Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ada's songs

Awgrymu bod plant sy’n byw mewn gwledydd sydd ymhell o’r wlad hon yn debyg iawn i’r plant sy’n byw yng ngwledydd Prydain, ond weithiau mae eu bywyd yn llawer caletach.

gan Gordon Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Awgrymu bod plant sy’n byw mewn gwledydd sydd ymhell o’r wlad hon yn debyg iawn i’r plant sy’n byw yng ngwledydd Prydain, ond weithiau mae eu bywyd yn llawer caletach.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe allech chi baratoi un neu nifer o’r plant i ddarllen geiriau Ada yn y gerdd, neu fe allech chi wneud hynny eich hun.
  • Wedi’i chynnwys yn nes ymlaen yn y gwasanaeth, mae cân syml ar y diwn ‘Here we go round the mulberry bush’, sy’n ddigon hawdd ei chanu gyda chyfeiliant neu’n ddigyfeiliant.

Gwasanaeth

  1. Holwch y plant am eu bore ar ddyddiau ysgol: Faint o’r  gloch y byddan nhw’n codi? Beth maen nhw’n ei fwyta i frecwast? Sut maen nhw’n teithio i’r ysgol? Faint o’r gloch y byddan nhw’n cyrraedd yr ysgol? Beth maen nhw’n ei wneud ar ôl cyrraedd?

  2. Soniwch wrth y plant am Ada, sy’n byw mewn gwlad o’r enw Mali yng ngorllewin Affrica. Mae’r hyn a hoffech chi ei egluro i’r plant am y wlad yn dibynnu ar faint o wybodaeth sydd ganddyn nhw eisoes am y wlad. Efallai bod rhai o’r plant yn gwybod am rywun sy’n byw yno, ond efallai nad oes gan y mwyafrif o’r plant ddim llawer o syniad am y cyfandir, na sut mae pobl yn byw yno. Gofalwch bod y plant yn deall bod Mali yn wlad bell iawn o Brydain ac mai ffermwyr tlawd yw llawer o’r bobl sy’n byw yno, yn ffermio tir gwael, a does ganddyn nhw ddim ond ychydig iawn, iawn, o arian.

    Chwech oed yw Ada, ac mae’n mynd i’r ysgol pan fydd hi’n gallu, ond mae hi hefyd yn gorfod helpu gyda’r cynhaeaf: helpu i gasglu’r cnydau o’r caeau pan fyddan nhw’n aeddfed. Pwysleisiwch mor wahanol yw bywyd Ada i fywydau plant ysgol yn y wlad hon, ond gwrandewch ar eiriau’r gerdd yma y mae Ada wedi’i chyfansoddi am ei mam:

    Fy mam, rwy’n caru fy mam, fe ofalodd hi amdanaf pan oeddwn i’n fabi,
    Pan oeddwn i’n crio, roedd hi’n fy nghysuro,
    Pan oeddwn i eisiau bwyd, roedd hi’n fy mwydo.
    Fe ddysgodd mam i mi siarad, gam wrth gam, o un gair i un frawddeg.
    Fe fyddaf yn caru fy mam ar hyd fy mywyd, ac fe wnaf bopeth a allaf i’w gwneud hi’n hapus
    .

    Felly, efallai nad yw Ada mor wahanol â hynny i ni wedi’r cyfan!

  3. Eglurwch eich bod, ymhen ychydig funudau, yn mynd i ddysgu cân fach arall i’r plant y bydd Ada yn ei chanu. Ond er mwyn deall ystyr y gân, rhaid i chi sôn wrth y plant am broblem y mae Ada a phawb arall yn Mali yn gorfod ei hwynebu: heidiau o locustiaid. Mae miloedd ar filoedd o’r pryfed yma, sy’n edrych yn debyg i geiliogod rhedyn, yn dod ac yn bwyta’r cnydau y mae aelodau teulu Ada a’i ffrindiau wedi ymdrechu i’w tyfu. Dyma beth mae Ada yn ei ddweud am y locustiaid:

    ‘Rydw i’n cofio’r locustiaid yn dod. Roedden ni yn y caeau ar y pryd. Fe ddaeth pobl a dweud wrthym ni fod y locustiaid yn dod. Allen ni wneud dim ond edrych arnyn nhw. Roedd eu swn fel swn car modur, rhyw swn fel prrrprrprr. Roedd arogl fel pysgod ffres arnyn nhw, yn union fel pe byddech chi wedi gafael mewn pysgodyn ffres ac yna’n arogli’ch dwylo.’

    Os yw’r bobl yn clywed y locustiaid yn dod, mae un peth sy’n bosib iddyn nhw ei wneud: fe allan nhw wneud swn mawr i ddychryn y locustiaid a’u hanfon oddi yno. Mae’n rhaid i bawb ruthro allan gan weiddi a tharo drymiau neu sosbenni, neu unrhyw beth arall sydd ganddyn nhw, er mwyn gwneud swn mawr. Un tro fe lwyddodd teulu Ada i anfon haid fawr o locustiaid i ffwrdd trwy wneud swn mawr fel hyn, a hynny dim ond mewn pryd cyn i’r locustiaid ddifa’r cnwd i gyd.

  4. Dewisol: Chwaraewch gêm gyda’r plant, lle mae’r plant yn cael gwneud swn uchel, dan reolaeth, swn fel clapio a gweiddi ‘Ewch, locustiaid, ewch!’ wedi i chi ddweud y gair allweddol ‘locustiaid’: a hynny dim ond pan fyddwch chi’n dweud y gair hwnnw! Gofynnwch i bawb edrych arnoch chi, yna sibrydwch y gair ‘locustiaid’. Wedyn, ar ôl i’r plant weddi, er mwyn i chi gael distawrwydd codwch eich llaw. Gwnewch y dilyniant yma  nifer o weithiau. Fe allech chi chwarae tric â'r plant i geisio’u dal, er mwyn cael gweld pa mor sylwgar ydyn nhw - a galw rhywbeth fel ‘lori wartheg’ neu ‘lot o siocled’ yn hytrach na dweud ‘locustiaid’. Ond, wedyn, cyn symud ymlaen at ran nesaf y gwasanaeth, pwysleisiwch fod y gêm swnllyd hon ar ben, a bod eisiau i’r plant ddifrifoli eilwaith.

  5. Un peth arall y gall pobl Mali ei wneud er mwyn helpu i gael gwared â’r locustiaid yw difa unrhyw wyau y mae’r locustiaid wedi’u dodwy, os byddan nhw’n dod o hyd i rai. Mae Ada’n gwneud hynny er mwyn ceisio lleihau’r pla, ac mae hi’n canu cân wrth wneud. Dyma eiriau Cymraeg tebyg i beth fyddai Ada  yn eu canu yn ei hiaith ei hun (gallwch eu canu ar diwn yr hwiangerdd gyfarwydd, ‘Here we go round the mulberry bush’):

    Dyma ni’n gwasgu wyau locustiaid, wyau locustiaid, wyau locustiaid,
    Dyma ni’n gwasgu wyau locustiaid, sgwashio, sgwashio, sgwashio
    .

    Canwch y gân, a gwnewch symudiadau syml i efelychu’r gweithgaredd.
  6. Gorffennwch y gwasanaeth trwy ddweud bod bywyd yn galed iawn i Ada a’i theulu. Mae hi heb ddim bwyd yn aml iawn, am fod y locustiaid wedi bwyta eu cnydau. Dyma beth mae hi’n ei ddweud: 

    ‘Mae’r newyn yn ein pentref, nid oherwydd ein bod heb weithio’n galed, ond oherwydd y locustiaid. Nid oherwydd bod pobl yn diogi, ond oherwydd bod locustiaid yn difa’r cnwd.’

Amser i feddwl

Myfyrdod
Treuliwch foment yn meddwl am Ada, ac am ba mor wahanol yw ei bywyd hi i’ch bywyd chi:
Rhaid iddi hi weithio yn y caeau.
Weithiau mae hi eisiau bwyd ac yn teimlo’n newynog iawn, ond does dim bwyd.
Mae hi hefyd wedi bod yn sâl am nad yw’n cael digon i’w fwyta.
Ond, mae Ada yr un fath â chi hefyd, mewn llawer ffordd:
Mae hi’n mynd i’r ysgol.
Mae hi’n caru ei mam a’i thad.
Mae hi’n hoffi canu.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Rydym yn gweddïo dros bobl fel Ada a’i theulu,
wrth iddyn nhw geisio tyfu cnydau, a chael y gorau ar y locustiaid.
Rydym yn gweddïo am fwy o degwch yn y byd, lle mae pawb yn cael digon o fwyd i’w fwyta.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon