Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y Parot Bach Dewr

Archwilio’r syniad o arweinyddiaeth trwy esiampl dda.

gan Gordon and Ronni Lamont

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio’r syniad o arweinyddiaeth trwy esiampl dda.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen copi o’r stori The Brave Little Parrot. Cewch gopi ohoni ar-lein ar http://healingstory.org/the-brave-little-parrot/

  • Neu fel llyfr stori a lluniau: The Brave Little Parrot gan Rafe Martin a Susan Gaber (ISBN: 039922825X).

  • Os hoffech chi greu gwasanaeth sy’n cael ei gyflwyno gan ddosbarth, fe allech chi ddramateiddio’r stori trwy ddefnyddio meim, dawns, a cherddoriaeth, gan ddefnyddio gwisgoedd lliwgar a phypedau, efallai. Gallwch glicio ar ein hadran drama in assemblies http://www.assemblies.org.uk/resources/drama.php er mwyn cael rhagor o syniadau am adnoddau.

Gwasanaeth

  1. Cyflwynwch y stori gan ddweud mai hen chwedl Fwdhaidd yw hi. Darllenwch, neu adroddwch y stori yn eich geiriau eich hun, neu ei chyflwyno fel drama gan y plant.

  2. Holwch y plant am eu hymateb i’r stori. Pam y ceisiodd y parot ddiffodd y tân? Pam na wnaeth hedfan i ffwrdd oddi yno? Onid oedd ei weithred yn ddibwrpas – allai’r parot byth gario digon o ddwr i ddiffodd y fflamau? Pam y trodd un o’r duwiau ei hun yn eryr? Beth wnaeth i’r eryr ddechrau crio?

  3. Cyflwynwch y syniad o fod yn esiampl i eraill ac awgrymwch rai enghreifftiau mewn bywyd go iawn. Er enghraifft, rhywun yn peidio â bod yn gas wrth rywun arall, a phawb arall yn dilyn ac yn gwneud yr un peth. Neu rywun yn penderfynu ymdrechu i wneud rhyw gamp anodd mewn gwaith ysgol neu ym myd chwaraeon, a hynny’n rhoi’r hyder i rai eraill ymuno yn y gamp. Efallai bod rhywun dewr yn gallu gwrthwynebu bwli, ac ymhen ychydig mae’r bwli’n hollol ddiymadferth. Holwch y plant oes ganddyn nhw enghreifftiau eu hunain.

  4. Gorffennwch trwy atgoffa pawb nad oedd gan y parot bach dewr ddigon o nerth na’r gallu i ddiffodd y tân ar ben ei hun, ond roedd wedi trio’i orau, a dyna beth wnaeth arwain at yr hyn a ddigwyddodd, a’r duw’n diffodd y tân. Ceisio gwneud ein gorau yw’r hyn y gallwn ninnau ei wneud hefyd.

Amser i feddwl

Myfyrdod:
Meddyliwch am y parot bach dewr,
wnaeth ddal ati yn benderfynol o beidio rhoi’r gorau iddi.
Meddyliwch am y duw a drodd ei hun yn eryr ac a synnwyd gan ddewrder y parot bach.
Meddyliwch am y gwahaniaeth y gallech chi ei wneud pe mai chi fyddai’r un hwnnw a fyddai’n gwneud y peth iawn,
yr un a fyddai’n arwain trwy ddangos esiampl.

Gweddi
Rydyn ni’n meddwl am stori’r parot bach dewr.
Helpa ninnau i fod yn ddewr ac i wneud y peth iawn,
i arwain trwy ddangos esiampl.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2007    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon