Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Negesydd Newyddion Da

Paratoi ar gyfer tymor yr Adfent trwy helpu’r plant i ddeall bod newyddion da yn beth i’w rannu.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

Nodau / Amcanion

Paratoi ar gyfer tymor yr Adfent trwy helpu’r plant i ddeall bod newyddion da yn beth i’w rannu.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen amlenni yn cynnwys y pethau canlynol: hysbysiad o enedigaeth baban, llythyr i ddweud bod rhywun wedi dyweddïo, a bil.

  • Stori’r Angel Gabriel yn ymweld â Mair, o fersiwn Beibl i Blant (Luc 1.26–38).

Gwasanaeth

  1. Dywedwch wrth y plant bod eich postmon wedi dod â llythyrau i chi heddiw, ond eich bod heb gael amser i’w hagor. Rydych chi’n gobeithio nad oes gwahaniaeth gan y plant eich bod yn mynd i agor y llythyrau i gael cip sydyn arnyn nhw.

    Agorwch yr amlen gyntaf, sy’n cynnwys cerdyn hysbysiad o enedigaeth baban. Smaliwch ddarllen y cerdyn i chi eich hun yn ddistaw, ac yna dywedwch, ‘O! Dyna newydd da.’ Rhannwch y newydd da am faban bach newydd â’r plant. Os oes rhywun o’r ysgol newydd gael brawd neu chwaer fach, fe fyddai’n braf dathlu genedigaeth y baban bach hwnnw fel hyn.

    Agorwch yr ail amlen, sy’n llythyr i ddweud bod rhywun wedi dyweddïo. Smaliwch ddarllen y llythyr eto i chi eich hun yn ddistaw, ac yna dywedwch, ‘O! Dyna newydd da arall.’ Rhannwch y newydd da am y ddau sydd wedi dyweddïo â’r plant. Efallai mai nai neu nith i chi yw un o’r ddau, ac efallai y byddwch yn cael gwahoddiad i’r briodas …. A dyna i chi reswm da dros gael mynd i brynu dillad newydd!

    Amlen frown yw’r drydedd amlen, ac mae’n cynnwys bil. Edrychwch ar yr amlen gan ddweud eich bod yn adnabod yr amlen, ‘Rwy’n meddwl mai bil yw hwn!’ Smaliwch ddarllen cynnwys yr amlen hon eto i chi eich hun yn ddistaw, ac yna dywedwch, ‘O! Dyna newydd da arall.’ Rhannwch y newydd da. Eglurwch eich bod wedi talu o’r blaen am eich trydan yn ôl bil oedd wedi cael ei amcangyfrif, ac roeddech wedi talu gormod. Felly, y tro yma, doedd arnoch chi ddim cymaint o arian i’r cwmni, ac mae eich bil yn llawer llai nag roeddech chi wedi’i ddisgwyl.

  2. Gofynnwch i’r plant ydyn nhw wedi clywed rhyw newydd da yn ystod yr wythnos diwethaf, unrhyw newyddion yr hoffen nhw ei rannu â phawb arall. Ar ôl gwrando ar rai sy’n dymuno ymateb, dywedwch, ‘Dyna sawl newydd da. Diolch am rannu’r newyddion da â ni.’

  3. Dywedwch eich bod yn awr yn mynd i ddweud stori am newydd da. Nid trwy’r post y daeth y newydd da yma. Angel ddaeth â’r newydd! Am ei fod yn newydd da arbennig iawn oddi wrth Dduw ein Tad. Fe ddaeth yr angel â’r newydd da i wraig ifanc o’r enw Mair, pan oedd hi’n brysur ryw ddiwrnod yn gwneud ei gwaith ty.

    Darllenwch y stori. Yna dywedwch, ‘Roedd hwnnw’n newydd da, ’ndoedd?’

  4. Yn union fel rydych chi wedi rhannu’r wybodaeth am eich llythyrau newyddion da gawsoch chi, a’r stori yn y gwasanaeth heddiw, eglurwch fod Duw eisiau i ni i gyd fod yn negeseuwyr newyddion da - fel postmyn mewn gwirionedd!

  5. Dywedwch wrth y plant ein bod yn nesu at gyfnod o’r enw tymor yr Adfent. Dyma pryd y byddwn ni’n dechrau darllen a chlywed am y newydd da fod y baban Iesu’n dod i’n byd ni. Gadewch i ni fod yn barod i glywed y newydd da am Iesu, a chario’r newydd i bobl eraill.

Amser i feddwl

Myfyrdod
Gafaelwch yn llaw y nesaf atoch a’i gwasgu’n dyner.
Gafaelwch yn llaw y nesaf atoch a gwenu’n hapus.
Gafaelwch yn llaw y nesaf atoch a phasiwch ymlaen y geiriau, ‘Mae stori’r Nadolig yn newydd da’.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am yr adeg hon o’r flwyddyn.
Diolch i ti y byddwn ni, gyda hyn, yn clywed dy stori arbennig di, sy’n stori newydd da. 
Helpa ni i rannu’r newydd da hwn â phobl eraill.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon