Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Diwrnod y Gymanwlad

Dathlu Diwrnod y Gymanwlad (10 Mawrth 2008), ac archwilio’r syniad y gallwn ni wneud rhai pethau’n well gyda’n gilydd nag a allwn ni ar wahân.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Dathlu Diwrnod y Gymanwlad (10 Mawrth 2008), ac archwilio’r syniad y gallwn ni wneud rhai pethau’n well gyda’n gilydd nag a allwn ni ar wahân.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen esgid fynydda fawr, a charrai esgid iddi.

  • Hefyd, bentwr o hen bapurau newydd, gyda dau neu dri ohonyn nhw wedi’u rholio a’u dal ar ffurf tiwb gyda thap gludiog.

  • Rhagor o dâp gludiog.

  • Er mwyn i chi allu cyfeirio atyn nhw, dyma restr o enwau gwledydd y Gymanwlad: Antigwa a Barbuda, Awstralia, Y Bahamas, Bangladesh, Barbados, Belîs, Botswana, Brunei, Darussalam, Y Camerwn, Canada, Cyprus, Dominica, Ynysoedd Fiji, Y Gambia, Ghana, Grenada, Gaiana, India, Jamaica, Cenia, Kiribati, Lesotho, Malawi, Maleisia, Maldives, Malta, Mawrisiws, Mosambic, Namibia, Nauru, Seland Newydd, Nigeria, Pacistan, Papua Gini Newydd, Samoa, Seychelles, Sierra Leone, Singapôr, Ynysoedd Solomon, De Affrica, Sri Lanca, Saint Kitts a Nevis, Saint Lucia, Saint Vincent a’r Grenadines, Swasiland, Tonga, Trinidad a Tobago, Twfalw, Iwganda, Y Deyrnas Unedig, Gweriniaeth Unedig Tansania, Vanuatu, Sambia, Zimbabwe. Ar yr ail ddydd Llun ym mis Mawrth y bydd Diwrnod y Gymanwlad.

Gwasanaeth

  1. Eglurwch fod gennych chi ddwy dasg eisiau eu gwneud heddiw, ac y byddwch chi angen help i’w cyflawni. Gofynnwch i ddau o’r plant ddod i’ch helpu. Dewiswch un o’r plant ieuengaf i geisio clymu carrai’r esgid. Bydd yr ail dasg bron yn amhosib i un ei gwneud ar ben ei hun, felly dewiswch blentyn hyn eithaf hyderus, ac sydd ddim yn debygol o falio os na fydd yn gallu cyflawni’r dasg.

    Fe hoffech chi i’r plentyn lleiaf o’r ddau wneud ei orau i glymu carrai’r esgid. Y dasg i’r plentyn hynaf fydd adeiladu llwyfan olew gyda’r rholiau papur newydd a’r tâp gludiog.

    Rhowch gyfle i’r ddau blentyn ymdrechu gyda’u tasgau, a thra byddan nhw’n gwneud hynny, rhowch chi sylwebaeth ar yr hyn sy’n mynd ymlaen.

  2. Trafodwch gyda’r ddau blentyn sy’n eich helpu, a chyda’r plant eraill yn y gwasanaeth, sut hwyl gafodd y ddau ar eu tasgau. Mae’n debyg y bydd yr un cyntaf wedi cael hwyl eithaf da ar gau carrai’r esgid. Ond fe fyddai’r ail blentyn yn debygol o fod wedi cael gwell hwyl arni pe byddai wedi cael help i adeiladu’r llwyfan olew. Faint o wirfoddolwyr fyddai’r plant wedi eu rhoi i wneud tîm i gyflawni’r dasg honno pe byddech yn holi eu barn? Hefyd, a fydden nhw wedyn wedi rhoi gwahanol dasgau i wahanol aelodau’r tîm?

  3. Eglurwch i’r plant mai pwrpas y ddau weithgaredd yma oedd dangos y gallwn ni wneud ambell beth yn well os bydd nifer yn gweithio gyda’i gilydd. Pe byddai eich athrawes yn gofyn i chi roi min ar ei phensil, a fyddai hi eisiau i bawb o blant y dosbarth ei helpu? Ond pe byddai’r un athrawes yn gofyn i blant ei dosbarth dacluso’r ystafell ar ddiwedd y diwrnod ysgol, allech chi ddisgwyl i un plentyn wneud hynny i gyd ar ben ei hun?

  4. Dychmygwch pe byddech chi’n gorfod meddwl am ofalu am les 2 biliwn o bobl, fyddech chi’n rhoi’r cyfrifoldeb hwnnw ar un, neu efallai ddau neu dri o bobl? Neu, a fyddech chi’n meddwl y byddai hynny’n achos o ‘fe allwn ni wneud rhai pethau’n well gyda’n gilydd nag a allwn ni ar wahân’?

    Eglurwch mai dyma yw’r syniad y tu ôl i gyfundrefn o’r enw Y Gymanwlad. Grwp o 53 o wledydd ledled y byd yw’r Gymanwlad. Oes unrhyw un yn gwybod pa wledydd sy’n perthyn i’r Gymanwlad?

    Os ydych chi’n byw yn un o wledydd y Gymanwlad, rydych yn cael eich galw’n ddinesydd. I ni, ym Mhrydain, mae’r Gymanwlad yn bwysig am mai Brenhines Prydain yw pennaeth y  Gymanwlad. Y gwledydd sy’n perthyn i’r Gymanwlad yw’r gwledydd rheini a fyddai’n rhan o’r Ymerodraeth Brydeinig  ers talwm.

    Sefydlwyd y Gymanwlad fel y gallai’r gwledydd hyn weithio gyda’i  gilydd er lles y naill a’r llall. Gwaith y Gymanwlad yw gwella bywyd ei  2 biliwn o ddinasyddion. Mae cenhedloedd y Gymanwlad yn cydweithio â’i gilydd ac yn ymgynghori â’i gilydd ar wahanol faterion a phroblemau a allai godi yn un o’r gwledydd, neu yng ngwledydd eraill y byd. Maen nhw’n credu y gallan nhw wneud mwy gyda’i gilydd nag ar wahân.

    Mae dydd Llun, 10 Mawrth 2008 yn ddiwrnod pwysig yn y 53 gwlad. Caiff y diwrnod ei alw’n Ddiwrnod y Gymanwlad. Ar Ddiwrnod y Gymanwlad, bob blwyddyn, caiff baner y Gymanwlad ei chwifio ar adeiladau llywodraeth y gwledydd o doriad gwawr hyd fachlud haul. Gall pob un o’r 53 gwlad wrando ar y radio am dri o’r gloch y pnawn a chlywed neges y Frenhines i’r Gymanwlad. Bydd y Frenhines a’r teulu brenhinol yn mynd i Abaty Westminster i wasanaeth arbennig. Bob pedair blynedd bydd gwledydd y Gymanwlad yn cynnal Gemau’r Gymanwlad.

  5. Eleni, thema’r Gymanwlad yw ‘Yr Amgylchedd – Ein Dyfodol’. Pa faterion ydych chi’n meddwl y byddan nhw’n eu trafod? Pa broblemau yn ymwneud â’r amgylchedd y byddech chi eisiau iddyn nhw eu trafod?

Amser i feddwl

Myfyrdod
Beth allaf fi ei wneud yn well, gyda phobl eraill, nag a allaf ei wneud ar fy mhen fy hun?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Rydyn ni’n diolch i ti am y Gymanwlad.
Rydyn ni’n diolch i ti am y cenhedloedd hyn,
sy’n ceisio gweithio gyda’i gilydd i helpu eu dinasyddion, a helpu ein byd.
Rydyn ni’n gweddïo dros yr arweinwyr sy’n dod ynghyd i drafod pethau pwysig.
Rydyn ni’n gweddïo y byddi di yn eu helpu, y flwyddyn hon, wrth iddyn nhw drafod yr amgylchedd.
Rydyn ni’n diolch i ti am y byd hardd rwyt ti wedi’i greu.
Helpa’r arweinwyr i wneud penderfyniadau a fydd yn gwarchod ein hamgylchedd,
fel y bydd pobl eraill a ddaw ar ein hol ni yn gallu mwynhau’r byd hefyd.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon