Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Deuddeg Coeden Nadolig Fach

Darparu cyflwyniad dosbarth, syml, sy’n ein hatgoffa o’r rheswm pam rydyn ni’n dathlu’r Nadolig.

gan Jan Edmunds

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Darparu cyflwyniad dosbarth, syml, sy’n ein hatgoffa o’r rheswm pam rydyn ni’n dathlu’r Nadolig.

Paratoad a Deunyddiau

  • Mae’n bosib i’r arweinydd ddarllen y deunydd yma, gan aros ar ddiwedd pob llinell i roi cyfle i’r plant feimio neu wneud y symudiadau priodol.
  • Darllenwch y gerdd yn ofalus o flaen llaw cyn penderfynu pwy fydd yn chwarae’r cymeriadau sy’n ymddangos yn y cyflwyniad. Caiff deuddeg o blant eu gwisgo mewn gwisgoedd syml fydd yn cynrychioli coed Nadolig. Daw plant eraill ymlaen i wneud y symudiadau fel mae’r gerdd yn mynd yn ei blaen. Ceisiwch gynnwys pob un o blant y dosbarth i chwarae rhan neilltuol.

Gwasanaeth

Deuddeg coeden ’Dolig 
addasiad o gerdd gan Jan Edmunds

Deuddeg coeden ’Dolig yn sefyll yn un rhes,
Deuddeg coeden ’Dolig, mae’r ’Dolig yn dod yn nes.

Deuddeg coeden ’Dolig sy’n cael eu torri lawr.
(Dau neu dri o blant yn meimio torri’r coed.)
Deuddeg coeden ’Dolig yn mynd i’r siopau ’nawr.
(Gall un plentyn fod yn yrrwr lori, gyda’r coed yn ffurfio llinell hir y tu ôl iddo, ac yn ei ddilyn o gwmpas y llwyfan.)

Deuddeg coeden ’Dolig gaiff eu cludo nawr i’r siop.
Deuddeg coeden ’Dolig yn cael eu dadlwytho wedi i’r lori ddod i stop.
(Mae’r gyrrwr yn dadlwytho’r coed ac yn eu gosod yn un rhes eto.)

Deuddeg coeden ’Dolig yn sefyll yno’n gwenu.
Deuddeg coeden ’Dolig i gyd yn cael eu gwerthu.
(Daw’r siopwr ymlaen i werthu’r coed fesul un i ddeuddeg o gwsmeriaid. Bydd y coed a’r cwsmeriaid yn symud - rhai i’r dde a rhai i ochr chwith y llwyfan.)

Deuddeg coeden ’Dolig gyda thinsel ac addurniadau,
(Gall nifer o blant addurno’r ‘coed’ â darnau o dinsel.)
Yn edrych yn hardd bob un, gyda’u goleuadau.
(Fe allai’r rhai sy’n actio’r coed ddal tortshis bach, a’u goleuo yn ystod y pennill yma.)

Deuddeg coeden ’Dolig yn gwarchod yr anrhegion,
(Daw Siôn Corn i mewn, gyda’i sach, a rhoi anrhegion wrth fôn pob coeden.)
Yr anrhegion lu ddaw gan Siôn Corn, wedi’u lapio’n brydlon. 

Coed Nadolig hapus, yn rhannu hwyl y ’Dolig,
Yn disgwyl yn gyffrous am y dydd arbennig. 
Yn ein hatgoffa i gyd am Fethlehem, a’r baban Iesu’n cael ei eni,
A’r dydd Nadolig cyntaf - cofiwn am hynny eto eleni. 

(Trefnwch i’r plant i  gyd ddod yn ôl i’r llwyfan ar y diwedd. Mae lleoliad pob plentyn yn bwysig, a rhowch gyfle i’r plant ymarfer hyn o flaen llaw.)

Amser i feddwl

Myfyrdod
Rhowch gyfle i’r gynulleidfa edrych ar y ‘coed’ mewn distawrwydd.

Gweddi
Diolch i ti am y Nadolig:
diolch am y coed Nadolig yn ein cartrefi,
a’r rhai fydd yn cael eu gosod cyn hir.
Diolch am gael gweld y goleuadau ar y coed,
ac am y llawenydd rydyn ni’n ei deimlo wrth eu gweld.
Diolch i ti am y Nadolig.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon