Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Nid yw Arian yn Bopeth

Archwilio ein hagwedd tuag at arian.

gan Peter Knight

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio ein hagwedd tuag at arian.

Paratoad a Deunyddiau

  • Paratowch y cwis o flaen llaw  – fe allech chi wisgo gwisg arbennig, chwarae cerddoriaeth fel sydd ar sioeau gemau ar y teledu a/ neu baratoi cardiau crand ar gyfer y cwestiynau.

  • Darllenwch trwy’r stori yn Marc 12.38 – defnyddiwch fersiwn ar gyfer plant neu paratowch i’w hadrodd yn eich geiriau eich hun.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch: beth hoffech chi fod - cyfoethog neu enwog? Eglurwch i’r plant mai un o ddynion mwyaf cyfoethog y byd yw Bill Gates, sylfaenydd y cwmni Microsoft - cyfeiriwch at rai rhaglenni Microsoft y bydd y plant yn debygol o fod yn gyfarwydd â nhw yn yr ysgol neu gartref.

    Faint maen nhw’n feddwl y maint cyfoeth Bill Gates? Mae rhestr yn cael ei chyhoeddi bob blwyddyn yn y cylchgrawn Forbes o unigolion yn y byd sydd nid yn filiwnydd, ond biliwnydd (billionaires). Yn ôl y rhestr honno The World's Billionaires Bill Gates oedd y dyn mwyaf cyfoethog yn y byd rhwng 1995 a 2007, ac mae amcangyfrifon ei fod yn ‘werth’ dros £30 biliwn.

    Mae’r Frenhines Elizabeth yn gyfoethog ac yn enwog. Mae David a Victoria Beckham yn gyfoethog ac yn enwog, hefyd. Mae llawer o bobl eraill yn gyfoethog hefyd, ond nad ydyn nhw mor enwog efallai. Allwch chi feddwl am rywun sy’n enwog ond ddim yn gyfoethog?

  2. Cyflwynwch gwis: Pwy hoffai fod yn Zillionaire? Gwahoddwch rywun i ateb y cwestiynau sy’n dilyn.

    Cwestiwn £1: Pwy yw sylfaenydd y cwmni Microsoft, ac un o’r dynion cyfoethocaf yn y byd?
    (A) Bill Bailey; (B) Rusty Gates; (C) David Bailey; (D) Bill Gates 

    Cwestiwn £100: Yn In the Night Garden, pwy sydd ddim yn ei wely?
    (A) Wiggles; (B) Iggle-piggle; (C) Upsidaisy; (D) Pontipines

    Cwestiwn £1,000: Roedd rhywun enwog sy’n ymddangos ar y teledu yn dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed yn 2008?
    (A) David Attenborough; (B) Terry Wogan; (C) Bruce Forsyth; (D) Harry Hill

    Cwestiwn £100,000: Pa flodyn yw blodyn cenedlaethol Cymru?
    (A) Rhosyn; (B) Ysgallen; (C) Cenhinen Bedr; (D) Siamroc

    Cwestiwn £1,000,000: Pa un yw llyfr cyntaf y Beibl?
    (A) Exodus; (B) Genesis; (C) Eseia; (D) Jeremeia

  3. Gorffennwch gyda’r cwestiwn am £Zillion: Beth ydych chi’n feddwl o’r stori yma?

    Darllenwch y stori o’r Testament Newydd, neu ei hadrodd yn eich geiriau eich hun, am ddwy hatling (gwerth chwarter ceiniog) y wraig weddw (Marc 12.38). Yna holwch y plant beth maen nhw’n feddwl oedd Iesu’n ceisio’i ddweud. Eglurwch fod dysgu am wir werth pethau yn llawer mwy gwerthfawr na’r holl arian yn y byd - mewn gwirionedd mae’n werth, nid miliynau na biliynau, nid ‘millions’ na ‘billions’, ond ‘zillions’!

Amser i feddwl

Myfyrdod
Beth ydych chi’n ei werthfawrogi fwyaf?
Beth yw’r peth pwysicaf yn eich golwg chi?
Beth fyddech chi’n ei golli fwyaf pe byddai’r peth hwnnw ddim gennych chi?

Gweddi
Annwyl Dduw, ein Tad,
Doedd dy fab, Iesu, ddim yn gyfoethog.
Doedd o ddim yn berchen ar dy, a doedd ganddo ddim llawer o bethau’n eiddo iddo.
Er hynny, mae’n debyg mai Iesu yw un o’r bobl bwysicaf fu’n byw ar y ddaear erioed.
Fe ddysgodd Iesu i ni y gallwch chi roi i bobol mewn sawl ffordd, ar wahân i roi arian.
Fe ddysgodd Iesu i ni fod gennym nifer o roddion y gallwn ni eu rhannu.
Helpa ni i roi yn hael o’n hamser, ein cyfeillgarwch, a’n cariad.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon