Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ar y tu mewn

Helpu plant i weld nad sut olwg sydd arnom ni ar yr ochr allan sy’n bwysig, ond sut rai ydym ni ar y tu mewn.

gan Rebecca Parkinson

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Helpu plant i weld nad sut olwg sydd arnom ni ar yr ochr allan sy’n bwysig, ond sut rai ydym ni ar y tu mewn.

Paratoad a Deunyddiau

Fe fydd arnoch chi angen nifer o eitemau sydd wedi’u cynhyrchu’n benodol i wneud i chi deimlo eu bod yn gwneud i chi deimlo’n harddach! Fe allai’r pethau hyn gynnwys colur, deunyddiau i steilio’ch gwallt, persawr, gemwaith, a dilladau crand.

Gwasanaeth

  1. Dangoswch eich eitemau i’r plant fesul un a holwch sut mae’r pethau hyn yn gallu eich helpu i fod yn harddach.  Er enghraifft, bydd y cynnyrch steilio gwallt yn eich helpu i osod eich gwallt mewn ffordd o’ch dewis a fydd yn gwneud i chi edrych yn dda. Bydd y gemwaith yn gwneud i chi edrych yn smart a thrwsiadus.

  2. Sylwch ar yr eitemau sydd gennych chi wedi’u dangos, a phwysleisiwch fod y pethau hyn wedi’u llunio i wneud i chi edrych yn dda ar y tu allan, ond nad ydyn nhw’n cael dim effaith ar sut rai ydym ni ar ‘y tu mewn’ - y ffordd rydyn ni’n meddwl neu'r ffordd rydyn ni’n teimlo tuag at bethau. Trafodwch y ffaith ei bod hi’n bosib i rywun edrych yn hardd ar y tu allan, gyda help y dillad maen nhw’n eu gwisgo neu oherwydd steil eu gwallt neu oherwydd eu bod yn gwisgo colur. Ond fe allai’r union bobl rheini fod yn bobl digon annymunol o’r tu mewn.

  3. Mae adnod yn y Beibl sy’n dweud rhywbeth fel hyn: ‘Yr hyn sydd yn y golwg y mae pobl yn ei weld, ond mae Duw yn gweld beth sydd yn y galon’ (aralleiriad o 1 Samuel 16.7). Gofynnwch i’r plant geisio egluro beth yw ystyr yr adnod a thafodwch yr hyn sy’n cael ei ddweud yma. Ceisiwch afael yn y syniad mai sut rai ydym ni ar y tu mewn sy’n bwysig mewn gwirionedd – sut rydyn ni’n meddwl ac yn teimlo, pa mor hael a chyfeillgar ydym ni a pha mor garedig.

  4. Eglurwch fod y math o bobl ydym ni o’r tu mewn yn llawer pwysicach na sut rydyn ni’n edrych ar y tu allan. Wedi dweud hynny, does dim o’i le ar wneud ymdrech i fod yn lân ac yn daclus, ac yn ddeniadol, trwy gymryd gofal i ymolchi’n lân, gwneud ein gwalltiau a gwisgo’n drwsiadus. Ond mae’n bwysig gwneud yr un math o ymdrech hefyd i ddod yn well pobl o’r tu mewn. Efallai nad yw pobl eraill yn gallu gweld hynny’n uniongyrchol - ond fe fyddan nhw’n sylwi pa fath o bobl ydym ni ac fe fyddan nhw’n mwynhau bod yn ein cwmni wedyn.

Amser i feddwl

Myfyrdod

Fyddwch chi’n edrych i lawr ar bobl weithiau am eu bod yn wahanol i chi? Efallai eu bod nhw’n gwisgo’n wahanol, neu’n gwrando ar gerddoriaeth wahanol i’r hyn rydych chi’n ei hoffi? Atgoffwch eich hunan mai’r hyn sy’n bwysig yw sut rai ydyn nhw ar y tu mewn.

Gweddi

Annwyl Dduw,

Diolch nad yw pethau materol,

fel y pethau rydyn ni’n eu gwisgo, neu’r ffordd rydyn ni’n edrych, neu faint o arian sydd gennym ni,

yn bwysig yn dy olwg di.

Diolch dy fod di yn edrych sut rai ydym ni ar y tu mewn.

Helpa ni i fod yn garedig ac yn hael ar y tu mewn.

Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon