Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Salad Ffrwythau

gan Penny Hollander

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio pa mor bwysig yw bod yn iach yn gorfforol, ac yn iach o ran ein hagwedd tuag at ein gilydd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen bowlen yn cynnwys amrywiaeth o ffrwythau y byddwn ni’n mwynhau eu bwyta. Daw’r rhain o wahanol wledydd y byd, a cheisiwch gynnwys ambell un anghyffredin fel ffrwyth seren, lychee, etc.
  • Cyllell dorri ffrwythau a bwrdd torri, os ydych chi am gynnwys y rhan lle byddwch chi’n paratoi ac yn cymysgu’r ffrwythau.
  • Siart troi neu fwrdd gwyn a phinnau ffelt.

Gwasanaeth

  1. Tynnwch y ffrwythau o’r bowlen fesul un gan holi’r plant beth ydyn nhw. Cymrwch bleidlais er mwyn gweld pa rai yw hoff ffrwythau’r plant. Gwnewch restr o’r pleidleisiau ar y siart troi, neu’r bwrdd gwyn. Holwch rai o’r plant yn unigol am eu dewis, a thrafodwch y rhesymau pam, e.e. hoffi’r blas, hoffi eu siâp, neu efallai am fod y ffrwyth yn hawdd ei fwyta. Pryd oedd y tro diwethaf i’r plant flasu rhywbeth gwahanol, rhywbeth nad oedden nhw erioed wedi ei flasu o’r blaen?
  2. Yn ogystal â meddwl am y ffrwythau rydyn ni’n eu hoffi, awgrymwch y dylem ni feddwl am fwyta amrywiaeth o ffrwythau neu lysiau bob dydd fel y byddwn ni’n gallu cadw’n iach.
  3. Os yw rhywun yn cael anhawster i benderfynu pa un yw ei hoff ffrwyth, awgrymwch y gallech chi bob amser wneud salad ffrwythau! Rhowch y ffrwythau’n ôl yn y fowlen, neu fe allech chi wneud un o’r pethau canlynol yn ôl fel y teimlwch chi sy’n briodol. Gallech ofyn i rai o’r plant, dan oruchwyliaeth, dynnu croen y ffrwythau a’u torri’n ddarnau. Neu, i osgoi’r posibilrwydd o gael anafiadau wrth ddefnyddio cyllyll, fe allech chi drefnu bod hyn yn cael ei wneud gan rywun ar ôl y gwasanaeth a’r plant yn cael mwynhau’r salad ffrwythau amser egwyl neu ar ôl cinio. Neu’r dewis arall sydd gennych yw paratoi’r ffrwythau o flaen llaw, fel eu bod yn barod i’r plant eu cymysgu i wneud y salad ffrwythau.
  4. Awgrymwch fod pobl y byd yn debyg, mewn ffordd, i lond bowlen o salad ffrwythau - yn amrywio o ran siâp, maint a lliw, etc. Efallai y byddwn ni’n cwrdd â rhywun nad ydym wedi ei weld o’r blaen - yn debyg i’r amser y byddwch chi’n blasu ffrwyth anghyfarwydd am y tro cyntaf. Dim ond trwy brofiad rydyn ni’n gallu dysgu gwerthfawrogi gwahanol fathau o bobl. Mae pob un o bobl y byd yn rhan o’r salad ffrwythau anferthol hwnnw!

    Efallai eu bod yn edrych yn wahanol i ni, ac yn meddwl am fywyd mewn ffyrdd gwahanol i ni. Ond, fel y ffrwythau, maen nhw i gyd yn rhan o’r un greadigaeth - yr un peth arbennig hwnnw sydd wedi cael ei greu gan rywun. Er mwyn bod yn iach o ran ein hagwedd at bethau yn ogystal â bod yn iach yn gorfforol, mae angen i ni barchu pobl eraill, a gwerthfawrogi'r hyn sy’n wahanol ynddyn nhw yn ogystal â’r hyn sy’n debyg ynddyn nhw.
  5. Mae’r Beibl yn sôn am Dduw yn hapus gyda phob peth yr oedd wedi ei greu. Darllenwch Genesis 1.31, neu dangoswch y geiriau canlynol ar y bwrdd gwyn, ynghyd â lluniau priodol i gyd-fynd â’r geiriau os hoffech chi:

    Gwelodd Duw y cwbl a wnaeth, ac yr oedd yn dda iawn.

    Cwestiynau i feddwl amdanyn nhw ar y diwedd: Os yw Duw yn hapus gyda phob peth y mae wedi’i wneud, oni ddylem ninnau fod yn hapus gyda’r pethau hynny hefyd? A yw bod ag agwedd iach yr un mor bwysig â bod â chorff iach?

Amser i feddwl

Myfyrdod

Meddyliwch am ychydig funudau am y gwahanol bobl rydyn ni’n eu hadnabod yn yr ysgol, ein ffrindiau, aelodau ein teulu, cymdogion, pobl y byddwn ni’n cwrdd â nhw wrth siopa, ar y bws, ac mewn llawer lle arall. Beth ydyn ni’n feddwl ohonyn nhw? Ydyn ni’n amyneddgar â nhw? Ydyn ni’n eu parchu, neu’n eu helpu - hyd yn oed os ydyn nhw’n wahanol i ni? Ym mha ffyrdd y gallwn ni wneud hyn? Rydyn ni i gyd yn rhan o’r un byd mawr sydd wedi cael ei roi i ni.

Gweddi

Diolch i ti, Dduw, fod gan bob un ohonom ni ran yn y byd rhyfeddol rwyt ti wedi’i greu.

Dysga ni, nid yn unig sut i fod â chorff iach, ond hefyd sut i fod ag agwedd iach tuag at ein gilydd.

Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon