Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Neges mewn Potel

Ystyried beth yw’r wers fwyaf defnyddiol rydyn ni wedi’i dysgu yn yr ysgol yn ystod y flwyddyn.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried beth yw’r wers fwyaf defnyddiol rydyn ni wedi’i dysgu yn yr ysgol yn ystod y flwyddyn.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen pedair potel wydr, gyda phedair neges wedi’u hysgrifennu ar bapur, un i mewn ym mhob potel. Gofalwch bod pob neges yn bosib ei darllen, neu fod modd i chi dynnu’r papur allan o’r botel yn hawdd!
    ‘Helo. Wnewch chi ysgrifennu ataf fi, os gwelwch yn dda?’
    ‘Os gwnaiff merch ddel ddod o hyd i’r neges hon, ysgrifennwch ataf fi!’
    ‘Help, os gwelwch yn dda, helpwch ni.’
    ‘Mae Duw’n eich caru chi’n fawr.’

  • Map o’r byd (dewisol).

Gwasanaeth

  1. Holwch y plant am y gwahanol ffyrdd sydd ar gael heddiw o anfon negeseuon, fel negeseuon testun, e-bost, ffôn, etc. Trafodwch ffyrdd o anfon negeseuon trwy’r oesoedd: negesyddion, post, telegramau, defnyddio colomennod.

  2. Dangoswch y pedair potel, gosodwch nhw ar fwrdd lle gall y plant eu gweld. Gofynnwch i’r plant oes rhywun wedi anfon neges mewn potel? Trafodwch gyda’r plant ydyn nhw’n meddwl bod hynny’n ffordd dda o anfon neges? Eglurwch ei bod hi’n amhosib rhagweld i ba gyfeiriad y bydd y botel yn mynd yn y môr. 

    Cynhaliwyd arbrawf, gan ddilyn hynt dwy botel gafodd eu gollwng ar arfordir Brasil. Fe ddrifftiodd un i gyfeiriad y dwyrain am 30 diwrnod, ac fe ddaeth rhywun o hyd iddi ar draeth yn Affrica; arnofiodd y llall i’r gogledd-orllewin am 190 o ddyddiau, gan gyrraedd Nicaragua. (Gallwch ddilyn eu llwybrau ar fap o’r byd os oes un gennych chi.)

    Eglurwch fod potel wedi’i chau’n dynn, er mor fregus y mae’n ymddangos, yn un o’r pethau gorau yn y byd am deithio’r moroedd. Fe fydd yn nofio’n ddigon diogel trwy gorwyntoedd allai suddo llongau mawr!

    Mae gwydr yn beth sy’n gallu para am amser hir iawn hefyd. Yn 1954, daeth rhywun o hyd i 18 o boteli oedd wedi bod mewn llong oedd wedi suddo ers 250 o flynyddoedd cyn hynny, oddi ar arfordir Lloegr. Doedd dim modd adnabod yr hylif oedd ynddyn nhw, ond roedd y poteli fel newydd!

  3. Rydyn ni’n mynd i edrych ar y math o negeseuon y byddai rhywun yn eu hanfon mewn poteli, trwy edrych ar rai negeseuon y daeth pobl o hyd iddyn nhw yn y gorffennol. Gallwch ddewis rhai gwirfoddolwyr i ddod i’ch helpu chi i agor y poteli ac i ddarllen y negeseuon sydd ynddyn nhw. Dilynwch daith pob potel ar eich map o’r byd.

    Potel 1: Wedi’i thaflu i’r môr ym Mae Morecambe gan ferch fach bedair oed fel rhan o brosiect ysgol feithrin ar ‘Lan y Môr’. Cyrhaeddodd y botel hon Awstralia. 
    Neges: ‘Helo. Wnewch chi ysgrifennu ataf fi, os gwelwch yn dda?’ (‘Hello. Please will you write to me?’)

    Potel 2: Potel wedi’i thaflu oddi ar fwrdd llong gan longwr o wlad Sweden o’r enw Ake Viking. Yr un ddaeth o hyd i hon oedd pysgotwr o Sisili, wedi’i dal yn un o’i rwydau pysgota.
    Neges: ‘Os gwnaiff merch ddel ddod o hyd i’r neges hon, ysgrifennwch ataf fi!’ (‘If any pretty girl finds this, please write!’) 
    Rhoddodd y pysgotwr y botel i’w ferch, Paolina. Fe ysgrifennodd hi lythyr yn ôl, ac ar ôl hynny fe briododd hi’r llongwr o Sweden! 

    Potel 3: Wedi’i rhwymo wrth lein hir rhwyd bysgota y cafwyd hyd iddi. Roedd y neges gan 88 o ffoaduriaid a adawyd yn y môr oddi ar arfordir Ecuador. Roedd y cwch wedi dechrau gollwng dwr, ac roedd y dynion yr oedd y ffoaduriaid wedi talu iddyn nhw i fynd â nhw i Unol Daleithiau America wedi eu gadael yno dri diwrnod ynghynt. O ganlyniad, fe gawson nhw’u hachub.
    Neges: ‘Help, os gwelwch yn dda, helpwch ni.’ (‘Help, please, help us.’)

    Potel 4: Codwyd hon ar draeth rhywle ar arfordir gorllewinol Affrica, ynghyd â Thestament Newydd o’r Beibl.
    Neges: ‘Mae Duw’n eich caru chi’n fawr.’ (‘God loves you very much.’) Roedd hon wedi cael ei hanfon gan sefydliad cenhadol o Unol Daleithiau America, o’r enw Bread on the Waters.

    Felly, mae’n bosib rhoi pob math o negeseuon mewn potel, a phwy â wyr lle y gallai rhywun ddod o hyd iddyn nhw, a’u darllen. Efallai mai cri am help fyddai’r neges, fe allai fod yn gynnig i briodi, fe allai fod yn gyfrwng i rywun ddod o hyd i ffrind i ysgrifennu llythyrau ato, neu fe allai fod yn neges o newyddion da i rywun.

  4. Pwysleisiwch y ffaith y bydd y plant yn dod i ben blwyddyn ysgol arall yn fuan. Efallai bod yr haf yma’n garreg filltir i rai o’r plant, sy’n nodi eu bod yn dod i ben eu gyrfa yn yr ysgol, ac yn gadael am ysgol arall. Yn ystod yr ‘Amser i feddwl’ dywedwch yr hoffech chi iddyn nhw ystyried beth fyddai’r neges bwysicaf y bydden nhw’n ei hysgrifennu mewn potel, i rywun arall ddod o hyd iddi. Fe allai’r neges fod ynghylch rhywbeth y maen nhw wedi’i ddarganfod amdanyn nhw’u hunain, neu am y byd, neu am ddysgu. Efallai y gallech chi wedyn greu model o  botel fawr lle gallai’r plant bostio’u negeseuon.

Amser i feddwl

Myfyrdod
Fe allech chi chwarae cerddoriaeth addas, neu sain tonnau’r môr yn torri, tra bydd y plant yn meddwl am y neges y bydden nhw’n ei hysgrifennu i’w rhoi mewn potel (fel mae’n nodi yn rhif 4). Fe allech chi hefyd ofyn i rai gynnig eu hawgrymiadau, os hoffen nhw, ar ddiwedd y cyfnod ‘Amser i feddwl’.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Mae’n rhyfedd meddwl y gallai potel yn rhywle fod yn cario neges o amgylch y byd, yn arnofio ar y tonnau, tra rydyn ni’n siarad am hyn.
Diolch i ti am y moroedd a’r cefnforoedd mawr, ac am y llanw a’r trai,
a diolch am y storïau diddorol am sut y bu i bobl o bob cwr o’r byd allu cysylltu â phobl eraill mewn ffyrdd rhyfeddol trwy negeseuon mewn poteli.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon