Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cyllell, Fforc neu Lwy?

Dathlu ein hunaniaeth a gweithio gyda’n gilydd.

gan Oliver Harrison

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Dathlu ein hunaniaeth a gweithio gyda’n gilydd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen: cyllell, fforc, llwy, a llwy de.

  • Casgliad o wahanol fwydydd, e.e. caws, dwr neu gawl, pys; ac os am rywfaint o annibendod, ond a allai fod yn hwyl, fe allech chi gynnwys tipyn o jeli!

Gwasanaeth

  1. Sgwrsiwch am sut rydyn ni i gyd yn wahanol, gyda’n gwahanol gryfderau a’n gwahanol wendidau. Holwch y plant pa fath o bethau y gallech chi fod yn eu trafod ac amlygwch  rai enghreifftiau, fel bod yn dda am wneud lluniau, neu’n dda mewn cerddoriaeth, mathemateg, chwaraeon, etc. Hefyd fe allech chi drafod gwahaniaeth mewn cymeriad, fel bod yn dawel neu’n hyderus; yn frwdfrydig neu’n wyliadwrus.

  2. Pwysleisiwch y ffaith, pe byddem ni i gyd yr un fath, yna fe fyddai gormod ohonom yn dda am wneud yr un peth, a dim digon ohonom yn dda am wneud pethau eraill. Fe allech chi roi enghraifft o dîm pêl-droed a phawb yn gôl geidwaid ardderchog - fydden nhw byth yn ennill gêm, (ond mae’n debyg na fydden nhw byth yn colli yr un gêm ychwaith!). Neu, sut byddai pethau pe byddai pawb mewn band (efallai band yr ysgol) yn chwarae’r triongl!

  3. Soniwch am pan fyddwn ni’n bwyta, fe allwn ni ddefnyddio cyllell, fforc a llwy. Dangoswch y rhai sydd gennych chi. Mae pob un yn wahanol, ac mae pob un yn gwneud gwahanol waith. Fyddai tair cyllell ddim yn bethau hwylus iawn i fwyta pys, na thair fforc yn fawr o werth i fwyta cawl. 

    Fe allech chi gael rhywfaint o hwyl wedyn gyda’r bwyd. Gofynnwch i un wirfoddoli i ddefnyddio’r fforc i geisio bwyta’r cawl neu yfed y dwr o fowlen neu wydr, yna gadewch iddyn nhw geisio gwneud hynny gyda’r llwy. Gofynnwch i un arall geisio bwyta’r pys â chyllell, ac yna gyda’r llwy. Wedyn rhowch dasg i rywun fwyta’r jeli â chyllell …

  4. Pwysleisiwch pa mor bwysig yw cael amrywiaeth mewn tîm. Fe allwn ni chwarae yn ôl ein cryfder, ac fe all rhywun arall guddio’n gwendidau.

Amser i feddwl

Myfyrdod
Cyllell, fforc, a llwy
Pob un a’i bwrpas, wrth i ni fwyta ein bwyd,
a phob un yn gweithio’n iawn.
Fi, chi a gweddill yr ysgol, pawb yn y byd,
Mae pob un ohonom yn wahanol i gyd,
Ac mae gan bawb ei ddawn.
Fo, hi, chi a fi
Pan fyddwch chi’n edrych arnaf fi,
Pwy welwch chi?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti ein bod ni i gyd yn wahanol.
Diolch ein bod yn gallu dod â’n doniau gwahanol ynghyd,  
ac y gallwn ni weithio gyda’n gilydd,
gan werthfawrogi'r doniau sydd gennym i gyd.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon