Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y Dywysoges a’r Bysen

Dangos ein bod yn unigryw ac yn arbennig, hyd yn oed pan na fyddwn yn cyrraedd y safonau y byddwn ni’n eu gosod i ni ein hunain, neu’r safonau y bydd pobl eraill yn eu gosod ar ein cyfer.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Dangos ein bod yn unigryw ac yn arbennig, hyd yn oed pan na fyddwn yn cyrraedd y safonau y byddwn ni’n eu gosod i ni ein hunain, neu’r safonau y bydd pobl eraill yn eu gosod ar ein cyfer.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Holwch y plant sut y bydden nhw’n gallu adnabod gwir dywysog neu dywysoges. Sgwrsiwch am balasau, cyfoeth, digwyddiadau cyhoeddus, etc.

  2. Adroddwch y stori The Princess and the Pea yn eich geiriau eich hun. Fe allech chi hefyd roi cyflwyniad byr am Hans Christian Andersen a’i storïau, neu ei chwedlau. 

    Sgwrsiwch am y syniad sydd y tu ôl i’r stori: sef y byddai gwir dywysoges mor gyfarwydd â chael gwely sydd mor esmwyth fel y byddai’n gallu teimlo peth mor fach â physen o dan sawl matres, ac fe fyddai hynny’n ei rhwystro rhag cysgu!

    Trafodwch a fyddai tywysoges yn gallu sefyll prawf felly, o ddifrif?

  3. Trafodwch y profion fydd yn dod i’n rhan mewn ysgol ac yn ein bywydau’n gyffredinol. Gofynnwch i’r plant rannu eu sylwadau â chi ynghylch pa brofion oedd yn hawdd, a pha rai oedd yn anodd. Fe allech chi siarad am arholiadau, wrth gwrs, ond fe allech chi hefyd sôn am brawf fel ceisio gwneud rhywbeth am y tro cyntaf, cwrdd â rhywun newydd, neu wneud rhywbeth oedd yn her fawr oedd yn profi eich gallu.

    Gofynnwch i’r plant ydyn nhw’n meddwl y gallai hyn fod yn wir yn achos oedolion hefyd. Fe allech chi ofyn i un neu ddau o’r athrawon nodi enghreifftiau i chi o dasgau anodd neu dasgau hawdd y bu’n rhaid iddyn nhw eu hwynebu ryw dro.

  4. Eglurwch mai’r hyn sy’n bwysig mewn prawf yw bod yn onest gyda ni’n hunain.  Nid yw hyn yn golygu ein bob amser yn pasio. Weithiau dydyn ni ddim yn gallu dod i fyny i’r safon y mae rhywun arall wedi’i gosod ar ein cyfer. Weithiau dydyn ni ddim yn dod i fyny i’r safon y byddwn ni wedi’i gosod i ni ein hunain. Bryd hynny mae hyn yn gallu gwneud i ni deimlo’n anhapus amdanom ein hunain. 

    Efallai nad yw’r bai bob amser arnom ni, ein bod wedi methu, ac nad oes angen i ni newid os ydyn ni wedi gwneud ein gorau. Efallai mai’r prawf a’r safon sy’n amhriodol ar ein cyfer. Ydych chi’n meddwl bod y prawf o roi pysen o dan y fatres yn brawf da i ddod i wybod mwy am rywun?

Amser i feddwl

Myfyrdod
Gofynnwch i’r plant dreulio ychydig o funudau mewn distawrwydd yn meddwl am y canlynol:
Pe byddai’r dywysoges wedi methu pasio’r prawf, fyddai hi wedi peidio â bod yn dywysoges?
Os byddaf i’n methu pasio prawf yn yr ysgol, neu yn rhywle arall, a fydd hynny’n fy ngwneud i yn rhywun gwahanol?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch ein bod ni i gyd yn rhywun arbennig yn dy olwg di,
a does dim byd all newid hynny.
Dydyn ni ddim y arbennig oherwydd yr hyn rydyn ni’n gallu ei wneud,
neu’r hyn a fyddwn ni, na’r hyn y byddwn ni’n ei gyflawni.
Rydyn ni’n arbennig yn dy olwg di am mai ti sydd wedi’n gwneud ni
ac rwyt ti’n ein caru ni.
Helpa ni i wneud ein gorau bob amser,
ond helpa ni hefyd i gofio y byddi di’n ein caru ni bob amser,
waeth beth fydd yn digwydd.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon