Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cracers Nadolig

Cyfleu’r cyfnod o ddisgwyl am y Nadolig, heddiw ac ar adeg y Nadolig cyntaf.

gan Helen Redfern

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Cyfleu’r cyfnod o ddisgwyl am y Nadolig, heddiw ac ar adeg y Nadolig cyntaf.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen dwy neu bedair cracer Nadolig draddodiadol, ac un wedi’i gwneud gartref gyda llun y baban Iesu, yn y stabl, y tu mewn iddi.

Gwasanaeth

  1. yniwch ymateb rhai o’r plant, neu gofynnwch iddyn nhw drafod hyn mewn parau. Crynhowch rai o’r awgrymiadau: anrhegion, partïon, adegau arbennig gydag aelodau o’r teulu, y bwyd, canu caneuon Nadoligaidd, a holl  gynnwrf a hud y Nadolig.

    Mae’r rhan fwyaf ohonom yn edrych ymlaen at ryw agwedd ar y Nadolig. Mae’r disgwyl (a’r edrych ymlaen) ambell dro yn gymaint o hwyl â’r Nadolig ei hun!

  2. Gofynnwch i ddau neu bedwar o blant ddod i’r tu blaen, a rhowch gracer Nadolig i bob un. 

    Sut maen nhw’n teimlo wrth ddal y cracers? Ceisiwch iddyn nhw awgrymu teimlad o gyffro a theimlad o fod eisiau dyfalu beth sydd ynddyn nhw. Ydyn nhw’n awyddus i dynnu’r gracer a chael gweld beth sydd ynddi? Beth maen nhw’n feddwl fydd y tu mewn? 

    Gadewch iddyn nhw eu tynnu a mwynhau beth fydd i mewn ynddyn nhw! Gofynnwch i bob plentyn ddisgrifio’i deimlad ar ôl gweld beth gawson nhw yn y cracers. 

    Mae tynnu cracers yn hwyl, gan fod y cynnwys bob amser yn syrpreis. Fyddwn ni byth yn gwybod beth sydd ynddyn nhw. Weithiau, fe fyddwn ni wrth ein bodd â’r cynnwys, dro arall fe fyddwn ni’n teimlo’n siomedig.

  3. Gannoedd o flynyddoedd cyn i Iesu gael ei eni, roedd yr Iddewon yn ei wlad yn gyffrous iawn yn disgwyl un roedden nhw’n meddwl amdano fel Gwaredwr. Doedden nhw ddim yn cael eu trin yn dda, roedden nhw mewn caethiwed, ac roedden nhw o ddifrif yn dymuno cael bod yn rhydd. Roedd dyn o’r enw Eseia wedi dweud wrthyn nhw am un a fyddai’n dod i’w gwaredu, a’u cael yn rhydd o’u caethiwed. Fe ddywedodd Eseia:

    Canys bachgen a aned i ni, mab a roed i  ni,
    a bydd yr awdurdod ar ei ysgwydd.
    Fe’i gelwir, ‘Cynghorwr rhyfeddol, Duw cadarn, Tad bythol, Tywysog Heddychlon’.
    Ni bydd diwedd ar gynnydd ei lywodraeth, nac ar ei heddwch i orsedd Dafydd a’i frenhiniaeth, i’w sefydlu’n gadarn â barn a chyfiawnder o hyn a hyd byth.
    Bydd sêl Arglwydd y Lluoedd yn gwneud hyn.
     (Eseia 9.6–7)

    Gwych! Plentyn, Duw cadarn! Mab, Tywysog Tangnefedd! Heddwch diddiwedd! Dim rhagor o ddioddef, rhyddid wedyn o’r caethiwed!

    Wrth gwrs eu bod yn llawn cyffro! Roedd y disgwyl mawr yma bron yn fwy na’r hyn y gallai’r Iddewon ymdopi ag ef! Mil gwaith mwy o gyffro na dal cracer yn eich llaw!

  4. Dangoswch y gracer rydych chi wedi’i gwneud gartref wedyn. Tynnwch hon a dangoswch lun y baban Iesu oedd y tu mewn iddi. Dywedwch mai dyma beth oedd yr hyn yr oedd Eseia wedi’i addo i’r bobl flynyddoedd lawer ynghynt.

    Wel dyna syndod, dyna beth oedd syrpreis! Baban bach yn cael ei eni mewn stabl? Plentyn bach i rieni cyffredin, tlawd? Nid dyna beth roedd yr Iddewon yn ei ddisgwyl o gwbl. Dyna siom! Brenin? Na, dim hwn! Gwaredwr? Mae rhywun yn tynnu coes yma! 

    Roedd gwahanol bobl yn ymateb mewn gwahanol ffyrdd i enedigaeth Iesu. Fe ddaeth rhai i’w addoli. Fe geisiodd y Brenin Herod ei ladd! Roedd llawer o Iddewon yn siomedig, ac yn methu credu mai hwn oedd yr un oedd wedi cael ei addo iddyn nhw, yr holl flynyddoedd yn ôl.

Amser i feddwl

Myfyrdod
Hyd heddiw, mae gwahanol bobl yn dal i ymateb i’r Nadolig mewn gwahanol ffyrdd.
Mae rhai pobl wrth eu bodd; eraill ddim yn mwynhau cymaint.
Mae rhai pobl yn edrych ymlaen yn fawr at y Nadolig; eraill yn pryderu.
Mae rhai pobl yn gweld y Nadolig yn adeg rhy brysur; eraill yn eistedd gartref yn unig.
Mae rhai pobl yn dathlu geni Iesu; eraill ddim yn gwneud hynny.

Gweddi
O Dduw, ein Tad,
Diolch i ti am y Nadolig, ac am bob peth rydyn ni’n edrych ymlaen tuag ato eleni.
Helpa ni i gofio am y rhai sydd ddim yn edrych ymlaen at y Nadolig.
Helpa ni i fod yno ar eu cyfer, fel y gallwn eu helpu.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

Unrhyw garol.

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon