Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Meddwl am yr Ardd ym Mis Chwefror

Cymharu garddio â meddwl – mae’r ddau beth angen gofal a’u meithrin!

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Cymharu garddio â meddwl – mae’r ddau beth angen gofal a’u meithrin!

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen catalog hadau gardd.

  • Dangoswch y pennill bach:
    Gardd yw eich meddwl,
    Eich meddyliau yw’r hadau.
    Bydd y cynhaeaf a gewch,
     naill ai’n chwyn neu yn flodau.

  • Dau amlinelliad neu lun mawr: un llun o flodyn ac un llun o chwyn.

  • Y brawddegau canlynol (neu rai tebyg), sydd naill ai’n feddyliau ‘blodau' neu’n feddyliau 'chwyn', pob un wedi ei hargraffu ar wahân, fel y gall y plant eu gosod ar/ o gwmpas llun y blodyn neu lun y chwyn:
    Roedd stori Mari’n ardderchog. 
    Fydd hi ddim yn gwybod fy mod i wedi cymryd y fisged heb ofyn.
    Dydw i ddim eisiau i Cai chwarae efo ni.
    Pam dylwn i wneud beth mae’r athro’n ei ddweud!
    Rwyt ti’n edrych yn bryderus. Alla i helpu?
    Mae’r athrawes yn ei dewis hi, Wena, yn gyntaf o hyd.
    Y gôl sgoriodd Morgan oedd yr un orau.
    Rydw i am helpu Mam heddiw.
    Dydw i ddim yn poeni amdano, arno fo roedd y bai.
    Rydw i’n mynd i geisio ysgrifennu’n daclus yn fy llyfr newydd.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i’r plant rannu eu syniadau â chi am yr ardd ym mis Chwefror. Sut olwg sydd ar y tir? Beth sydd i’w weld yn gorwedd ar y llawr? Beth sy’n tyfu? Pa greaduriaid sy’n dod i’r ardd?

  2. Dywedwch wrth y plant fod garddwyr da yn trefnu eu gwaith fel bod ganddyn nhw dasgau gwahanol i’w gwneud yn ystod gwahanol fisoedd y flwyddyn. Wrth gwrs, fe fydd rhai misoedd yn brysurach nag eraill iddyn nhw.

    Fe allai holi cwestiynau i un o’r athrawon sy’n hoffi garddio, neu holi’r un sy’n gofalu am dir yr ysgol, wneud hyn yn fwy diddorol i’r plant.

    Mae rhai tasgau cyffredin i’w gwneud yn yr ardd yn ystod mis Chwefror:
    - tocio llwyni a choed sydd wedi colli’u dail dros y gaeaf.
    - chwynnu a thacluso’r rhan o’r ardd lle mae llysiau gaeaf yn tyfu.
    - gofalu nad yw’r toriadau rydych chi wedi’u plannu’n sychu.
    - cael gwared â hen blanhigion marw a hen ddail a brigau.
    - trwsio a hogi’r offer garddio.
    - gofalu bod y planhigion sy’n methu gwrthsefyll yr oerni yn cael eu gwarchod rhag y rhew a’r tywydd oer..
    - atgyweirio ffensys.

    Eglurwch fod y pridd yr adeg hon o’r flwyddyn yn rhy wlyb ac oer fel rheol i ddechrau palu’r ardd.

  3. Dyma’r amser, ym mis Chwefror, y bydd y catalogau hadau yn dod trwy’r post. A dyma’r amser y bydd y garddwr yn cael ychydig o seibiant i eistedd i lawr gyda’i baned o de neu goffi i edrych trwy’r catalogau a chynllunio pa hadau i’w prynu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Mae cynllunio gardd hardd yn bleser. Holwch rai o’r plant beth fydden nhw’n ei ddewis i’w blannu yn eu gardd? 

    Smaliwch chwilio trwy’r catalog, a siarad â chi eich hun, gan ddweud rhywbeth tebyg i hyn: ‘Efallai y byddaf fi angen rhywfaint o flodau mam-gu (wall flowers) o gwmpas yr ardd gerrig, ac fe fydda i angen prynu mynawyd y bugail (geraniums) ar gyfer y tybiau. Mae lle wrth y wal rhwng y pys pêr (sweet peas) a’r rhosyn mynydd (peony) ar gyfer rhywbeth, ac rydw i eisiau rhagor o hadau blodau’r haul (sunflowers) eleni. A hefyd efallai yr hoffwn i brydu paced neu ddau o chwyn!’

    Rydych chi’n gobeithio y bydd y plant yn ymateb yn negyddol i’r frawddeg olaf hon, ac yn dweud y byddai’r chwyn yn difetha’r ardd.

  4. Dangoswch y gerdd a gofyn i’r plant ei darllen gyda’i gilydd. Gofynnwch am unrhyw awgrymiadau ynghylch ystyr y gerdd.

  5. Gofynnwch am wirfoddolwyr i ddod i’ch helpu i ddidoli’r ‘meddyliau blodau’ oddi wrth y ‘meddyliau chwyn’, a glynwch y rhain ar y lluniau priodol, sef y llun o’r blodyn a llun y chwyn sydd gennych chi wedi’u paratoi.

Amser i feddwl

Myfyrdod
Wrth i ni eistedd yma’n dawel, gadewch i ni wrando ar sut mae hyn yn cael ei ddweud yn y Beibl, mewn ffordd arall, ychydig yn wahanol:
‘Bellach, (blant), beth bynnag sydd yn wir, beth bynnag sydd yn anrhydeddus, beth bynnag sydd yn gyfiawn a phur, beth bynnag sydd yn hawddgar, a chanmoladwy, pob rhinwedd a phopeth yn haeddu clod, myfyriwch ar y pethau hyn.’ (Philipiaid 4.8)

Gweddi
Annwyl Dduw,
Helpa ni i fod yn ofalus ynghylch sut rydyn ni’n meddwl,
oherwydd bod yr hyn rydyn ni’n ei feddwl, yn aml, yn arwain at yr hyn fyddwn ni.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon