Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cerrig Camu

Helpu plant i feddwl am lwybrau trwy fywyd, a sut y gallwn ni ddysgu oddi wrth y rhai a fu o’n blaenau, a helpu’r rhai a ddaw ar ein holau ni.

gan The Revd Oliver Harrison

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Helpu plant i feddwl am lwybrau trwy fywyd, a sut y gallwn ni ddysgu oddi wrth y rhai a fu o’n blaenau, a helpu’r rhai a ddaw ar ein holau ni.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen 10 neu 12 darn o bapur maint A4 (gallwch ddefnyddio papur sgrap neu ail ddefnyddio papur sydd wedi cael ei ddefnyddio o’r blaen).

Gwasanaeth

  1. Siaradwch am groesi afon ar hyd gerrig camu, neu gerrig sarn, a gofalwch bod y plant wedi deall y cysyniad. Fe allech chi ofyn am enghreifftiau a mwynhewch y digwyddiad dieithriad bron - y droed wlyb, oer!  

  2. Gofynnwch i’r plant ddychmygu bod afon o’u blaenau, yn rhedeg ar draws yr ystafell yn y tu blaen, lle rydych chi’n cynnal y gwasanaeth. Cymrwch ddau ddarn o bapur, rhowch un ar lawr a sefyll arno. Yna, rhowch un arall ar lawr o’ch blaen a symud ymlaen un cam i sefyll ar hwnnw wedyn.

    Estynnwch  yn ôl gan godi’r darn papur cyntaf a rhoi hwnnw o’ch blaen wedyn a sefyll arno. Fel hyn fe fyddwch chi’n ‘croesi’r afon’ gan ddefnyddio dwy ‘garreg’ yn unig.

    Gwnewch hyn dro ar ôl tro. Oedwch cyn cyrraedd y pen draw a gofynnwch i’r plant a fyddai rhywun yn gallu eich dilyn ar draws yr afon? Ydych chi’n gadael llwybr? Na.

    Pwysleisiwch y gallai’r dull yma fod yn ffordd dda o ddianc os oes rhywun yn dod ar eich ôl ac yn ceisio’ch dal. Ond, nid yw’n ddull da os oes rhywun efallai eisiau gwneud yr un fath â chi ac eisiau dilyn yn ôl eich troed, fel petai.  

  3. Dewisol: Fe allech chi gael ras ar draws yr afon, gyda gwirfoddolwyr yn defnyddio’r dull ‘dwy garreg’, sef codi yr un sydd y tu ôl iddyn nhw a’i rhoi o’u blaenau. Cymrwch ran eich hunan, gan ofalu eich bod yn dod yn olaf yn y ras!

  4. Wedyn, dangoswch ffordd arall. Cymrwch y papurau i gyd a’u gosod i lawr fesul un, gan gerdded ymlaen ar eu hyd fel rydych chi’n eu gosod. Rydych chi nawr yn gadael llwybr - llwybr y bydd rhywun arall yn gallu ei ddilyn.

    Dewisol (yn arbennig o briodol mewn ysgol eglwys): Siaradwch am y gred Gristnogol o Iesu fel ‘ffordd’. ‘Myfi yw’r ffordd,’ meddai Iesu amdano’i hun. Fe ddaeth o’r nefoedd i’r ddaear fel un ohonom ni, ac mae’n gadael llwybr i ni ei ddilyn ac mae’n ein helpu ni ar ein taith.

    Dewisol: Fe allwch chi sôn am bobl eraill hefyd, neu yn lle hynny sôn am ein cyndeidiau neu ein brodyr a’n chwiorydd hyn. Ydyn ni’n dilyn yn ôl eu traed? Ydyn ni’n dilyn yr un llwybr ag y gwnaethon nhw’i ddilyn?

    Dewisol: Siaradwch am sut y gallwn ni helpu’r rhai sy’n dod ar ein hôl ni: plant iau, brodyr a chwiorydd llai na chi, neu hyd yn oed y cenedlaethau ddaw ar ein hôl ni. Ydyn ni’n gadael llwybrau da iddyn nhw’u dilyn? Neu, a ydyn ni’n hunanol ac yn mynd â’r cerrig gyda ni gan adael dim ar ôl?

    Enghreifftiau o ‘lwybrau da’ fyddai cynnig help i rywun iau na chi, efallai. Neu roi esiampl dda i blant eraill o gwmpas yr ysgol, gofalu am amgylchedd yr ysgol hefyd, a gofalu am ein planed trwy gofio ailgylchu a diffodd goleuadau sy’n cael eu gadael ymlaen yn ddianghenraid.

Amser i feddwl

Myfyrdod
Mae cerrig camu neu’r cerrig sarn yno i’n helpu ni groesi pan fydd afon neu ddwr ar draws ein llwybr.
Maen nhw yno i bawb – yn drywydd, neu’n llwybr y mae’n bosib ei ddilyn.
Pwy ydych chi’n ei ddilyn, a phwy fydd yn eich dilyn chi?
Sut gallwch chi helpu, a gadael ‘llwybr da’?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch ein bod ni bob amser yn gallu dod o hyd i ffordd trwy lwybrau dyrys bywyd.
Diolch i ti am dy help ac am dy arweiniad i ni ar y ffordd.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon