Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dameg yr Heuwr

Ystyried y syniad o wneud yr hyn rydyn ni’n gwybod sy’n iawn, heb adael i bethau dynnu ein sylw.

gan Jenny Tuxford

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Ystyried y syniad o wneud yr hyn rydyn ni’n gwybod sy’n iawn, heb adael i bethau dynnu ein sylw.

Paratoad a Deunyddiau

  • Mae nifer o wahanol awgrymiadau yn y gwasanaeth yma, ac mae’n bosib i chi ddewis pa adran yr hoffech chi ei defnyddio ar y tro. Neu, fe allech chi ddefnyddio’r gwasanaeth dros nifer o ddyddiau, gan gymryd yr elfen o ‘amser real’. Fe allech chi hyd yn oed blannu rhai hadau ffa a’u gwylio’n tyfu!

Gwasanaeth

Awgrymiadau ar ddefnyddio elfennau’r gwasanaeth yma: 

  • Darllenwch ddameg yr heuwr (Luc 8.5–15), a’i thrafod. Eglurwch mai stori sydd â mwy nag un ystyr iddi yw dameg. Mae dameg bron fel nionyn – mae mwy nag un haen i’r stori. Felly, heddiw, fe fydd y ddameg yn golygu un peth i chi, ond ymhen amser fe all olygu rhywbeth gwahanol - mae damhegion fel storïau hud!

  • Awgrymiadau am drafodaeth: a oes rhai adegau pan oedd y plant efallai yn gwybod beth oedd yr hyn ddylen nhw’i wneud, ond bod rhywbeth wedi tynnu eu sylw ar y pryd, ac oherwydd hynny wnaethon nhw ddim gwneud rhywbeth fel y dylen nhw fod wedi’i wneud?

  • Fe allech chi baratoi’r gerdd i’w hactio fel meim gyda’r plant yn portreadu gwahanol elfennau’r penillion. Felly, fe fyddai’r dosbarth cyfan yn cael cymryd rhan.

  • Darllenwch trwy’r ddrama nifer o weithiau. Gan nad oes nifer fawr o frawddegau i unrhyw gymeriad, fe fydd y plant yn gallu eu dysgu’n rhwydd.

  • Mae’n bosib darllen y gerdd trwy gael y plant i ddarllen y llinellau fesul un neu ddwy yn eu tro.  
  1. Dameg yr heuwr

    Byddai Iesu’n adrodd storïau arbennig,
    I’n helpu ni ddeall ei neges yn iawn.
    Storïau am bobl gyffredin fyddai ganddo,
    Storïau am bysgotwyr neu ffermwyr a gawn.

    Yn aml, eisteddai mewn cwch,
    A’r bobl i gyd ar y lan.
    Roedd ei storïau’n ymddangos yn syml,
    Ond roedd ynddyn nhw neges lawn.

    Roedd un yn stori am ffermwr o’i wlad,
    Aeth allan un dydd ar ei dir,
    I blannu hadau er mwyn tyfu planhigion,
    Gobeithiai gael cnwd da, yn wir.

    Fe soniodd am y ffermwr yn hau yr had,
    Nid gyda pheiriant fel sydd gennym ni heddiw,
    Ond eu hau â llaw o’i fasged fawr,
    Gan eu taflu yma ac acw.

    Felly, gwrandewch ar y stori 
    Am y ffermwr hwn aeth i hau ei hadau.
    Tybed ydych chi yn tyfu yn dda,
    A phob amser yn gwneud eich gorau?

    Wel, fe fu’r ffermwr wrthi yn hau yr had,
    Ond syrthiodd peth ar hyd y llawr.
    Hedfanodd yr adar i lawr a bwyta’r rhain,
    Eu pigo, a’u bwyta, a’u mwynhau yn fawr.

    Syrthiodd rhai hadau ar dir caregog,
    Roedd yn anodd iddyn nhw dyfu yno.
    Mae ar bob hedyn angen pridd i dyfu, 
    Fel mae pob ffermwr a garddwr yn gwybod.

    Tyfodd y rhain yn bur sydyn,
    Tywynnodd yr haul yn gryf arnyn nhw,
    Ond gan nad oes ganddyn nhw fawr o wreiddiau,
    Buan y gwywodd y cyfan - a marw.

    Syrthiodd hadau eraill ymysg yr ysgall,
    Doedd y rheini ddim yn gallu tyfu’n iawn.
    Unrhyw beth gaiff ei dagu gan chwyn fel yma,
    Does ganddo fawr o obaith, na fawr o siawns.

    Ond syrthiodd peth o’r hadau ar dir da,
    A thyfu, tyfu, a thyfu.
    Wedyn cynhyrchodd y planhigyn ffrwythau,
    Yn wir, yn union fel y dylai …
    A gobeithio mai dyna fydd eich hanes chithau!

  2. Dameg y ffa 

    Dydd Llun 

    Miss Heulwen:  Wel, blant, mae gennym ddigon o amser i chi blannu eich ffa cyn amser chwarae.

    Twm: Rydw i wedi golchi'r jar jam sydd gen i, Miss, fel roeddech chi wedi dweud.

    Tesni:  Mam wnaeth olchi'r jar sydd gen i.

    Ben:  A Dad olchodd fy un i.

    Sharon:  Fe wnes i roi fy un i yn y peiriant golchi llestri.

    Lisa:  Ych! Mae picl yn dal i fod yn jar Rob!

    Rob:  Oes ots?

    Miss Heulwen:  Dyna ddigon! Mae’n rhaid na chafodd Rob amser i’w olchi’n iawn, naddo Rob?

    Sali
    :  Wyt ti wedi dod â phridd i dyfu dy ffa, Rob?

    Rob:  Paid â bod y wirion, Sali. Roedd gen i bethau gwell i’w gwneud neithiwr na gwastraffu fy amser yn tyllu am bridd. 

    Ben:  Rwy’n siwr mai edrych ar Rownd a Rownd oedd o.

    Rob:  Ac roedd gen i eisiau cyfrif fy sticeri pêl-droed. 

    Wena:  Fe ddylet ti wneud beth wnes i, fe gefais i bridd o’r pentwr pridd lle mae’r adeiladwyr yn gweithio.

    Rob:  O! Twpsyn!  Nid pridd yw hwnnw. Graean i wneud concrid ydi o.

    Wena:  Miss Heulwen, mae Rob newydd fy ngalw i’n dwpsyn.

    Miss Heulwen:  Wel, fe fydd yn rhaid i ni ddysgu rhai geiriau newydd gwell iddo felly, ydych chi’n meddwl?

    Peredur:  Miss Heulwen? Wyddoch chi pan oedd Mr Huws y Pennaeth yn sôn am y Samariad Trugarog, a sut y dylem ni feddwl am helpu pobl eraill? Wel, rydw i wedi bod yn meddwl. Ydych chi’n meddwl y gallem ni gynnal taith noddedig oddi amgylch cae yr ysgol, a chasglu arian tuag at yr uned i fabanod cynamserol, yn yr ysbyty lleol?

    Miss Heulwen:  Dyna syniad ardderchog, Peredur.

    Wena:  Plîs, Miss, beth yw cynamserol?

    Miss Heulwen:  Ystyr cynamserol yma yw rhywbeth sy’n dod cyn yr amser yr oedden nhw fod i ddod.

    Wena:  O! ’Run fath â Rob, Miss. Roedd o yn yr ysgol am wyth o’r gloch heddiw. Mae’n rhaid ei fod o’n gynamserol. 

    Rob: Nac ydw, dydw i ddim! A chynamserol i chdithau hefyd!

    Miss Heulwen
    :  Gawn ni fynd yn ôl i siarad am y daith noddedig, Peredur. Fe fydd yn rhaid i ni ofyn i Mr Huws y Pennaeth yn gyntaf. Os bydd ef yn cytuno, fe fydd arnom ni angen trefnu dyddiad a llunio ffurflen noddi a’i dyblygu. Fe wnaf i eich helpu a’ch cefnogi. Beth am drefnu’r daith ar gyfer wythnos i ddydd Gwener? Os gallwch chi gerdded am awr ar ôl yr ysgol, yna fe fydd gennych chi’r penwythnos i ddadflino.

    Peredur:  Mae hynny’n swnio’n iawn. Gawn ni weld pwy sydd â diddordeb, os gwelwch yn dda?

    Rob:  Fydda’ i ddim yn gallu dod. Fydd dad ddim yn gadael i mi ddod, a beth bynnag fe fydda’ i’n llawer rhy brysur.

    James:  Sut rwyt ti’n gwybod na fydd dy dad yn gadael i ti ddod, dwyt ti ddim wedi gofyn iddo fo eto?

    Wena:  Fe ddof fi ar y daith, Peredur. Fe af fi rownd a rownd y cae, a chodi lot fawr o arian ar gyfer y babanod bach. Gewch chi weld!

    Simon:  A fi hefyd. Mae gen i esgidiau rhedeg newydd. Costio pres! Fydd o’n esgus i mi gael eu gwisgo nhw. Dydw i ddim yn gwneud dim ar ôl yr ysgol ar ddydd Gwener. Rho fy enw i lawr.

    Miss Heulwen:  Da iawn, bawb. Rydych chi’n garedig iawn. Nawr, mae’n rhaid i ni blannu’r ffa. Maen nhw wedi bod yn mwydo yn y dwr dros y penwythnos, felly fe ddylen nhw fod yn barod i’w plannu.

    Len:  Fe dyfodd fy hadau berwr i yn well ar y wlanen ymolchi.

    Tariq:  Dyna pam rwyt ti heb ymolchi ers wythnosau?

    Peredur
    :  Fe af i yn gyntaf, os hoffech chi. Mae gen i gompost John Innes Number 3. Mae fy nhaid yn arddwr. Mae wedi bod â chynnyrch ei ardd i’w arddangos yn Sioe Llanelwedd. Ond nid ffa, ’chwaith. Fe fydd gen i ddigon ar ôl wedyn, os oes rhywun eisiau peth.

    Wena:  Rwy’n barod i fetio mai fy ffa i fydd yn tyfu orau. Fe wna’ i wthio’r ffeuen i mewn i’r gro mân sydd gen i, gyda fy mhren mesur, wedyn fe wna’ i ei roi yn ymyl y gwresogydd. Fe ddylai dyfu’n dda yno. (Naill ochr) Ha ha! Sgwn i pam na wnaeth Peredur feddwl am roi ei ffa yno i dyfu?

    Rob:  Mae golwg ofnadwy ar dy bridd di, Simon. Mae’n llawn o chwyn. Wnaiff dy ffa di ddim tyfu yn hwn. 

    Simon:  Paid â busnesa, Rob. O leiaf rydw i wedi dod â phridd, sy’n fwy nag a wnest ti!

    Rob:  Ac mi rwyt ti wedi rhoi gormod o lawer o ddwr.

    Simon:  Wel, does gan dy ffa di ddim pridd na dwr  - dim ond picl!

    Miss Heulwen
    :  Iawn, mae’n amser chwarae blant, allan â chi!

  3. Dydd Gwener

    Nedw:  Hei, edrych, mae gwreiddyn bach yn dod ar fy ffa i!

    Siân:  A f’un innau hefyd.

    Cadi:  Welwch, mae eginyn yn dod ar fy un i hefyd.

    Helen:  A dail bach.

    Peredur:  Mae fy un i’n fawr!

    Gwen:  Fel dy ben di.

    Wena:  Fy un i yw’r talaf, hwn yw’r gorau. Fi sydd wedi ennill.

    Marian:  Ond does gan dy un di ddim gwreiddyn.

    Wena:  Dim ots gen i am hynny. Fi sydd wedi ennill.

    Gari:  Wena – nid cystadleuaeth ydi hi.

    Wena:  Wel, y fi sydd wedi ennill, beth bynnag. Does gan Peredur ddim dail hyd yn oed ar ei un o. 

    Sophie:  Ond mae’r dail ar dy un di yn frown ac wedi crebachu.

    Nabil:  Mae ffeuen Rob yn bendant wedi’i chael hi!.

    Nedw:  Beth oedd o’n ei ddisgwyl? Doedd ganddo ddim pridd, a wnaeth o ddim trafferthu rhoi dwr i’r ffeuen ychwaith.

    Rob:  Nid fy mai i ydi o – rydw i wedi bod yn rhy brysur.

    Sarah:  Rhy brysur yn ysgrifennu llinellau.

    Wena:  O na! Mae fy ffa yn dechrau gwywo.

    Miss Heulwen:  Rwy’n gwybod sut mae’r planhigyn yn teimlo! Efallai ei fod wedi bod mewn lle rhy boeth, mor agos at y gwresogydd. Wyt ti’n meddwl y dylet ti fod wedi ei symud?

    Wena:  O na, Miss. Rydw i eisiau iddo dyfu mwy eto dros y penwythnos. Efallai y bydd ffa yn tyfu ar y planhigyn erbyn hynny.

    Miss Heulwen:  Dydw i ddim yn meddwl y bydd hynny’n digwydd ar hyn o bryd, a dweud y gwir. Dewch, mae bron yn amser mynd adref. Gobeithio y cewch chi i gyd benwythnos da. Peidiwch ag anghofio’ch ffurflenni noddi. A chofiwch peidiwch â mynd i ofyn i ddieithriad – dim ond eich ffrindiau ac aelodau eich teuluoedd.

    Pawb:  Iawn, Miss Heulwen. Penwythnos da i chithau. Welwn ni chi dydd Llun

  4. Dydd Llun

    Bryn:  O, edrychwch! Mae ffa Wena wedi crebachu’n llwyr!

    Laura:  Waw! Edrychwch ar un Peredur! Welwch fel mae wedi tyfu?

    Sali:  O diar! Beth sydd wedi digwydd i blanhigyn Simon?

    Arwel:  Mae’r holl chwyn wedi’i dagu. Bydd rhaid i ti gael chwynladdwr, neu rywbeth, Simon.

    Miss Heulwen:  Oes rhywun wedi dod â’i ffurflen noddi i’w dangos i ni? (Mae’r rhan fwyaf o’r plant yn codi eu dwylo.) Da iawn!

    Wena:  Fe wnes i lenwi fy un i ond mae’r ci wedi ei chnoi hi.

    Simon:  Fe ddof i â fy un i fory. Mae  30 o bobl wedi fy noddi, ond rydw i eisiau gofyn i un neu ddau o bobl eraill ar ôl i fi fod yn jogio heno. 

    Rob:  Sori. Roeddwn i’n rhy brysur.

  5. Dydd Gwener

    Miss Heulwen:  Wel, dyma ni! Rydw i’n  gobeithio eich bod chi i gyd yn barod i gerdded i godi arian at achos da.

    Pawb:  Ydyn, Miss, mae pawb yn barod!

    Miss Heulwen:  Ar y marc - yn barod - ewch! (Y plant yn cerdded oddi amgylch y neuadd, fel pe bydden nhw ar eu taith noddedig.)

    Rhiant 1:  C’mon, Sali, gwna dy orau!

    Rhiant 2:  Rheola dy gyflymdra, Bryn!

    Rhiant 3:  Arafa, Arwel!

    Rhiant 4:  Brysia, Helen!

    (Mae Laura’n llithro, ac mae Peredur yn ei helpu i godi.)

    Peredur:  Wyt ti’n iawn, Laura? Wyt ti eisiau i mi fynd â ti at y nyrs?

    Laura:  Na, ond diolch i ti, Peredur. Rhaid fy mod i wedi baglu ar draws coes matsien!

    Nedw:  Helpu dy gariad, wyt ti, Peredur?

    Peredur:  Mae hi’n rhan o’r tîm, Nedw. Rydyn ni i gyd yn rhan o dîm.

    Miss Heulwen (wrth y nyrs ysgol): Mae natur hyfryd gan Peredur. Fe fyddai’n braf pe byddai pawb yn y dosbarth mor ystyriol â fo. (Mae hi’n curo’i dwylo wrth i’r daith noddedig ddod i ben.) Ac fe fyddai’n braf pe byddai pawb yn y dosbarth wedi cymryd rhan.

    Len:  Wnaeth Rob ddim dweud unrhyw beth, dim ond cerdded oddi yma ar ôl yr ysgol.

    Cadi:  Ac fe aeth Wena adref hefyd, heb ddweud dim.

    Helen:  Roeddwn i’n meddwl ei bod hi wedi dweud ei bod yn mynd i gerdded rownd a rownd a rownd y cae.

    Bryn:  A beth ddigwyddodd i Simon a’i holl noddwyr - 30 wedi’i noddi ddywedodd o'r diwrnod o’r blaen?

    Ioan:  Mae o wedi mynd i rywle efo un o’i ffrindiau. Roedd o’n dweud ei fod o wedi bod yn ymarfer ar gyfer y daith noddedig ar hyd yr wythnos, ond bod un o’i ffrindiau wedi gofyn iddo pe byddai’n ei helpu i olchi ceir fe fydden nhw’n ennill rhagor o arian poced. Ac na fydden nhw’n gorfod ei roi at achos da.

    Miss Heulwen:  Wel, mae’n amlwg fy mod i’n siomedig â rhai, ond rydw i’n falch iawn ohonoch chi i gyd. Gafodd pawb ddiod oren a bisgedi?

    Peredur:  Do diolch. Fe wnaeth Bryn yn dda ’ndo? Dim ond 20 lap fedrais i eu gwneud, ond fe wnaeth Bryn 25. Rydw i’n meddwl mai fo yw’r un ddylai gael mynd i’r ysbyty i gyflwyno’r siec, pan fyddwn ni wedi casglu’r arian i gyd. Mae gen i swigod ar fy nhraed!

    Sali:  Fe wnes i gasglu sbwriel welais i ar fy ffordd o gwmpas.

    Miss Heulwen:  Da iawn yn wir! Da iawn, bawb. Fe wnaethoch chi i gyd eich gorau, a dyna sy’n cyfrif. Ac wrth gwrs, fe gaiff Bryn ein cynrychioli ni trwy fynd i gyflwyno’r siec i’r ysbyty - a tithau hefyd, Peredur, am mai ti gafodd y syniad.

    Nabil:  Wel, edrychwch mewn difrif! Edrychwch ar ffa Peredur! Mae wedi tyfu’n anferth.

    Arwel:  Mae fel rhywbeth allan o stori tylwyth teg - Peredur a’r goeden ffa!

    Peredur:  Fyddai hi’n iawn i mi fynd â’r planhigyn adref a’i blannu yng ngardd taid?

    Helen:  Allwn ni ddim gweld ffa Simon - dim ond llwyth o chwyn. Hen dro na allen ni fwyta’r chwyn.

    Sophie:  Mae ffa Wena wedi mynd yn frown a gludiog, tebyg i bapur dal pryfed.

    Tariq:  Ac mae ffeuen Rob wedi sychu’n grimp. Waeth i ni ei thaflu allan i’r adar, ddim.

    Bryn:  Dydw i ddim yn meddwl y byddai’r adar eisiau peth fel yna!

    Miss Heulwen:  Dydw i ddim yn amau nad ydych chi’n iawn. Nawr, adref â ni. A diolch i chi am aros ar ôl heddiw, i gerdded er mwyn yr achos da. Rydych chi’n garedig iawn.

    Peredur:  A diolch i chi am ein helpu i drefnu’r daith noddedig, Miss Heulwen, ac am roi eich amser chithau hefyd. Gobeithio y cewch chi seibiant dros y penwythnos. Welwn ni chi dydd Llun.

  6. Ystyr dameg y ffa

    Rob:  Roeddwn i’n debyg i’r had a ddisgynnodd ar y llawr, lle daeth yr adar a’i fwyta. Wnes i ddim gwneud unrhyw ymdrech, naddo?

    Wena:  Roeddwn i’n llawn bwriadau da, ond wnes i ddim ymdrechu llawer. Roeddwn i fel yr hedyn a grebachodd.

    Simon:  Fe wnes i ymarfer yn barod ar gyfer y daith noddedig, gyda’r bwriad o fod yno, ond yna roedd y cyfle i wneud rhywfaint o arian  poced wrth lanhau ceir yn ormod o demtasiwn i mi. Fi oedd yn hedyn gafodd ei dagu gan yr ysgall a’r chwyn.

    Peredur:  Ac roeddwn i, mae’n debyg, fel yr hedyn a ddisgynnodd ar bridd da, ac fe wnes i fy ngorau i wneud beth oedd yn iawn.

Amser i feddwl

Gweddi
Annwyl Dduw,
Pan fydda’ i’n gwybod beth yw’r peth iawn i’w wneud,
Helpa fi i beidio â gadael i bethau dynnu fy sylw,
fel y gallaf ddal ati a gwneud yr hyn sy’n iawn.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon