Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Wyt Ti Ddim yn Gallu Cysgu?

Meddwl am olau a thywyllwch, a sut mae’r ddau beth yn gallu effeithio arnom ni.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Meddwl am olau a thywyllwch, a sut mae’r ddau beth yn gallu effeithio arnom ni.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen copi o’r llyfr Can’t You Sleep, Little Bear? gan Martin Waddell (darluniau gan Barbara Firth, Walker Books, ISBN: 9781844284917), neu’r llyfr Cymraeg Methu Cysgu Wyt Ti, Arth Bach? Gwasg y Dref Wen, ISBN 1855960982.

  • Glôb a thortsh (dewisol).

  • Llun o’r haul yn codi ac/ neu yn machlud.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i’r plant faint ohonyn nhw sydd wedi darllen y llyfr Methu Cysgu Wyt Ti, Arth Bach?neu Can’t You Sleep, Little Bear? Holwch iddyn nhw beth oedd yn poeni’r arth fach, a sut y gallodd yr arth fawr ei helpu. Holwch oes rhai o’r plant wedi cael yr un broblem. Os yw hynny’n briodol, ac amser yn caniatáu, fe allech chi ddarllen trwy’r stori neu atgoffa’r plant o gynnwys y stori.

  2. Eglurwch fod llawer o blant y cael trafferth i fynd i gysgu yr adeg hon o’r flwyddyn. Oes rhywun yn gallu dyfalu beth sy’n achosi hynny? Mewn gwirionedd, mae’n groes hollol i dywyllwch. Maen nhw’n cael trafferth i fynd i gysgu oherwydd ei bod mor olau allan, gyda’r nos, yr adeg hon o’r flwyddyn. 

    Efallai yr hoffai’r plant siarad am hyn, ac awgrymu beth y gallai eu rhieni neu’r rhai sy’n gofalu amdanyn nhw ei wneud i helpu. Fe allech chi awgrymu os yw’r plant yn methu mynd i gysgu pan fydd hi’n olau, dyma rai pethau y gallen nhw’i wneud:

    Edrych ar lyfr am ychydig, ond dewiswch hoff lyfr, nid un sy’n procio gormod ar y dychymyg - yn bendant dim un sy’n codi braw wrth ei ddarllen.

    Caewch eich llygaid a meddwl am yr holl bethau a wnaethoch chi yn ystod y dydd sydd newydd ddod i ben, yna dechreuwch feddwl am yr holl bethau yr hoffech chi eu gwneud yfory.

    Peidiwch â gwneud unrhyw beth sy’n rhy fywiog, ceisiwch orwedd yn llonydd tra rydych chi’n meddwl neu’n edrych ar y llyfr.

    Os oes gennych chi hoff dedi neu degan meddal, rhowch eich tegan meddal hefyd i orffwys yn eich ymyl!

  3. Gofynnwch i’r plant rannu eu profiadau ynghylch beth maen nhw’n ei hoffi am nosweithiau tywyll/ nosweithiau golau. Fyddai’r plant yn hoffi’r un faint o oriau o olau dydd a thywyllwch trwy gydol y flwyddyn?

  4. Pwysleisiwch fod lle i dywyllwch, a lle i oleuni hefyd. Mae’n haws mynd i gysgu pan fydd hi’n dywyll - mewn gwirionedd mae’r tywyllwch yn gwneud i ni deimlo’n gysglyd - ac mae arnom ni angen y golau i wneud yr holl bethau fyddwn ni’n eu gwneud yn ystod y dydd.

  5. Mewn rhai llefydd, fel Affrica, mae’r dyddiau a’r nosau yr un hyd drwy’r flwyddyn. Mewn rhai llefydd, ar rai adegau, mae’r golau dydd yn hirach na’r tywyllwch, tra bydd y tywyllwch mewn rhai llefydd eraill yn para’n hirach na’r golau dydd. Ond mae cyfnod o fin nos bob amser ac mae bore yn dod ar ôl y nos bob amser, diwrnod newydd arall.

Amser i feddwl

Myfyrdod
Treuliwch ychydig amser yn edrych ar y llun o’r haul yn codi neu’r haul yn machlud. Mae’r nos a’r bore yn rhoi dechrau newydd i bob un ohonom ni, bob dydd!

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch dy fod ti wedi gwneud ein byd hardd.
Diolch i ti am bob diwrnod newydd.
Diolch i ti am ddyddiau hir yr haf, ac am y nosweithiau braf rydyn ni’n eu mwynhau.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon