Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Yr Haf

Croesawu’r haf a’i werthfawrogi, a chymryd y cyfle i ddweud ffarwel wrth ffrindiau sy’n ymadael.

gan Jan Edmunds

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Croesawu’r haf a’i werthfawrogi, a chymryd y cyfle i ddweud ffarwel wrth ffrindiau sy’n ymadael.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe allech chi ysgrifennu llinellau’r gerdd ar gardiau i grwpiau neu unigolion eu darllen. Fe allech chi ddefnyddio lluniau hefyd i ddarlunio’r gerdd. Fe fyddai  OHP/ bwrdd gwyn yn ddefnyddiol i arddangos geiriau’r gerdd i bawb allu eu gweld.

  • Fe allech chi chwarae’r gerddoriaeth ‘O na byddai’n haf o hyd!’ neu ‘The sun has got his hat on’, neu unrhyw ddarn o gerddoriaeth o’ch dewis sy’n gysylltiedig â’r haf, wrth i’r plant gerdded i mewn i’r gwasanaeth.

  • Fe allech chi hefyd ddefnyddio’r gwasanaeth yma i bwysleisio pa mor bwysig yw hi i ddefnyddio eli haul a gwarchod eich hun yn y tywydd poeth.

Gwasanaeth

  1. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn hoffi’r haf: yr heulwen a’r tywydd braf, a’r pethau y gallwn ni eu gwneud yn yr haf, fel mynd i lan y môr neu am dro i’r parc. Rydyn ni’n edrych ymlaen at wyliau’r haf. Ond rydyn ni’n sylweddoli hefyd na fydd rhai o blant yr ysgol yma pan fyddwn ni’n dod yn ôl ym mis Medi. Fe fyddan nhw wedi symud ymlaen i ysgol arall. Yn ein hysgol ni, fe fyddwn ninnau efallai yn symud i ddosbarth newydd at athro gwahanol, ac at blant eraill hefyd, o bosib. Fe fydd yn antur newydd i lawer ohonom ni.

  2. Gofynnwch i’r plant wrando’n ofalus ar y gerdd, gan eich bod yn bwriadu ei thrafod gyda’r plant wedyn.

    Yr haf 
    addasiad o gerdd Jan Edmunds

    Yn yr haf, mae bywyd yn hawdd, a’r awyr yn las, ac ar lan y môr efallai cawn fwynhau seibiant cyfnod o wyliau.
    Fe allwn ni fwyta’n prydau bwyd yn yr awyr agored, yng nghysgod canghennau’r coed pan fydd yr haul ar ei orau.
    Fe welwn ni liwiau hardd y blodau dirifedi.
    Gallwn arogli arogl hyfryd y gwair newydd ei dorri.
    Mae swn dioglyd awyren ar ei thaith i rywle. 
    Mae pobl yn teimlo’n hapus, a’r plant wrth eu bodd yn cael mynd allan i chwarae.
    Pawb yn teimlo’n hynod o braf yng nghynhesrwydd bendigedig diwrnod o haf. 
    Ond, pan ddaw’r haf i ben, fyddwn ni ddim yn gweld rhai ffrindiau wedi hynny.
    Er gwaetha’r ffaith honno, wnawn ni mo’u hanghofio - peidiwch â phryderu.

  3. Rhowch amser i drafod: Pam fod y gerdd yn awgrymu ei bod hi’n haws byw yn yr haf? Pam y dylem ni eistedd yng nghysgod y coed? Pam y mae’r gwair wedi’i dorri ac yn cael ei gasglu? I ble rydych chi’n meddwl y mae’r awyren yn mynd? Pam fod mwy o flodau yn yr haf nac ar unrhyw adeg arall o’r flwyddyn? Ydych chi’n teimlo’n hapusach yn yr haf? Beth yw’r rheswm am hynny tybed?

  4. Dewisol: Fe allai’r plant ymuno i ganu’r gân rydych chi wedi’i dewis am yr haf, os hoffech chi.

  5. Er bod yr haf yn dymor hapus, ac rydyn ni’n mwynhau’r haf am yr holl resymau yma rydyn ni wedi bod yn eu trafod, mae’r haf hefyd yn amser pan fyddwn ni’n gorfod ffarwelio â rhai o’n ffrindiau. Mae gwyliau’r haf yn gyfnod rhwng dau amser i’r rhai sy’n ymadael cyn hir am ysgol arall. Rydyn ni’n dymuno’n dda iddyn nhw, ac yn gobeithio na fyddan nhw’n anghofio amdanom ni - ac yn gobeithio na fyddwn ninnau’n anghofio amdanyn nhw ychwaith.

Amser i feddwl

Myfyrdod
Yr haf: mae’r rhan fwyaf o bobl yn caru’r haf, ond yn ein gwlad ni nid yw’r haf bob amser mor braf a heulog ag y bydden ni’n disgwyl iddo fod!
Felly, beth wnewch chi er mwyn gwneud y gorau o ddyddiau’r haf? Mewn moment o ddistawrwydd, meddyliwch am hynny, a phenderfynwch beidio â gwastraffu eiliad o’r heulwen pan ddaw hi!

Gweddi
Annwyl Dduw,
Rydyn ni’n diolch i ti am wyliau’r haf.
Diolch i ti am yr holl ffrindiau sydd gennym yma heddiw.
Diolch am yr holl wersi rydyn ni wedi’u dysgu, ac am yr holl gemau rydyn ni wedi’u chwarae,
am y storïau a’r cerddi rydyn ni wedi’u clywed, ac am y caneuon rydyn ni wedi’u canu.
Bendithia bob un sy’n ymadael â’r ysgol hon heddiw.
Rydyn ni’n gofyn i ti ofalu amdanyn nhw a’u cadw’n ddiogel a hapus
yn ystod y gwyliau, ac yn eu hysgol newydd.
Rydyn ni’n diolch i ti am gynhesrwydd haul yr haf sy’n gloywi ein bywydau.
Gad i’r cynhesrwydd hwnnw fod yn ein calonnau bob amser.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon