Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Resipis (Dydd Mawrth Ynyd)

Darparu gwasanaeth sy’n arwain at Ddydd Mawrth Ynyd a chyfnod y Garawys, sy’n archwilio’r syniad o ‘resipi ar gyfer bywyd’.

gan Jan Edmunds

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Darparu gwasanaeth sy’n arwain at Ddydd Mawrth Ynyd a chyfnod y Garawys, sy’n archwilio’r syniad o ‘resipi ar gyfer bywyd’.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen OHP/ bwrdd gwyn a phin ffelt. Tynnwch lun bowlen fawr.

  • Casglwch ynghyd yr offer y byddwch chi eu hangen i wneud crempogau: bowlen gymysgu y gallwch chi weld trwyddi, llwy fwrdd, a llwy bren, fforch neu chwisg er mwyn guro’r gymysgedd, 4oz blawd plaen, pinsiad o halen, 1 wy, ½ peint llefrith neu lefrith a dwr yn gymysg, padell ffrio ac olew coginio.

  • Os yw hynny’n briodol, a chan roi sylw arbennig i ddiogelwch, fe allech chi goginio’r crempogau ar stôf fechan yn ystod y gwasanaeth wrth arddangos y broses i’r plant.

  • Neu, fel arall, fe allech chi anfon rhywun i ystafell arall i goginio’r crempogau tra rydych chi’n parhau â’r gwasanaeth gyda’r plant - ac yna dod â’r crempogau i mewn wedyn er mwyn i’r plant gael eu blasu. Neu, fel y bydden nhw’n ei wneud ar y rhaglen Blue Peter, fe allech chi ddod â rhai rydych chi wedi’u paratoi o flaen llaw gyda chi.

Gwasanaeth

  1. Atgoffwch y plant y bydd hi, cyn bo hir, yn gyfnod o’r flwyddyn y mae Cristnogion yn ei alw’n Garawys. Holwch a oes rhywun yn gwybod beth yw ystyr y Garawys, a pham yr ydym yn cadw’r Garawys? Fe allech chi gyfeirio at Iesu’n ymprydio yn yr anialwch (Mathew 4). Eglurwch fod Cristnogion yn defnyddio’r cyfnod hwn, sef yr wythnosau sy’n arwain at y Pasg, i gofio am yr hyn ddigwyddodd adeg y Pasg cyntaf, a hefyd i feddwl yn ddwys am eu bywydau eu hunain.

  2. Faint o blant sydd wedi clywed am Ddydd Mawrth Ynyd, neu Ddydd Mawrth Crempog? Eglurwch mai dyma’r diwrnod y bydd pobl yn cael bwyta pethau da cyn dechrau ar gyfnod o wneud heb y pethau da rheini wedyn trwy gyfnod y Garawys. Rydym yn galw Dydd Mawrth Ynyd yn Ddydd Mawrth Crempog am ei bod yn draddodiad i fwyta crempogau ar y diwrnod hwnnw. Mewn rhai trefi neu bentrefi fe fydden nhw’n arfer cynnal rasys crempogau ar y diwrnod hwnnw.

  3. Gadewch i ni weld beth sy’n rhaid i ni eu cael i wneud crempogau (dangoswch bob cam yn y broses). Fe fydd arnom ni angen resipi, sy’n dweud beth yw’r cynhwysion y mae'n rhaid i ni eu cael i’w rhoi yn y fowlen i’w cymysgu. Ac mae’r resipi yn rhoi’r cyfarwyddiadau i ni sut mae gwneud y crempogau. Dangoswch resipi sydd gennych chi, neu dywedwch ei fod eisoes gennych chi yn eich pen. 

    Yn gyntaf, rydych chi angen blawd plaen, ychwanegwch binsiad o halen. Gwnewch dwll yng nghanol y blawd a thorrwch wy i mewn iddo. Yna, rydych chi’n ychwanegu hanner y llefrith ac yn cymysgu’r cyfan yn dda nes ei fod yn hollol lyfn. Wedyn rydych chi’n ychwanegu gweddill y llefrith yn araf, fesul tipyn, gan guro’r gymysgedd yn dda wrth wneud hyn. 

    Er mwyn crasu’r crempogau, rhaid i chi boethi ychydig bach o olew yn y badell cyn rhoi’r gymysgedd arni fesul llwyaid. (Fe allech chi feimio’r gweithgaredd os nad ydych chi’n coginio’r crempogau ar y pryd.) Yna, dangoswch y badell i’r plant gyda chrempog arni wedi’i choginio’n barod. Fe fyddai’n draddodiad taflu’r grempog i’r awyr ar ôl iddi grasu un ochr, fel ei bod wedyn yn disgyn wyneb i waered yn ei hôl i’r badell er mwyn iddi grasu ar yr ochr arall wedyn. Bydd y plant yn mwynhau eich gweld yn gwneud hyn. Ceisiwch eich gorau i’w dal!

    Os yw amser yn caniatáu, efallai yr hoffech chi holi’r plant beth maen nhw’n hoffi ei roi ar eu crempogau cyn eu bwyta.

  4. Adroddwch y pennill yma gyda’r plant, gan feimio’r symudiadau a’u hatgoffa o’r hyn rydych chi newydd ei wneud:

    Cymysgwch y grempog, 
    Curwch y grempog,
    a’i harllwys i’r badell i grasu.
    Craswch y grempog,
    Taflwch y grempog,
    A daliwch hi, os gallwch chi!

  5. Awgrymwch y gallwch chi gael resipi ar gyfer bywyd hefyd. Yn union fel mae gennym ni resipi ar gyfer gwneud crempog, rydyn ni angen gwybod beth yw’r cynhwysion ar gyfer ein helpu i fyw bywyd da. Gadewch i ni edrych ar y llun sydd gennych chi o’r fowlen fawr. Holwch y plant pa ‘gynhwysion’ y gallem ni eu rhoi yn y fowlen ar gyfer ein bywydau. Rhowch ambell awgrymiad iddyn nhw i ddechrau, gan annog y plant wedyn i awgrymu eu syniadau eu hunain. Er enghraifft: bod yn garedig, bod yn onest a dweud y gwir bob amser, bod yn barod i helpu, bod yn amyneddgar, dyfalbarhau a dal ati gan wneud eich gorau bob tro. Nodwch yr awgrymiadau ar y llun o’r fowlen ar y bwrdd gwyn neu’r OHP. Darllenwch trwyddyn nhw eto gyda’r plant.

  6. Ewch ymlaen i atgoffa’r plant bod rhai Cristnogion yn ymprydio weithiau yn ystod y Garawys, ac maen nhw’n cofio am Iesu a fu’n ymprydio yn yr anialwch am  40 diwrnod a 40 nos. Mae llawer o Gristnogion yn dewis peidio gwneud rhywbeth penodol yn ystod y Garawys, fel rhoi’r gorau i fwyta siocled neu bethau melys am y cyfnod, neu beidio bwyta creision neu sglodion - rhyw eitem benodol o fwyd, ran amlaf. Roedd un ferch fach un tro wedi penderfynu peidio bwyta melysion, ac fe roddodd hi’r arian y byddai hi wedi’u gwario am y melysion rheini, at achos da fel Oxfam. Roedd hi’n garedig iawn yn gwneud hynny.

    Gadewch i ni obeithio y gallwn ninnau roi’r math iawn o gynhwysion yn ein bywydau ni.

Amser i feddwl

Myfyrdod
Beth yw’r resipi i wella’n hunain, a’n bywydau?
Resipi am ofal, resipi am hapusrwydd a heddwch yn y byd, resipi am lwyddiant yn hytrach na thrychineb.
Beth yw’r cynhwysion yn eich resipi chi?

Gweddi
Arglwydd y galon garedig, gwna fy nghalon innau’n un garedig.
Arglwydd y dwylo tyner, gwna fy nwylo innau’n rhai tyner.
Arglwydd y traed parod a bodlon, gwna fy rhai innau’n barod a bodlon,
fel y gallaf dyfu’n debycach i ti ym mhob peth y byddaf i yn ei ddweud a’i wneud.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon