Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Popeth rydych chi’n ei Wybod

Helpu plant i feddwl am yr hyn maen nhw’n ei wybod, a sut maen nhw’n gwybod am y pethau hynny.

gan Gordon and Ronni Lamont

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Helpu plant i feddwl am yr hyn maen nhw’n ei wybod, a sut maen nhw’n gwybod am y pethau hynny.

Paratoad a Deunyddiau

  • Nid oes angen paratoi ymlaen llaw.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i’r plant feddwl am un peth y maen nhw’n gwybod na fyddai neb arall yn y gwasanaeth yn gwybod amdano.  Fe allai hynny fod yr hyn gawsoch chi i’w fwyta amser te neithiwr neu amser brecwast heddiw, fe allai fod yn atgof o’r amser pan oeddech chi’n iau, fe allai fod yn gyfrinach, neu fe allai fod yr hyn rydych chi’n meddwl amdano nawr, gan na all neb wybod beth yw hynny, yn sicr!

  2. Gofynnwch yn awr i bawb feddwl am rywbeth y maen nhw’n meddwl y byddai llawer o bobl o’u hamgylch yn ei wybod: pa ddiwrnod yw hi heddiw, lle rydych chi ar hyn o bryd, enw eich ysgol, ac yn y blaen.

  3. Cynhaliwch gwis sydyn, gyda’r plant i godi eu dwylo er mwyn ateb:

    Beth yw lliw fy nghrys/siwmper?
    Beth yw enw ein hysgol?
    I ble’r aeth Buzz Aldrin a Neil Armstrong yn 1969?


    Os yw unrhyw un yn cynnig y lleuad fel ateb, dywedwch fod hynny’n gywir, ond eich bod chi mewn gwirionedd yn meddwl am eu taith gyda’i gilydd i’r archfarchnad i brynu byrbrydau! 

    Nodwch fod yn rhaid i ni ddeall beth sy’n cael ei ofyn mewn gwirionedd er mwyn ateb cwestiwn yn iawn, ac er mwyn gofyn cwestiwn yn iawn, mae’n rhaid i ni gyfleu ein hunain yn glir iawn.  Gofynnwch a all unrhyw un wella eich cwestiwn am Buzz Aldrin a Neil Armstrong, e.e. i ba ran o’r bydysawd ac eithrio’r byd yr aethon nhw, neu ymhle wnaethon nhw gerdded lle nad oedd neb erioed wedi cerdded o’r blaen?

    Beth ydw i’n feddwl amdano ar hyn o bryd?

    Dywedwch na ar gyfer pob ateb.  Nodwch nad oes modd i unrhyw un wybod yr ateb go iawn oni bai eich bod chi’n dewis bod yn onest a dweud wrthyn nhw - a hyd yn oed wedyn, sut allan nhw fod yn siwr y gallan nhw ymddiried ynoch chi?  Felly, oni bai ein bod ni wedi profi rhywbeth ein hunain (fel yr hyn y gwnes i ei fwyta amser brecwast), mae rhai atebion na allwn ni fod yn sicr amdanyn nhw, ac ar gyfer pob ateb, mae’n rhaid i ni benderfynu a allwn ni ymddiried yn yr unigolyn, y llyfr, neu’r wefan sy’n rhoi’r ateb hwnnw.

  4. Awgrymwch y gallwn ni gael mwy o ffydd yn yr atebion a gawn os ydyn nhw’n dod o ffynhonnell ddibynadwy, fel rhywun sydd wedi bod yn gywir yn y gorffennol, rhywun gyda chefndir, fel athro, neu rywun ag enw da am ymddiriedaeth, fel y BBC neu gyhoeddwr addysgol.  Neu, pan fydd mwy nag un ffynhonnell yn rhoi’r un wybodaeth.

Amser i feddwl

Myfyrdod
Gofynnwch i’r plant feddwl yn ofalus heddiw am gwestiynau ac atebion.  Ydyn nhw’n gallu gofyn cwestiynau da, clir, ac ydyn nhw’n gallu meddwl sut y byddan nhw’n penderfynu ymddiried yn yr atebion y byddan nhw’n eu cael?

Gweddi
Diolch i ti am fyd gwybodaeth,
am bopeth rydym yn ei wybod
a’r holl bethau rhyfeddol sy’n parhau heb eu darganfod.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2007    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon