Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Sion Ddrwg

Atgoffa’r plant y dylem ni fod yn ystyriol tuag at bobl eraill.

gan Jan Edmunds

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Atgoffa’r plant y dylem ni fod yn ystyriol tuag at bobl eraill.

Paratoad a Deunyddiau

  • Does dim angen paratoi, ond fe allai OHP fod yn ddefnyddiol er mwyn cyd ddarllen y gerdd.

Gwasanaeth

  1. Heddiw, rydyn ni’n mynd i ddarllen cerdd am fachgen o’r enw Siôn. Rwy’n siwr bod pob un ohonom ni wedi cwrdd â rhywun tebyg. Yn anffodus, roedd Siôn yn gallu bod yn sbeitlyd iawn tuag at blant eraill.

    Roedd fel petai’n cael pleser o fod yn gas wrth blant eraill. Doedd o ddim yn gallu chwarae’n hapus heb fod yn gas wrth rywun. Roedd Siôn yn meddwl ei bod hi’n hwyl fawr gwneud i blant eraill grio, ac wedyn, ni allai ddeall pam nad oedd neb eisiau chwarae ag ef.

  2. Gadewch i ni ddarllen y gerdd, a chewch chi weld wedyn beth ydych chi’n ei feddwl o Siôn a’r hyn a ddigwyddodd.

    Siôn Ddrwg
    (addasiad o gerdd Jan Edmunds)

    Roedd Siôn wedi dechrau bod yn fachgen drwg, a phoenai ei rieni.
    Roedd yn gas â phawb a byddai, ryw ben bob dydd, yn strancio ac yn gweiddi.
    Os na chai ef ei ffordd ei hun, fe fyddai’n mynd o’i go,
    A dyna pam nad oedd neb o’r plant eisiau chwarae efo fo.

    Un dydd daeth Anti Gwen i edrych am Siôn a’r teulu.
    Ac wrth ei weld yn fachgen drwg, roedd ei fodryb wedi synnu.
    ‘Rwy’n methu deall pam ei fod fel hyn, rhaid iddo newid,’ meddai.
    ‘Mae angen iddo ddysgu gwers, a dysgu ymddwyn fel y dylai.’

    ‘Tybed beth fyddai Siôn yn wneud,’ meddai, ‘pe byddem ni’n rhoi iddo flas
    o’r hyn mae o’n ei wneud i ni, trwy ymddwyn braidd yn gas?
    Fe allen ni wneud beth mae Siôn yn ei wneud, dim ond am ryw un tro,
    Tybed sut y teimlai Siôn, pe byddech chi’n cuddio ei bethau o?
    Ac os bydd o’n methu deall pam, ac yn gofyn i chi beth sydd,
    Fe ddangoswn iddo sut mae o yn trin pawb arall ohonom ni bob dydd!’

    Felly, dyna beth a wnaethon nhw, doedd Siôn ddim yn blês o gwbl,
    Am sbel, roedd pawb yn gas efo fo - doedd o erioed wedi cael y fath drwbl!
    Fe ddysgodd trwy’r ffordd galed, mewn gêm o roi a thynnu,
    Fe welodd Siôn beth oedd o’i le, ac roedd yn ddrwg iawn ganddo am hynny.

    Meddyliwch am y gerdd fach hon, mae’n bwysig ddywedwn i, 
    Eich bod chi’n gwneud ’run peth i eraill ag y dymunech iddyn nhw ei wneud i chi.

  3. Rhowch amser i drafod y gerdd. Holwch gwestiynau fel: Pa fath o bethau ydych chi’n ei ystyried sy’n sbeitlyd? Pam nad oedd y plant yn hoffi chwarae gyda Siôn? Tybed pa fath o bethau yr oedd Siôn yn ei wneud iddyn nhw? Beth oedd awgrym Anti Gwen? Beth wnaeth i Siôn newid ei ffordd?

Amser i feddwl

Myfyrdod 
‘Dwyn elw iddo’i hun y mae’r trugarog, ond ei niweidio’i hun y mae’r creulon.’ (Diarhebion 11.17).
Gad i ni gofio y dylem ni ymddwyn tuag at bobl eraill yn y ffordd yr hoffem ni iddyn nhw ymddwyn tuag atom ni. Fe ddylem reoli ein tymer pan fydd pethau’n mynd o chwith. Nid yw’n iawn peri gofid i bobl eraill trwy ddweud pethau annymunol neu trwy fod yn gas tuag atyn nhw.

Gweddi
Duw fo yn fy mhen, ac yn fy neall;
Duw fo yn fy llygaid, ac yn fy edrychiad;
Duw fo yn fy ngenau, ac yn fy llefaru;
Duw fo yn fy nghalon, ac yn fy meddwl;
Duw fo yn fy niwedd ac yn fy ymadawiad.
Amen.

(Gweddi  o’r Unfed ganrif ar bymtheg)

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon