Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Bwriadau Da

Ystyried y bwriadau da (addunedau) y byddai’n bosib i ni eu gwneud.

gan Jan Edmunds

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried y bwriadau da (addunedau) y byddai’n bosib i ni eu gwneud.

Paratoad a Deunyddiau

  • Mae’r gwasanaeth yma wedi’i gynllunio i’w gyflwyno gan grwp o blant.
  • Ysgrifennwch y llythrennau BLWYDDYN NEWYDD fesul un yn fawr a lliwgar ar un ochr nifer o gardiau, a’r frawddeg gyfatebol o’r gerdd acrostig wedi’i hysgrifennu ar yr ochr arall. Trefnwch y plant fel eu bod yn darllen y brawddegau yn eu trefn, ac yna’n dal y cerdyn a’r llythyren arno i fyny i bawb ei weld.
  • Bydd angen rhagor o lefarwyr i ddweud y llinellau eraill. Mae’n bosib iddyn nhw ddysgu’r brawddegau, neu fe allan nhw hefyd eu darllen oddi ar gardiau.
  • Bydd angen ymarfer o flaen llaw, er mwyn gweld lle mae pawb i fod i sefyll, ac er mwyn ymarfer y llefaru. Fe fyddai OHP yn ddefnyddiol ar gyfer y weddi, os bydd angen.
  • Mae’n bosib ymestyn y gwasanaeth trwy ddefnyddio cerddi y mae’r plant eu hunain wedi’u cyfansoddi, neu eu myfyrdodau eu hunain am y flwyddyn newydd, ac efallai awgrymiadau am addunedau blwyddyn newydd yn ymwneud â bywyd ysgol.

Gwasanaeth

Llefarydd  1:  Dyna Nadolig arall drosodd, ac fe gawsom ni lawer o hwyl. Mae’n dymor newydd erbyn hyn, ac yn Flwyddyn Newydd. Dyma amser i ddechrau o’r newydd.

Llefarydd  2:  Mae dywediad yn sôn am ‘droi dalen newydd’. Mewn ffordd o siarad, dyma amser i droi’r dudalen a dechrau gwaith o’r newydd ar dudalen lân.

Llefarydd  3:  Fe fyddwn ni’n clywed am bobl yn gwneud Addunedau Blwyddyn Newydd. Efallai y bydd Dad am fynd ar ddiet, neu Mam am roi’r gorau i smocio. Efallai bydd brawd mawr neu gefnder am gynilo rhagor o’i gyflog, a chwaer fawr neu gyfnither am fynd i’r gampfa yn rheolaidd i wella’i ffitrwydd. Fe allen ni ddweud ein bod ni am wneud mwy o ymdrech gyda’n gwaith yn yr ysgol. Dyma gerdd yn ymwneud â rhai o’r pethau y mae pobl yn meddwl amdanyn nhw ar ddechrau blwyddyn. Mae nifer fawr o bobl yn gwneud addunedau, ond a ydyn nhw’n llwyddo i gadw’r bwriadau da yma ar hyd y flwyddyn?

Llefarydd  4:  B sydd am blwyddyn newydd a bwriadau da. Ar ddechrau blwyddyn newydd byddwn yn addunedu i newid ambell beth, er gwell.

Llefarydd  5:  L sydd am lwc dda. Gobeithio y bydd lwc dda yn eich dilyn ble bynnag yr ewch, pa un ai yn eich ardal leol, neu os byddwch chi’n teithio ymhell.

Llefarydd  6:  W - am wedi mynd. Mae’r hen flwyddyn wedi mynd a’r flwyddyn nesaf wedi dechrau.

Llefarydd  7:  Y - am ymlaen. Felly, edrychwn ymlaen ac ymdrechu i geisio gwneud ein gorau.

Llefarydd  8:  Dd. Mae gennym ni i gyd ddoniau, pob un â rhyw ddawn wahanol ...

Llefarydd  9:  Y ... a chydag ymroddiad ac ymarfer, fe allwn ni wneud gwaith rhagorol.

Llefarydd  10:  N sydd am newid. Fe allwn ni newid ychydig ar ein ffordd, pawb sy’n awyddus.

Llefarydd  11:  N sydd am newydd. Dyma gyfle newydd i droi dalen newydd a gweithio yn drefnus.

Llefarydd  12:  E sydd am yr effaith dda yr hoffem ei weld yn ystod y flwyddyn.

Llefarydd  13:  W sydd am wynebu, wynebu sawl her, neu wynebu anawsterau pan fydd pethau yn ein herbyn.

Llefarydd  14:  Y sydd am ynghyd, pawb gyda’i gilydd, yn ceisio cadw’u haddunedau.

Llefarydd  15:  Dd am ddisgwyliadau, a’r gobaith am bethau da i ddod i’n bywydau.

Llefarydd  16:  Felly, Blwyddyn Newydd Dda, bawb. Gobeithiwn am flwyddyn heddychol.

Llefarydd  17:  A gobeithio hefyd y caiff pob un ohonom flwyddyn dda yn yr ysgol.

Amser i feddwl

Myfyrdod:

Meddyliwch am y gerdd i’r Flwyddyn Newydd unwaith eto, a gofynnwch i bob plentyn feddwl am beth fyddai’n bosib iddyn nhw ei wneud fel y bydd y flwyddyn newydd yn un dda i bawb yn yr ysgol.

Gweddi:

Annwyl Dduw,
Bydd gyda ni yn ein hysgol heddiw, yn ein gwaith ac yn ein chwarae.
Bydd yn ein calonnau, ac yn ein meddyliau, ac ym mhob peth y byddwn ni’n ei wneud a’i ddweud.
Hefyd, dysga ni sut i dyfu mewn cariad o ddydd i ddydd.
Amen.

 

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2007    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon