Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gweneud Camgymeriadau 2

Ystyried y dyfyniad Saesneg hwn gan ddyn o’r enw Alexander Pope: ‘To err is human, to forgive divine’.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Ystyried y dyfyniad Saesneg hwn gan ddyn o’r enw Alexander Pope: ‘To err is human, to forgive divine’, sef  ‘Peth dynol yw gwneud camgymeriad, peth dwyfol yw maddau’.

Paratoad a Deunyddiau

  • Paratowch y rhestr o gamgymeriadau (isod) i’w harddangos ar y bwrdd gwyn neu’r bwrdd du. Bydd angen i’r plant allu symud y rhain o gwmpas a’u hail drefnu fel eu bod yn gallu eu gosod mewn trefn yn ôl eu difrifoldeb.

    Fe gefais i dair o symiau yn anghywir heddiw.
    Fe wnes i anghofio rhoi fy enw ar dop fy nhaflen waith.
    Fe wnes i golli fy nhymer a tharo fy ffrind.
    Wnes i ddim gwrando ar Mam a dyma pam yr anghofiais i fy mocs bwyd.
    Fe wnes i chwerthin am ben y llun yr oedd fy ffrind wedi’i dynnu.
    Wnes i ddim defnyddio Rheolau’r Groes Werdd wrth groesi’r ffordd ddoe pan oeddwn i’n mynd o’r ysgol.
    Fe wnes i golli sudd oren ar garped ein hystafell fyw.
    Fe wnes i golli fy llyfr llyfrgell.
  • Paratowch blentyn neu nifer o blant i ddarllen yr adnodau o Lyfr yr Actau 9.3–9.

Gwasanaeth

  1. Ystyr y gair ‘cyfeiliorni’ yw gwneud rhywbeth sydd ddim yn iawn neu wneud camgymeriad. Os ydych chi’n fod dynol fe fyddwch chi’n gwneud camgymeriadau. Mae’n rhan o’n hanes ni fel bodau dynol.

    Cyfeiriwch yn ôl at y gwasanaeth blaenorol yn y gyfres yma (ym mis Ionawr) a gofynnwch i’r plant rannu gyda chi beth maen nhw wedi ei ddysgu am wneud camgymeriadau trwy’r gwasanaeth hwnnw. Oes unrhyw rai o’r plant yn ddigon dewr i rannu rhai o’u ‘damweiniau hapus’ gyda gweddill y gynulleidfa yn y gwasanaeth heddiw? Fe allech chi eu helpu i ddechrau trwy sôn am ryw gamgymeriad a wnaethoch chi eich hunan yn ystod y dyddiau diwethaf!

  2. Dangoswch y rhestr o gamgymeriadau, a gofynnwch i rai gwirfoddolwyr eich helpu i arddangos bod rhai o’r camgymeriadau’n fwy difrifol na’r lleill. Gofynnwch i’r plant osod yr enghreifftiau mewn trefn yn ôl eu difrifoldeb, yn eu barn nhw.

  3. Adroddwch y stori yma (o’r Testament Newydd yn y Beibl) am ddyn o’r enw Saul, a wnaeth rai camgymeriadau difrifol iawn.

    Roedd Saul yn ddyn dysgedig a chlyfar iawn, oedd yn gwybod y cyfan am ddeddfau Duw, ac roedd wedi treulio’i fywyd yn ceisio cadw pob rheol a deddf. Doedd o erioed wedi lladd neb, nac wedi dwyn unrhyw beth oddi ar neb. Doedd Saul ddim yn genfigennus oherwydd bod gan ei gymydog rywbeth yr hoffai ef ei gael. Roedd yn mynd i’r eglwys yn rheolaidd, ac yn rhoi arian at achosion da. Yn wir, roedd yn ddyn da ac yn uchel ei barch.

    ‘Dacw Saul,’ dywedai’r bobl. ‘Mae Saul yn ddyn da ac yn ddyn duwiol.’

    Wel, roedd yn ymddangos felly, nes daeth newyddion i’r ardal lle’r oedd Saul yn byw fod llawer o Iddewon cyffredin yn cynhyrfu ac yn gwirioni am fod arweinydd crefyddol newydd wedi dod i ddweud wrthyn nhw am Dduw. 

    Doedd Saul yn malio dim am beth felly, fel arfer. Roedd arweinyddion newydd yn dod i’r ardal yn aml ac yn mynd wedyn oddi yno wedyn. Yr unig beth oedd yn wahanol am yr arweinydd newydd yma oedd bod hynny wedi digwydd yn ei achos yntau hefyd … ond bod rhywbeth arall wedi digwydd yn ei achos ef hefyd! Oedd roedd wedi dod yno, ac roedd wedi mynd. Yn wir, roedd y dyn yma, o’r enw Iesu, wedi bod yn dweud pethau neilltuol fel bod yr awdurdodau Iddewig wedi cael gwared ag o, unwaith ac am byth - roedden nhw’n meddwl. 

    Ond, erbyn hyn roedd y bobl yn dweud ei fod wedi dod yn ei ôl. Roedd o wedi codi o farw’n fyw! Ar y dechrau dim ond y disgyblion trist oedd yn credu bod Iesu wedi atgyfodi. Ond, fel roedd yr amser yn mynd yn ei flaen, roedd mwy a mwy o bobl yn dod i wrando ar y storïau am Iesu’n codi o farw’n fyw, ac yn dod i gredu bod y peth yr oedd y bobl yn ei ddweud yn wir. Roedd mwy a  mwy o bobl yn ymuno â’r dilynwyr. Er mawr syndod, roedd y disgyblion cynnar rheini, pysgotwyr cyffredin a chasglwr trethi, fel ag yr oedden nhw, wedi dod yn rhai da iawn am siarad am hyn, ac am annog pobl eraill i ddod ag ymuno â nhw. 

    ‘Fe rown ni ddiwedd ar y nonsens yma!’ meddai Saul yn ddig. Ac fe ymrwymodd i chwilio am bob un o’r dilynwyr newydd hyn, oedd yn mynnu credu yn y dyn hwnnw o’r enw Iesu, a’u dal a’u rhoi mewn carchar bob un. Roedd hyd yn oed yn gwylio un diwrnod pan gafodd un dyn ifanc o’r enw Steffan, ei labyddio. Roedd pobl yn taflu cerrig ato, ac yn parhau i wneud hynny nes ei ladd. A dim ond y dechrau oedd hynny.

    Erbyn hyn doedd Saul ddim yn fodlon ceisio dal y dilynwyr oedd yn byw yn yr un ardal ag ef, ac fe aeth yn llawn dicter i le o’r enw Damascus, i chwilio am ragor o’r bobl yma oedd yn galw’u hunain yn ‘Bobl y Ffordd’, er mwyn ceisio’u dal a mynd â nhw yn garcharorion i Jerwsalem. Ond ar y ffordd fe ddigwyddodd rhywbeth iddo! 

    Gwrandewch, ac fe gawn ni glywed yn y stori o’r Beibl beth yn union a ddigwyddodd i Saul.

  4. Gofynnwch i un neu nifer o’r plant ddarllen yn adnodau o Lyfr yr Actau 9.3–9.

    Trafodwch beth yw ystyr y gair ‘erlid’. Roedd Duw wedi siarad yn bersonol â Saul ac wedi dweud wrtho ei fod wedi gwneud camgymeriad mawr!

    Yn y dyddiau canlynol, fe fyddai Saul yn dod i wybod bod Iesu yn wir wedi codi o farw’n fyw. Roedd Saul wedi bod yn anghywir, ac roedd y disgyblion a phobl y Ffordd, y rhai yr oedd Saul wedi bod mor greulon wrthyn nhw, wedi bod yn iawn. A beth am y dyn ifanc hwnnw o’r enw Steffan, y bu Saul yn gwylio pobl yn ei lofruddio, neu ei labyddio? Sut y gallai unrhyw un fod yn dawel ei feddwl ar ôl gwneud camgymeriad felly?

  5. Gadewch i ni edrych eto ar y dyfyniad rydyn ni’n ei drafod heddiw. ‘To err is human, to forgive divine - Peth dynol yw gwneud camgymeriad, peth dwyfol yw maddau.’ Gelwir grym arbennig Duw i faddau i bobl am eu camgymeriadau yn ‘drugaredd dwyfol’. Mae Duw yn caru maddau i bobl. Mae Duw yn gwybod y byddwn ni’n gwneud camgymeriadau. Ac mae’n gwybod  y bydd ein camgymeriadau weithiau’n gallu arwain at wneud pethau difrifol iawn i bobl. Mae Duw eisiau maddau i ni. Mae Duw eisiau i ni ddweud ei bod hi’n ddrwg gennym ni, a throi i ffwrdd oddi wrth bethau drwg, a pheidio â gwneud y math hwnnw o beth eto.

    Yn bendant fe newidiodd Saul ar ôl cael maddeuant gan Dduw. Fe gafodd enw newydd gan Dduw, sef Paul, ac fe ddywedodd Duw wrtho ei fod eisiau iddo wneud gwaith pwysig iawn. ‘Dos, oherwydd yr wyf fi am dy anfon di ymhell at y Cenhedloedd.’ Roedd Duw eisiau i Paul fynd â’r neges am Iesu i bawb.

    Pe byddai Paul heb fynd yn ei flaen a gwneud hynny, fyddech chi na minnau erioed wedi clywed am Iesu.

Amser i feddwl

Myfyrdod  
Mae Duw yn gallu maddau pob bai a chamgymeriad.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch dy fod ti’n ein deall ni.
Diolch dy fod ti’n ddwyfol, a dy fod ti’n gallu maddau. 
Diolch i ti am stori Saul.
Diolch dy fod ti wedi maddau iddo am y camgymeriad a wnaeth o,
a diolch dy fod ti wedi ei newid i fod yn rhywun gwahanol a fendithiodd lawer o bobl eraill.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon