Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Prys Brysiog

Atgoffa ‘r plant i feddwl cyn gwneud rhywbeth.

gan Jan Edmunds

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Atgoffa ‘r plant i feddwl cyn gwneud rhywbeth.

Paratoad a Deunyddiau

  • Does dim angen paratoi. Byddai OHP yn ddefnyddiol er mwyn cael darllen y gerdd.

Gwasanaeth

  1. Dywedwch fod y gerdd, sydd gennych chi i’w darllen heddiw, am fachgen o’r enw Prys, a fyddai Prys byth yn aros i feddwl cyn gwneud unrhyw beth.

    Prys Brysiog
    addasiad o gerdd gan Jan Edmunds 

    Fyddai Prys byth yn aros i feddwl cyn gwneud pethau.
    Fe neidiai i mewn i’r pwll nofio heb fand ar ei freichiau.
    Os byddai’n cerdded ar ben wal, neu’n dringo coeden,
    Fyddai dim gwahaniaeth gan Prys, ni hidiai ’run ffeuen!
    Fe giciai ei bêl yn y ty, er gwaetha’r ffaith bod ei fam yn ei ddwrdio.
    Er iddi ddweud wrtho am gadw draw oddi wrth ymyl y llyn - fe syrthiai iddo!
    Ni faliai Prys Brysiog, ni wrandawai ar neb yn ei rybuddio -
    Nes digwyddodd rhywbeth un dydd na wnaiff byth ei anghofio.

    Roedd Prys yn llawn cyffro, roedd hi’n Noson Tân Gwyllt,
    Roedd wedi prynu rocedi ac eisiau eu tanio yn syth.
    Heb feddwl am y perygl, daliodd un yn ei law,
    Roedd yn benderfynol o’i thanio, beth bynnag a ddaw.
    Taniodd y fatsien a chynnau’r roced wrth ei chynffon,
    Anwybyddodd Prys y rhybuddion oedd wedi’u hailadrodd mor gyson.
    A dyna ffrwydrad anferthol, dychrynllyd!
    Roedd Prys, unwaith eto, wedi ymddwyn yn ynfyd.

    Fe ddioddefodd yn ddrwg, bu’n rhaid iddo fynd i’r ysbyty,
    Dioddefodd losgiadau a phoenau ofnadwy.
    Roedd ei rieni wedi dychryn ac yn poeni yn arw.
    ‘Prys, bach!’ meddai’r ddau, ‘Fe allet ti fod wedi marw.’
    Sylweddolodd Prys eu bod yn dweud y gwir o ddifri,
    A nawr mae’n ystyried yn ddwys, cyn gwneud dim, bob tro ers hynny.

    Felly, fe ddysgodd Prys ei wers mewn ffordd galed,
    Pe bai wedi aros i feddwl, byddai wedi cael ei arbed.
    Nawr mae’n rhybuddio pobl eraill i fod yn ofalus -
    Meddyliwch cyn gwneud unrhyw beth, rhag i chi fod yn anffodus!

  2. Rhowch gyfle i’r plant drafod y gerdd. Atgoffwch y plant, er bod Tachwedd 5 yn gallu bod yn noson o hwyl, mae’n bwysig iawn iddyn nhw feddwl am yr hyn maen nhw’n ei wneud, a bod yn ofalus.

  3. Holwch y plant sut y gallan nhw fod yn ystyriol o bobl eraill, e.e. cymdogion, a hyd yn oed ein hanifeiliaid anwes. Uwchlaw popeth arall, sgwrsiwch am sut y gallan nhw ofalu eu bod yn cadw’n ddiogel trwy drafod y Cod Tân Gwyllt.

Amser i feddwl

Rydyn ni wedi gwrando ar y gerdd am y bachgen o’r enw Prys Brysiog. Pan fyddwn ni’n llawn cyffro am rywbeth, dydyn ni ddim bob amser yn aros i feddwl am bethau, a dyna pryd y bydd damweiniau’n digwydd. Mae hwyl i’w gael ar Noson Tân Gwyllt, ond mae hefyd yn gallu bod yn beryglus.
Gadewch i ni ofyn i Dduw ein dysgu i feddwl yn ofalus cyn i ni ddweud neu wneud pethau, fel na fyddwn ni’n niweidio ein hunain na neb arall. Gofynnwch iddo fod gyda ni, a’n cadw’n ddiogel, y dydd hwn a hyd byth.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2007    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon