Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gwaith Tim

Annog y plant i weithio fel tîm.

gan The Revd Oliver Harrison

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Annog y plant i weithio fel tîm.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen dwy ddalen o bapur A4 gyda 9 smotyn mawr arnyn nhw, yn ffurfio siâp sgwâr (Tair rhes o 3 smotyn).

  • Pensil a phin ffelt du.

  • Darn o raff gyda’r ddau ben wedi’u clymu i ffurfio dolen.

  • Tair pêl (byddai peli golff air flight yn ddelfrydol).

  • Darlleniad o’r Beibl: Marc 6.30–44.

Gwasanaeth

  1. Gwahoddwch dri o blant sydd yn dda am ddatrys problemau i ddod allan atoch.  Bydd y cyntaf yn cael ei wahodd i ymuno 9 o ddotiau â’i gilydd (ar ffurf sgwâr gyda dot yn y canol) trwy ddefnyddio pedair o linellau syth, gyda’r bensel ddim yn cael ei chodi oddi ar y papur.  Gadewch iddyn nhw feddwl am hyn os na fyddan nhw wedi datrys y broblem yn syth (go brin y byddan nhw wedi gallu gwneud hynny). 

    Gwahoddwch yr ail blentyn i ddal rhaff ar ffurf sgwâr er mwyn i’r ysgol gyfan ei weld.  (Bydd plentyn craff  yn defnyddio’i ddwylo a’i draed).

    Bydd y trydydd plentyn yn cael ei alw ymlaen i daflu tair pêl i’r awyr a’u dal. (Efallai ei fod yn gallu jyglo).

  2. Yn awr, anogwch i’r cyntaf i ofyn am gyngor. Efallai y bydd rhai yn awgrymu dechrau yn un o’r corneli, ond i’r llinell gyntaf fynd y tu hwnt i’r gornel nesaf.  Os na, awgrymwch hyn.  Gadewch iddyn nhw barhau i bendroni. 

    Gwahoddwch yr ail blentyn i ddewis rhywun i’w helpu.  Gyda’i gilydd, fe ddylen nhw allu dal y rhaff ar ffurf sgwâr fel bo’r ysgol i gyd yn ei weld.

    Gadewch i’r trydydd plentyn ddewis dau blentyn arall i’w helpu. Fe allen nhw daflu un bêl yr un i’r awyr.  Neu fe allen nhw wneud gêm ohoni a thaflu pêl at y naill a’r llall.

  3. Os nad yw’r plentyn cyntaf wedi datrys y broblem, dangoswch yr ateb i’r pos cyntaf gyda marciwr.  

    Os yw’r dotiau yn safleoedd (1,1) (1,2) (1,3) (2,1) (2,2) (2,3) (3,1) (3,2) (3,3), yna bydd y llinell gyntaf yn dechrau o (1,1) i (1,4), yr ail o (1,4) i (4,1), y trydydd o (4,1) to (1,1), a’r bedwaredd linell o (1,1) i (3,3).

  4. Stori: Porthi’r Pum Mil (Marc 6.30–44). Adroddwch y stori gan bwysleisio:

    Y berthynas rhwng Iesu a’i ddisgyblion 
    Yr ymwneud â phethau fel rhan o’r tîm (adnod 37)
    Ufuddhau i’r arweinydd (adnod 39)
    Dysgu trwy efelychu (adnod 41: roedd yn rhaid i’r disgyblion ymddiried yn Nuw i barhau’r wyrth)
    Llwyddiant y gwaith tîm (adnod 43).]

Amser i feddwl

Gadewch i’r plant edrych ar y posau unwaith yn rhagor. Pwysleisiwch mor bwysig yw gweithio fel tîm os ydyn ni eisiau datrys llawer o’r problemau bach sy’n dod i’n rhan o ddydd i ddydd.

Gweddi
Dad Nefol,
Diolch i ti bod cymaint i’w ddysgu.
Helpa ni i ddeall trwy ddyfalbarhau, a meddwl drosom ein hunain sut i ddatrys ein problemau, 
trwy wrando hefyd ar gyngor da, 
a thrwy ddilyn pobl sy’n gwybod yn well.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2007    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon