Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Trysorau Cudd

Helpu’r plant werthfawrogi y gall pethau cyffredin iawn, pethau rydyn ni’n eu cymryd yn ganiataol yn aml iawn, fod yn werthfawr iawn.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Helpu’r plant werthfawrogi y gall pethau cyffredin iawn, pethau rydyn ni’n eu cymryd yn ganiataol yn aml iawn, fod yn werthfawr iawn.

Paratoad a Deunyddiau

  • Rhestr o enwau gwahanol fathau o datws wedi’i hysgrifennu ar fwrdd gwyn neu fwrdd du:
    Charlotte, Desiree, King Edward, Duke of York, Osprey, Rocket, Maris Piper, Kerr’s Pink, Saxon, Vivaldi.

  • Mae’r cwis (edrychwch ar rhif 5) yn ddewisol, ar gyfer  disgyblion hyn neu oedolion ar staff yr ysgol. Fe allech chi ddewis y timau o flaen llaw, cyn y gwasanaeth.

  • Mae’n bosib gweld logo’r Cenhedloedd Unedig ar gyfer Blwyddyn y Daten ar y wefan www.britishpotatoes.co.uk/year-of-the-potato.
    Cewch wybodaeth am y maetholion sydd mewn tatws ar y wefan www.britishpotatoes.co.uk/children-s-health.
    Ac mae gwybodaeth ddefnyddiol bellach i’w chael hefyd ar www.britishpotatoes.co.uk.

Gwasanaeth

  1. Eglurwch  eich bod yn mynd i sôn heddiw am Drysor Cudd. Fe hoffech chi i’r plant ddyfalu beth tybed yw’r trysor cudd hwn ar ôl iddyn nhw edrych ar y rhestr enwau sydd ar y bwrdd du neu’r bwrdd gwyn.

  2. Mae’n debyg y bydd y plant yn synnu eich bod yn cyfeirio at datws fel ‘Trysor Cudd’. Dangoswch logo’r Cenhedloedd Unedig ar gyfer Blwyddyn y Daten 2008 oddi ar y wefan. Fydd y plant yn gallu awgrymu pam eich bod yn cyfeirio at y daten fel trysor?

  3. Dangoswch y wybodaeth o’r wefan ynghylch y maetholion sydd i’w cael yn y daten gyffredin. Gofynnwch i’r plant nodi deg rhan o’r corff fyddai’n cael budd o’r maetholion sydd mewn tatws. Eglurwch mai dyma’r rheswm pam y mae tatws pob yn cael eu hystyried yn ddewis maethlon ac iach ar fwydlen yr ysgol.

  4. Siaradwch am yr holl wahanol ffyrdd y gallwn ni goginio neu weini tatws. Pa un yw’r gorau gan y plant?  

    (Wedi i’r plant fynd yn ôl i’r dosbarth, fe allen nhw wneud gwaith ymchwil ar y testun yma, a chofnodi eu canfyddiadau ar ffurf graffiau mewn gwers fathemateg.)

  5. (Dewisol) Dywedwch wrth y plant eich bod yn mynd i weld faint mae’r oedolion/ athrawon neu’r plant hynaf yn ei wybod am y ‘trysor’ yma. Gofynnwch am rai gwirfoddolwyr i wneud dau dîm. Neu, dewiswch ddau dîm o flaen llaw i gymryd rhan.

    Gofynnwch i’r timau ddewis o’r rhestr sydd gennych chi ar gyfer ateb y cwestiynau canlynol - pa  fath o datws sydd orau ar gyfer y dull o goginio (mae’r atebion mewn cromfachau):

    taten dda i’w berwi (Harmony)
    taten dda i’w bwyta fel tatws newydd (Rocket)
    taten dda i’w stwnsio (Saxon)
    taten dda i’w rhostio (Desiree neu King Edward)
    taten dda i’w choginio yn  ei chroen - tatws pob (Vivaldi)
    taten dda i’w bwyta mewn salad (Charlotte neu Maris Piper)
    taten dda i wneud sglodion â hi (Maris Piper)

  6. Weithiau fe fyddwn ni’n troi ein trwynau ar fwyd plaen syml fel tatws. Yn y gorffennol, fodd bynnag, mae pobl wedi dibynnu ar datws i’w bwyta er mwyn cadw’n fyw. Bu farw miloedd o bobl yn Iwerddon tua 150 o flynyddoedd yn ôl, nid oherwydd haint neu afiechyd, ond oherwydd bod newyn yn y wlad oherwydd bod y cnwd tatws wedi methu. (Fe allech chi annog y plant i chwilio rhagor am yr hanes yma wedi iddyn nhw fynd yn ôl i’r dosbarth.)

    Heddiw, mewn rhai gwledydd tlawd iawn yn y byd, y cnwd tatws yw’r unig beth sy’n cadw’r bobl yno rhag newynu.

  7. Ydych chi wedi clywed rhywun yn cyfeirio at rywun arall ac yn dweud ei fod yn drysor? Yn aml iawn, mae’r unigolion rheini yn bobl sy’n mynd ymlaen â’u gwaith yn dawel ac yn gwneud pethau bychain i helpu pobl eraill. Efallai mai’r wraig sy’n mynd draw i gartref ei chymdoges oedrannus bob bore i wneud yn siwr ei bod yn iawn yw un o’r rhain. Efallai mai’r postmon sy’n dymuno bore da, ac yn codi llaw ar wr oedrannus yn ei gartref yw un arall. Efallai mai disgybl sy’n cynnig helpu’r athro neu’r athrawes i glirio’r dosbarth yw un arall. Neu, efallai mai’r disgybl sy’n gweld bod rhywun yn unig ar iard yr ysgol, ac sy’n cynnig cyfle iddo ef neu iddi hi ddod i chwarae, yw un o’r trysorau hyn.

    Yn union fel y daten blaen, ddiolwg, sydd i’w cael ar ein bwrdd bwyd yn aml, fe allwn ninnau fod yn ‘Drysor Cudd’ heddiw.

Amser i feddwl

Myfyrdod
Yn aml, fe fyddwn ni’n meddwl am drysor fel cist o ddarnau aur ac arian, a gemwaith gwerthfawr.
Ydi’r gwasanaeth heddiw wedi gwneud i chi feddwl am wahanol fathau eraill o drysor?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am yr holl bethau gwahanol y gallwn ni eu gwneud â thatws.
Diolch i ti am selsig a thatws stwnsh (sausage and mash).
Diolch i ti am bysgodyn a sglodion (fish and chips).
Diolch i ti am stwnsh rwdan, neu ‘tatties and neeps’ os ydych chi’n dod o’r Alban.
Diolch i ti am datws rhost.
Diolch i ti am baced o greision.
Dysga ni i fod â chalonnau diolchgar.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon