Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Iaith y Corff

Dangos i’r plant y gallwn ni roi negeseuon i bobl eraill, nid yn unig trwy’r hyn fyddwn ni’n ei ddweud, ond trwy’r hyn rydyn ni’n ei wneud hefyd. A meddwl am anfon negeseuon positif i’r rhai sydd o’n cwmpas.

gan Rebecca Parkinson

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Dangos i’r plant y gallwn ni roi negeseuon i bobl eraill, nid yn unig trwy’r hyn fyddwn ni’n ei ddweud, ond trwy’r hyn rydyn ni’n ei wneud hefyd. A meddwl am anfon negeseuon positif i’r rhai sydd o’n cwmpas.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen darnau bach o bapur gydag amrywiaeth o negeseuon wedi’u hysgrifennu arnyn nhw. Bydd rhai plant wedyn, yn eu tro, yn actio’r negeseuon trwy ddefnyddio ystum yn unig, e.e. ‘Ffarwel’, ‘Aros’, ‘Dim diolch’, ‘Tyrd efo fi’, ‘Dos i ffwrdd’, ‘Rydw i’n teimlo’n ddiflas’, ‘Rydw i’n teimlo’n ddig iawn’.

  • Darnau bach eraill o bapur gydag amrywiaeth o sefyllfaoedd wedi’u hysgrifennu arnyn nhw ar gyfer dau blentyn i’w hactio, trwy ddefnyddio ystum yn unig eto, e.e. ‘Dau yn dadlau’, ‘Ffrindiau gorau’, ‘Dydw i ddim yn dy hoffi di’, ‘Fe ofalaf fi amdanat ti’.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i’r plant ydyn nhw’n gwybod beth yw ystyr y gair ‘ystum’. Efallai y gallech chi gael diffiniad o eiriadur - rhywbeth fel: ‘Symudiad rhan o’r corff sy’n mynegi syniad neu ystyr. Gweithred sy’n cael ei gwneud i fynegi teimlad neu fwriad.’ 

    Eglurwch yr hoffech chi i rai o’r plant ddod i’ch helpu chi i actio’r sefyllfa neu’r ystum sydd gennych chi wedi’u nodi ar y darnau papur. Dewiswch eich gwirfoddolwyr a gofynnwch iddyn nhw ddod atoch chi i’r tu blaen.

  2. Dangoswch un o’r papurau i’r plentyn cyntaf, ac wrth iddo ef neu hi ddehongli’r ystum, gofynnwch i weddill y plant ddyfalu beth mae’r ystum yn ei gyfleu. Ewch ymlaen i’r nesaf, ac ymlaen wedyn nes bydd yr unigolion i gyd wedi gwneud eu hystumiau neu eu harwyddion, a’r plant yn y gynulleidfa wedi dyfalu’n gywir.

  3. Nawr, eglurwch eich bod yn awyddus i barau o blant ddod i actio’r set nesaf o symudiadau, i ddangos sefyllfaoedd rhwng dau. Eto, rydych chi eisiau i’r rhai sy’n gwylio ddyfalu beth yw’r gwahanol sefyllfaoedd.

  4. Pan fydd yr holl sefyllfaoedd wedi’u dyfalu’n gywir, gofynnwch i’r plant sut roedden nhw’n gwybod bod dau ohonyn nhw’n dadlau, er enghraifft, tra roedd dau arall yn dangos eu bod yn ffrindiau da? Pwysleisiwch y ffaith bod y ffordd rydyn ni’n dangos ein teimladau ar ein hwynebau, neu trwy symudiadau penodol gwahanol rannau’r corff, yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r ffordd y mae pobl eraill yn ein gweld ni.

  5. Gofynnwch i’r plant wneud pob math o wahanol ystumiau â’u hwynebau, a gwneud gwahanol symudiadau i gyd-fynd â’r ystumiau, i fynegi gwahanol deimladau, fel: hapus, trist, teimlo’n ddig, teimlo’n ddiflas, etc. Trafodwch sut bydden nhw’n teimlo os byddai rhywun yn edrych yn gas arnyn nhw; neu pe byddai rhywun yn troi cefn arnyn nhw pan fyddan nhw’n siarad; neu rywun yn tynnu wyneb hyll arnyn nhw.

  6. Gofynnwch i’r plant wneud ymdrech arbennig heddiw i ofalu bod pob ystum maen nhw’n ei wneud yn rhai sy’n garedig a chalonogol ac yn helpu eraill, ac nid yn rhai cas a niweidiol.

Amser i feddwl

Myfyrdod
Caewch eich llygaid am foment, a meddyliwch am ba ystumiau fyddwch chi’n eu gwneud y mae pobl yn eu gweld.
Allwch chi feddwl pa fath o ystum y gallech chi ei wneud heddiw fydd yn helpu pobl eraill i deimlo’n dda?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Helpa ni heddiw i feddwl am ba negeseuon rydyn ni’n eu hanfon i’r rhai sydd o’n cwmpas – nid dim ond trwy’r pethau rydyn ni’n eu dweud, ond trwy’r ffordd rydyn ni’n ymddwyn.
Helpa ni i beidio â bod yn gas ac anghwrtais, ond yn hytrach i ddangos cariad a dangos ein bod yn gofalu am ein gilydd.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon