Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Beicio Araf

Siarad am fywyd fel taith, ynghyd â’r holl newidiadau a allai ddigwydd ar daith.

gan Oliver Harrison

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Siarad am fywyd fel taith, ynghyd â’r holl newidiadau a allai ddigwydd ar daith.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen beic (holwch bennaeth yr ysgol allwch chi ddod â’r beic i’r neuadd, a’i bod hi’n iawn i chi ei reidio yno). Fe fyddai’n dda cael helmed hefyd, gan fod hynny’n rhoi esiampl dda i’r plant.
  • Os yw hynny’n bosib, cadwch y beic o’r golwg nes byddwch chi ei angen. Fe fydd hyn yn peri rhywfaint o syndod i’r plant ac yn dal eu sylw yn ystod rhan gyntaf y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Siaradwch am ‘newid’. Gofynnwch am enghreifftiau o ‘newid’. Holwch sut mae’r plant yn teimlo am newidiadau (yn gyffrous, neu a yw newidiadau’n codi ofn arnyn nhw?). Mae rhai newidiadau’n anorfod, allwch chi ddim osgoi newid o dro  i dro: mae’r rhaid i ambell beth newid (e.e. allwch chi ddim aros yn yr un dosbarth yn yr un ysgol am byth!). Sgwrsiwch ymhellach am hyn os hoffech chi.

  2. Nawr soniwch am ffrind sydd gennych chi wedi bod yn cystadlu mewn ras beicio, ond roedd hon yn ras wahanol. Roedd yn rhaid iddo reidio’r beic mor araf â phosib. Yr olaf i groesi’r llinell derfyn oedd yr enillydd! Roedd hynny’n anodd iawn am fod yn rhaid i feic ddal i fynd yn ei flaen er mwyn cadw i sefyll, fel arall byddai’n disgyn! Mewn ras araf, chewch chi ddim rhoi eich troed ar y llawr, a rhaid i chi gadw o fewn eich lôn, ar drac wedi’i farcio, a pheidio mynd dros y llinell ochr.

  3. Estynnwch y beic allan o ble bynnag rydych chi wedi’i gadw, ac ewch ag ef i un ochr y neuadd. Gofynnwch i un o’r athrawon eich amseru’n reidio mor araf ag y gallwch chi ar draws tu blaen y neuadd. Gwnewch hyn ddwywaith neu dair er mwyn gweld pa dro yw’r un mwyaf araf.

  4. Cyfeiriwch at fywyd fel taith, a bod bywyd yn llawn o newidiadau. Ond rydyn ni fel y beic: allwn ni ddim aros yn llonydd, rhaid i ni ddal i fynd yn ein blaenau.

  5. Er hynny, mae un peth yn dda, mae gennym ni ffrindiau ac aelodau o’n teulu sy’n teithio gyda ni. Mae pobl sy’n credu yn Nuw yn credu bod Duw gyda ni hefyd ar ein taith, ac yno gyda ni trwy bob newid sy’n digwydd i ni.

    Mae gennym ni bobl yn yr ysgol hefyd sy’n teithio gyda ni: athrawon newydd i’n harwain trwy’r flwyddyn, staff sy’n ein helpu yn ystod yr amser cinio ac oedolion eraill hefyd sy’n gweithio yn yr ysgol. Mae rhai oedolion yn parhau i fod yn ffrindiau gyda’r rhai oedd yn yr ysgol yr un pryd â nhw - a hynny yn achos ambell un, flynyddoedd lawer yn ôl!

  6. Ond y peth i’w gofio yw, fel gyda’r beic araf, gwneud y gorau o bob eiliad o’ch bywydau – gan na ddaw foment honno byth yn ôl eto.

Amser i feddwl

Myfyrdod

Gofynnwch i’r plant gau eu llygaid, a meddwl am y bobl sy’n wirioneddol bwysig yn eu bywydau.

Byddwch yn ddiolchgar am yr holl adegau rydych chi wedi’u treulio gyda’r bobl hyn.

Efallai eich bod wedi bod i ffwrdd o’ch cartref yn ystod gwyliau’r haf yn ymweld â rhai aelodau o’ch teulu. Byddwch yn ddiolchgar am y bobl hynny ac am yr adegau hynny.

Meddyliwch am eich taith yn y flwyddyn ysgol hon. Meddyliwch am y pethau rydych chi’n gobeithio y byddan nhw’n digwydd, ac am y pethau rydych chi’n eu cael yn anodd.

A gadewch i ni fod yn ddiolchgar am ein hathrawon newydd ac am ffrindiau newydd.

Gweddi

Diolch i ti am bawb sy’n gwneud ein bywydau’n rhai mor dda.

Wrth i ni deithio trwy’r flwyddyn hon, gad i ni wneud ffrindiau newydd a gwerthfawrogi’r hen ffrindiau hefyd.

Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon