.

Gwasanaeth

  1. Bore da, bawb. Nawr fod cyfnod y Nadolig wedi dod i ben, fe allwn ni edrych ymlaen at flwyddyn newydd, tymor newydd a dechrau newydd.

    Rwy’n siwr eich bod wedi cael amser da dros y gwyliau ac wedi cael llawer o anrhegion, a llawer o bethau da i’w bwyta.

    Dyma’r adeg o’r flwyddyn pan fydd llawer ohonom ni’n gwneud Addunedau Blwyddyn Newydd. Rydyn ni’n penderfynu beth hoffen ni ei newid yn ein ffordd o fyw, neu benderfynu gwneud rhywbeth fydd yn ein gwneud yn bobl well. (Efallai yr hoffech chi roi enghraifft o rywbeth rydych chi wedi penderfynu ei wneud; gofynnwch i aelodau’r staff ymuno yn y drafodaeth a datgelu rhai o’u bwriadau da nhw - ond cofiwch eu rhybuddio o flaen llaw os ydych am wneud hyn!)

  2. Dyma focs gwag (dangoswch y bocs, gan ei droi fel y gall y plant ddarllen y label). 

    Gofynnwch i’r plant feddwl am funud am unrhyw addunedau y maen nhw efallai wedi meddwl amdanyn nhw eisoes ar gyfer y flwyddyn newydd. Rhowch gyfle iddyn nhw sôn ychydig am eu haddunedau.  Ond os oes angen rhoi hwb iddyn nhw, fe allech chi awgrymu addunedau fel gweithio’n galetach yn yr ysgol, helpu mwy gartref, cynilo peth o’u harian poced yn hytrach na’i wario i gyd, ceisio peidio dweud geiriau hyll, bwyta bwyd mwy iach, bod yn garedig a gofalgar, ac ati. 

    Dywedwch yr hoffech chi lenwi’r bocs gyda’u hawgrymiadau a’u syniadau am sut y mae’n bosib gwneud pethau er gwell ar ddechrau blwyddyn newydd fel hyn. Anogwch y plant i roi eu dwylo i fyny a thrafod.

  3. Yn dibynnu ar yr ymateb, dewiswch gyda dangos dwylo, y bwriadau da mwyaf poblogaidd.  Ysgrifennwch y rhain yn syml ar ddarnau o bapur ar wahân, a gofynnwch i’r plant eu rhoi yn y bocs i chi.

  4. Nawr ein bod ni wedi rhoi’r addunedau yma yn y bocs, gadwech i ni obeithio y byddwn ni’n gallu eu cadw.

  5. Mae blwyddyn newydd fel antur anhysbys. Dydyn ni ddim yn gwybod beth fydd yn digwydd, na ble byddwn ni’n mynd. Mae fel gyrru ar hyd ffordd a ninnau ddim yn gwybod beth sydd rownd y gornel, neu ddringo i ben bryn heb wybod sut olygfa fydd yr ochr arall o ben y bryn, neu fynd drwy dwnnel hir yn meddwl sut le fydd yna ar yr ochr arall pan ddown i allan o’r twnnel.  Fe fyddwn ni’n cyfarfod ffrindiau newydd, yn dysgu pethau newydd, ac fe fyddwn ni flwyddyn yn hyn.  Mae cymaint o bethau yn digwydd i ni na allwn ni eu newid, maen nhw y tu hwnt i’n  rheolaeth ni.

    Ond, fe allwn ni, benderfynu sut rydyn ni am ymddwyn, a sut byddwn ni’n ymwneud â phobl eraill. Gadewch i ni ddechrau’r flwyddyn newydd yma yn llawn gobaith y bydd pob un ohonon ni, mewn rhyw ffordd, trwy’r hyn fyddwn ni’n ei ddweud neu yn ei wneud, yn gallu gwneud ein byd yn well lle i fyw ynddo.

  6. Dywedwch wrth y plant y bydd hi’n bosib iddyn nhw roi rhagor o addunedau yn y bocs pan fyddan nhw wedi cael mwy o amser i feddwl am y peth.  Fe allwch chi adael y bocs mewn man neilltuol yn yr ysgol iddyn nhw allu gwneud hyn.  Dywedwch eich bod yn edrych ymlaen at gael gweld beth fyddan nhw’n gobeithio’i wneud. (Mae’n bosib i rai athrawon ddefnyddio hwn fel ymarfer yn y dosbarth; fe allai’r canlyniadau fod yn ddiddorol, ac o bosib fe allech chi ddefnyddio peth o’r deunydd sy’n cael ei gyflwyno fel sail i wasanaethau yn y dyfodol.)

Amser i feddwl

Myfyrdod:
Mae’n flwyddyn newydd eto, cawn oriau lu o sbri.
Pwy wyr beth fydd yn digwydd? Pwy wyr pa beth wnawn ni?
Fe geisiwn addo’n ufudd, i wella’n ffyrdd o fyw
Trwy wneud llu o addunedau – a cheisio’u cadw’n driw!
Gobeithio daw heddwch eleni, a thangnefedd drwy y byd,
Fel gallwn weithio gyda’n gilydd, a chadw’n ddiogel i gyd.
Beth bynnag yw ein crefydd, beth bynnag yw ein ffydd,
Fe allwn ni helpu rhywun, fesul tipyn bach bob dydd.
(Os yw’r amser yn caniatáu, fe allech chi ofyn i’r plant ail ddarllen y gerdd gyda chi.)

Gweddi:
Mewn moment o ddistawrwydd, gadewch i ni ofyn i Dduw ein helpu i gadw ein haddunedau am y flwyddyn.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2006    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon