Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Byddwch Yn Barod

Dangos pa mor bwysig yw cynllunio neu baratoi o flaen llaw.

gan Jan Edmunds

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Dangos pa mor bwysig yw cynllunio neu baratoi o flaen llaw.

Paratoad a Deunyddiau

  • Does dim angen paratoi. Ond os hoffech chi ddefnyddio’r gwasanaeth fel cyflwyniad dosbarth, fe allai grwp o blant feimio’r symudiadau yn y stori. Fe allai plant CA2 gyflwyno’r gwasanaeth ar gyfer plant CA1.
  • Mae’n bosib ymestyn y deunydd mewn sawl ffordd, a’i ddefnyddio mewn gwasanaeth diolchgarwch am y cynhaeaf. Fe allai cyfarpar gweledol fod yn ddefnyddiol i ddarlunio sawl pwynt, e.e. cês dillad i’w bacio ar gyfer trafod paratoi ar gyfer gwyliau, pensil a phapur ar gyfer llunio rhestr siopa, llyfr resipis  neu eitemau ar gyfer coginio, etc.
  • Fe fyddai OHP/ bwrdd gwyn yn ddefnyddiol os hoffech chi i’r gynulleidfa ymuno i gydadrodd y weddi; a siart troi a phin ffelt os byddwch chi am lunio rhestrau  gyda’r plant.

Gwasanaeth

  1. Cyflwynwch stori Wali Wiwer.

    Roedd Wali Wiwer wrth ei fodd yn chwarae. Roedd wrth ei fodd yn rhedeg ar ôl dail a oedd yn cael eu chwythu gyda’r gwynt. Byddai wrth ei fodd yn dal y moch coed oedd yn disgyn o’r coed pîn, ac wrth ei fodd yn neidio o gangen i gangen yn uchel ar frig y goeden. Roedd digonedd o fwyd i’w gael, ac yn aml ar ôl iddo fwyta llond ei fol, fe hoffai orweddian yn heulwen yr haf yn gwrando ar swn y nant a sain cân yr adar bach. Doedd Wali ddim yn deall pam fod ei ffrind, Washi Wiwer, mor brysur bob amser. Fe fyddai Washi wrthi’n casglu mwsogl a gwair sych i atgyweirio’i nyth, neu’n casglu cnau a mes i’w cadw yn ei ystorfa at y gaeaf. Roedd Washi wedi rhybuddio Wali y byddai’r tywydd yn oeri cyn hir ac na fyddai mor hawdd dod o hyd i fwyd i’w fwyta. Doedd  Wali’n malio dim - dim ond mwynhau pob dydd ar y tro heb bryderu am yfory.

    Yn fuan, roedd y dydd yn dechrau byrhau ac yn wir, yr oedd y tywydd yn oeri. Doedd hi ddim cymaint o hwyl chwarae yn y coed yn ystod y dydd erbyn hyn. Doedd Wali ddim yn gallu dod o hyd i fwyd. Roedd yn teimlo’n oer ac eisiau  bwyd. Roedd y glaw yn diferu trwy’r tyllau yn ei nyth a dechreuodd deimlo’n anghyfforddus a diflas iawn. Roedd y gwiwerod eraill yn chwerthin am ei ben ac yn dweud mai arno ef ei hun yr oedd y bai, am fod mor ddiog a diofal trwy’r haf. Doedd yr un ohonyn nhw am ei helpu, a throdd pawb eu cefnau arno. Dechreuodd Wali fynd yn deneuach a  theneuach Yn wir, roedd golwg druenus iawn arno. Roedd hi’n aeaf erbyn hyn, ac roedd barrug dros y ddaear a’r coed. Ofnai Wali y byddai’n marw yn yr oerfel.

    Gallai Washi Wiwer weld pa mor anghenus ac mor anobeithiol yr oedd Wali. Fe wyddai Washi y byddai Wali’n marw cyn y gwanwyn oni bai fod rhywun yn ei helpu. Felly fe roddodd Washi wahoddiad i Wali i’w nyth bach clyd a rhannu ei stôr o gnau a mes gydag ef. Roedd Wali mor ddiolchgar, ac fe sylweddolodd mor hunanol yr oedd wedi bod trwy’r haf. Roedd yn ddrwg ganddo am ymddwyn fel y gwnaeth. Ac fe addawodd y byddai, o hynny allan, yn paratoi ar gyfer y gaeaf y tro nesaf, fel y dylai pob creadur call ei wneud.

    Roedd Wali wedi dysgu ei wers. Fe gadwodd at ei air, ac er ei fod yn dal i fwynhau chwarae yn y tywydd braf, roedd hefyd yn gofalu treulio digon o amser yn paratoi ar gyfer y dyfodol.

  2. Pwyntiau fel awgrym ar gyfer trafodaeth:

    Fe ddysgodd Wali trwy’r ffordd anodd. Fe ddylem i gyd geisio deall pa mor bwysig yw paratoi a chynllunio ar gyfer y dyfodol.

    Efallai bod rhai o blant yr ysgol yn aelodau o’r Brownies, y Cubs neu’r Sgowtiaid. Yn 2007, roedd mudiad y Sgowtiaid yn dathlu  ei ganfed pen-blwydd. Mae’r mudiad yn addysgu pobl ifanc sut i helpu eraill ac i feddwl ymlaen llaw mewn ffordd ymarferol er mwyn gallu goroesi. Arwyddair y mudiad yw ‘Byddwch yn barod’.

    Allwn ni ddim trefnu na rheoli’r tywydd, ond fe allwn ni feddwl am y math mwyaf addas o ddillad i’w gwisgo i fynd allan i ganol pob math o wahanol dywydd.  A ddylen ni fynd ag ambarél gyda ni, neu got law, rhag i ni gael ein dal mewn cawod o law?

    Mae angen i athrawon baratoi eu hamserlen a’r gwersi. Pan fyddwn ni’n mynd i siopa, mae’n ddefnyddiol os byddwn ni wedi paratoi rhestr, o flaen llaw, o’r pethau rydyn ni angen eu prynu. Mae’r gwleidyddion yn y llywodraeth yn cynllunio ar gyfer yr hyn maen nhw’n ei feddwl sydd orau ar gyfer ein gwlad. Pan fydd gennym ni achlysuron arbennig, neu ddathliadau, mae gwaith trefnu ar y rhain, e.e. priodas neu wasanaeth bedydd. Efallai yr hoffai’r pant eich helpu i lunio rhestr o’r pethau hyn a’r pethau y byddai gofyn i chi eu trefnu ar gyfer dathliadau fel hyn.

    Neu  gwahoddwch y plant i feddwl am achlysuron eraill lle mae angen paratoi ar eu cyfer, e.e. mynd ar wyliau, trefnu parti pen-blwydd, etc. (Fe allech ddefnyddio rhywfaint o gyfarpar gweledol yma, os hoffech chi.)

    Os byddwch chi’n defnyddio’r gwasanaeth yma yn ystod y gwasanaeth diolch am y cynhaeaf, atgoffwch y plant fod pobl  mewn sawl gwlad trwy’r byd, ar hyd yr oesoedd, wedi paratoi ar gyfer y gaeaf. Maen nhw wedi casglu’r cnydau, y ffrwythau a’r llysiau er mwyn gofalu bod digon o fwyd ganddyn nhw iddyn nhw’u hunain ac i’w hanifeiliaid. Ffordd o ddiolch am y bwydydd a gawn i’w bwyta ac i’n cadw yn fyw yw gwyl diolchgarwch am y cynhaeaf.

Amser i feddwl

Myfyrdod

Ydych chi’n barod am y dydd sydd o’ch blaen?
Oes gennych chi bopeth rydych chi ei angen, ac a ydych chi’n barod i wneud y gorau o bopeth allai ddigwydd yn ystod y dydd?

Gweddi

Arglwydd Dduw,
dysga ni i fod yn barod am y dyfodol,
a dysga ni gynllunio o flaen llaw am y pethau y dylem fod yn eu gwneud.
Gad i ni obeithio y byddwn ni,
wrth gynllunio ein bywydau o ddydd i ddydd,
yn gallu dysgu ystyried pobl eraill ac yn gallu eu helpu.
Rydym yn diolch am ein bwyd
ac am yr holl bobl sy’n ymwneud â’r broses o ddod â bwyd i ni
a’i wneud yn barod i’w roi ar ein byrddau.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2007    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon