Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gwyl Yr Holl Eneidiau

Egluro pam y mae’r Eglwys Gristnogol yn coffau Gwyl yr Holl Eneidiau (2 Tachwedd).

gan The Revd Sophie Jelley

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Egluro pam y mae’r Eglwys Gristnogol yn coffau Gwyl yr Holl Eneidiau (2 Tachwedd).

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen sachaid o ddail yr hydref, gorau oll os byddan nhw’n wahanol liwiau. (Peidiwch â’u casglu’n rhy gynnar rhag iddyn nhw droi’n frown ac yn gras.)

  • Cangen bren noeth.

  • Cerddoriaeth, ar gyfer yr amser i feddwl.

  • Nodwch: Fe allai’r gwasanaeth hwn arwain rhai plant i feddwl am rywun annwyl y maen nhw wedi’i golli, felly byddwch yn sensitif, yn enwedig tuag at blant sydd wedi cael profedigaeth yn eu teulu’n ddiweddar. Gall colli anifail anwes fod yn brofedigaeth i blentyn hefyd, felly byddwch yn ymwybodol o hynny yn ogystal.

Gwasanaeth

  1. Eglurwch fod pethau trist yn digwydd i ni ambell waith yn ein bywydau.  Mae’n gallu bod yn adeg anodd iawn i ni pan fydd rhywun rydyn ni’n ei garu yn marw. Efallai bod hyn wedi digwydd i rai o’r plant eisoes.  Heddiw, rydyn ni’n mynd i feddwl am un diwrnod arbennig ym mlwyddyn yr Eglwys pan fydd Cristnogion yn cofio am bobl sydd wedi marw, ac yn diolch am eu bywydau.  Yr enw ar y diwrnod arbennig hwn yw Gwyl yr Holl Eneidiau.

  2. Yr adeg hon o’r flwyddyn cawn ein hatgoffa am fywyd a marwolaeth drwy’r hyn welwn ni’n digwydd i’r coed a’r planhigion o’n cwmpas. Holwch y plant beth sy’n digwydd i ddail y coed. Pwy sy’n hoffi casglu ‘concyrs’ neu gnau castanwydden? Fe allech chi sgwrsio gyda’r plant am eich enghreifftiau eich hun, e.e. efallai fod gennych chi goeden fawr yn eich gardd, a’ch bod yn aml yn casglu cymaint â llond 25 sach o ddail wedi disgyn oddi arni, bob blwyddyn, tua’r adeg yma!

  3. Estynnwch y gangen rydych chi wedi dod â hi gyda chi i’w dangos i’r plant. Eglurwch fod y gangen yn edrych yn noeth am fod y dail i gyd wedi disgyn oddi arni. Pan fydd rhywun rydyn ni’n hoff iawn ohono wedi marw mae’n gallu teimlo’n debyg i’r gangen noeth hon - mae’n debyg y byddwn ni’n teimlo’n drist neu’n teimlo rhyw wacter y tu mewn i ni. Ond fe wyddom ni nad felly yr oedd y gangen bob amser.

  4. Dangoswch y sach i’r plant, a’r dail sydd ynddi. Gofynnwch i un o’r plant ddod i estyn dyrnaid o’r dail o’r sach, ac yna daliwch y dail i’r plant eu gweld. Eglurwch fod gan yr Eglwys Gristnogol adeg arbennig o’r flwyddyn pryd bydd yr aelodau’n meddwl am bobl sydd wedi marw, er mwyn dangos fod y bobl hynny wedi bod yn arbennig yn ein golwg, a dangos eu bod wedi bod yn arbennig yng ngolwg Duw hefyd.

  5. Nid yw Cristnogion yn meddwl mai diwedd bywyd yw marwolaeth. Maen nhw’n credu bod Iesu wedi dod yn ei ôl yn fyw eto, ar ôl iddo farw, er mwyn i bobl gael bywyd newydd gydag ef am byth.

  6. Gosodwch y gangen lle gall pawb ei gweld. Gofynnwch i rai o’r plant eich helpu i osod rhai o’r dail lliwgar ar y gangen neu o’i chwmpas. Efallai y gallech chi roi cyfle i ragor ddod ymlaen i wneud yr un peth, os yw amser yn caniatáu.

  7. Eglurwch fod y dail fel bywydau pobl yr ydyn ni’n dal i feddwl amdanyn nhw er eu bod wedi marw. Mae’n beth da meddwl amdanyn nhw a chael cyfle i ddeud diolch amdanyn nhw, oherwydd bod eu bywydau wedi bod yn bwysig i ni, ac yn bwysig i Dduw hefyd.

Amser i feddwl

Myfyrdod:
Chwaraewch gerddoriaeth dawel gan roi cyfle i’r plant feddwl am yr hyn y maen nhw wedi’i glywed.
Anogwch y plant i ddychmygu cylch bywyd y goeden, o’r gwanwyn, trwy’r haf, o’r hydref i’r gaeaf, ac yn ôl i’r dechrau wedyn yn y gwanwyn.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am bawb rwyt ti wedi’u creu.
Pan fydd pobl yn marw, rydyn ni’n drist.
Helpa ni i gofio am yr adegau hapus gawsom ni yn eu cwmni.
Diolch i ti am y bywyd newydd rwyt ti’n ei roi.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2007    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon