Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Mae’n Dibynnu Ar Y Toriad!

Meddwl am fod yn ‘sêr’ ar y tu mewn, yn y ffordd rydyn ni’n trin pobl eraill.

gan Gordon and Ronni Lamont

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Meddwl am fod yn ‘sêr’ ar y tu mewn, yn y ffordd rydyn ni’n trin pobl eraill.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen dau afal mawr, cyllell finiog a bwrdd torri.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch: pwy sy’n gwybod beth sydd y tu mewn, yng nghanol afal? Gwerthfawrogwch yr holl atebion, fel hadau, ffrwyth yr afal, canol yr afal. Canolbwyntiwch ar ganol yr afal.

    Mae rhai pobl yn galw canol yr afal yn ‘galon’ yr afal. ‘Core’ yw’r gair yn Saesneg, ac mae hynny’n golygu canol neu galon rhywbeth, yn ddwfn y tu mewn. Maen nhw’n sôn am the ‘earth’s core’, sef  y rhan honno o’n planed sy’n ddwfn yn ei chanol.

  2. Cymerwch un o’r afalau a dywedwch, ‘Gadewch i ni sylwi ar graidd yr afal yma.’ Holltwch yr afal o’r top lle mae’r coesyn i’r gwaelod, gan ddangos canol yr afal yn ei groestoriad. Dangoswch y ddau hanner i’r plant, gan ofalu eu bod i gyd yn eu gweld yn iawn. Eglurwch ein bod wedi gweld yr hyn sydd y tu mewn i’r afal, ac rydym yn gwybod sut beth yw canol yr afal.

  3. Nawr, cymerwch yr ail afal gan ddweud, ‘Fel gwyddonwyr da, rydyn ni’n mynd i edrych eto ar du mewn yr afal, a chael ail olwg.  Dydyn ni ddim yn mynd i dderbyn un canlyniad yn unig, rydyn ni’n mynd i edrych eto er mwyn bod yn siwr.’ Y tro hwn, torrwch yr afal mewn ffordd arall, gan dorri trwy ganol yr afal, nid o’r top i’r gwaelod ond o’r ochr, oddi amgylch  y cyhydedd fel petai, fel bod yr afal yn ddyranedig. Y tro hwn fe welwch chi fod canol yr afal fel seren. Dangoswch ddau hanner yr afal i’r plant eto.  Gwelwch fod craidd yr afal neu ‘galon yr afal’, yn seren.

  4. Awgrymwch y gall ein craidd ninnau, neu ein calon ninnau fod yn seren hefyd. Bob dydd, yn y ein bywydau, yn y penderfyniadau y byddwn ni’n eu cymryd, y pethau y byddwn ni’n eu gwneud, y ffordd y byddwn ni’n siarad â phobl eraill ac ati; bob dydd fe allwn ni ddewis, os dymunwn ni, fod fel calon yr ail afal. Fe allwn ni ddewis bod yn seren os ydyn ni eisiau. Nid yn seren ffilm nac yn seren y byd pop, ond yn seren yn ein calon.

Amser i feddwl

Myfyrdod:
Sut y gallwch chi fod yn ‘seren yn eich calon’?
Pa bethau y byddwch chi’n eu dweud, ac yn eu gwneud, fydd yn helpu eraill, ac yn eich helpu i fod yn garedig a chadarnhaol?

Gweddi
Helpa ni i feddwl am eraill a’u hanghenion.
Helpa ni i fod yn sêr yn ein calonnau!
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2007    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon