Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y Dychymyg

Helpu’r plant i feddwl am ryfeddodau byd natur ac am y rhodd o ddychymyg.

gan Rebecca Parkinson

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Helpu’r plant i feddwl am ryfeddodau byd natur ac am y rhodd o ddychymyg.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen amrywiaeth o wahanol flodau a/ neu ffrwythau (o’r ddarpariaeth sydd gennych chi yn yr ysgol o ffrwythau) a/ neu luniau o wahanol anifeiliaid a/ neu luniau o wahanol adar.

Gwasanaeth

  1. Gan gadw’r lluniau a’r eitemau sydd gennych chi o’r golwg ar hyn o bryd, gofynnwch i’r plant beth yw eu hoff anifail, a pham. Ar ôl trafod rhywfaint, dangoswch y lluniau o’r anifeiliaid, i’r plant, a gofynnwch iddyn nhw ddisgrifio rhai o’r gwahaniaethau rhwng yr anifeiliaid sydd yn y lluniau. Fe allai’r plant ddisgrifio nodweddion, neu sôn am ble mae’r anifeiliaid yn byw, neu a ydyn nhw’n anifeiliaid gwyllt neu’n ddof, etc.

  2. Gofynnwch i’r plant ydyn nhw’n gallu enwi’r blodau wrth i chi ddangos eu lluniau. Gofynnwch iddyn nhw’u disgrifio. Fe allai’r plant ddisgrifio’u lliw a’u siâp, neu ddod ymlaen i’w harogli os oes gennych chi flodau ffres.

  3. Gofynnwch i’r plant beth yw eu hoff ffrwythau. Dangoswch y casgliad sydd gennych chi. Fe allech chi gyfrif pleidlais i weld pa un yw hoff ffrwyth mwyafrif y plant.

  4. Dangoswch y lluniau o’r adar. Fe allech chi gysylltu hyn â’r ymgyrch gwylio adar - Big School Bird Watch (http://www.rspb.org.uk/).

  5. Pwysleisiwch fod Cristnogion a phobl o nifer o wahanol grefyddau yn credu mai Duw sydd wedi gwneud y byd a’r bydysawd i gyd. Efallai bod gan rai syniadau gwahanol am sut y digwyddodd hynny, ond maen nhw i gyd yn credu o ddifrif bod Duw yn gyfrifol am y greadigaeth.

  6. Gofynnwch i’r plant gau eu llygaid a dychmygu sut le fyddai yn y byd pe bai yna ddim ond robin, er enghraifft, yma a dim aderyn arall o’r holl amrywiaeth sydd gennym ni o’n cwmpas. Dychmygwch pe na bai blodau gwahanol i’w cael, dim ond llygad y dydd, efallai, a’r unig anifeiliaid fyddai i’w cael yn y byd fyddai cathod. Gofynnwch i’r plant ddychmygu sut le fyddai yn y byd pe bydden ni ddim yn cael dim arall i’w fwyta ar wahân i datws - dim byd arall, byth.

  7. Eglurwch fod Cristnogion, a phobl o grefyddau eraill, yn credu bod Duw eisiau i’r byd fod yn llawn o ryfeddod ac amrywiaeth, fel ei fod yn lle mor ardderchog i fyw ynddo. Felly, fe greodd Duw fwy o amrywiaeth nag a all yr un ohonom ei ddychmygu, byth!

  8. Pwysleisiwch fod y plant i gyd wedi cael y ddawn ryfeddol i ddychmygu, er mwyn ei defnyddio i’w helpu i weld y rhyfeddodau yn y byd o’u cwmpas. Hefyd i’w helpu i greu eu darluniau eu hunain, eu storïau a’u cerddoriaeth eu hunain, a llawer, llawer mwy.

Amser i feddwl

Myfyrdod
Caewch eich llygaid a meddyliwch am eich hoff anifail…
Eich hoff aderyn…
Eich hoff flodyn…
Eich hoff fwyd…
Meddyliwch am yr holl amrywiaeth rhyfeddol o bethau sydd yn ein byd.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am y byd rhyfeddol rydyn ni’n byw ynddo.
Diolch i ti am beidio gwneud y byd yn lle anniddorol a diflas,
yn hytrach fe wnest ti greu byd sy’n hardd, yn lliwgar,
ac yn llawn o amrywiaeth diddorol.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon