Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Symbolau Christonogol Rahn 3 Yn Angor

Dangos i’r plant beth yw ystyr un o’r symbolau Cristnogol – yr angor.

gan Rebecca Parkinson

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Dangos i’r plant beth yw ystyr un o’r symbolau Cristnogol – yr angor.

Paratoad a Deunyddiau

  • arwyddlun neu logo'r ysgol.

Gwasanaeth

  1. Atgoffwch y plant eich bod chi’n dilyn cyfres o wasanaethau sy’n edrych ar symbolau mewn Cristnogaeth. Atgoffwch nhw am y groes a’r pysgodyn, ac eglurwch eich bod heddiw’n mynd i sôn am un o’r symbolau hynaf y gwyddom amdano a ddefnyddiwyd gan Gristnogion.

  2. Gofynnwch i’r plant ydyn nhw wedi bod mewn cwch erioed. Gofynnwch i rai sôn am eu profiadau. 

    Atgoffwch y plant bod pysgota yn waith pwysig iawn yn amser Iesu, a physgotwyr oedd llawer o’i ddilynwyr, neu roedden nhw’n aelodau i deulu o bysgotwyr.

  3. Gofynnwch i’r plant gau eu llygaid a dychmygu eu bod mewn cwch. Fe allen nhw actio’r symudiadau hefyd, os hoffen nhw. 

    Ar y dechrau, maen nhw’n hwylio’n braf gan godi a gostwng y mymryn lleiaf ar wyneb y dwr. Ond yn sydyn, mae’r gwynt yn codi a’r tonnau’n chwyddo mwy a mwy. Maen nhw’n rhwyfo am eu bywydau tua’r lan i geisio arbed eu hunain rhag cael eu chwythu oddi ar eu llwybr - neu’n waeth na hynny, rhag cael eu chwythu ar y creigiau neu allan i’r môr mawr. 

    Mae’r gwynt yn rhy gryf iddyn nhw. Beth allan nhw’i wneud? Mae’n debyg y bydd y plant yn awgrymu gweiddi am help, neu neidio o’r dwr a cheisio nofio i’r lan. Tybed a fydd rhywun yn awgrymu gollwng yr angor?

  4. Dangoswch lun yr angor i’r plant. Eglurwch pan gafodd beddau Cristnogion cynnar eu darganfod yn Rhufain, roedd haneswyr yn llawn diddordeb wrth weld bod llun angor wedi cael ei dynnu ar waliau llawer ohonyn nhw, neu wedi’i gerfio i’r graig. Roedd yr angor wedi cael ei ddefnyddio fel symbol cynnar iawn o Gristnogaeth.

    Y gred yw bod llun yr angor yn cael ei ddefnyddio am dri rheswm yn bennaf:

    (a) Mae cysylltiad amlwg gyda’r gwaith o bysgota, a oedd yn waith cyfarwydd ac yn waith pwysig iawn yn amser Iesu.

    (b) Roedd yr angor yn dal y cwch neu’r llong yn sefydlog ac yn ddiogel mewn storm. Yn yr un  ffordd roedd y Cristnogion cynnar yn credu bod Iesu fel angor yn eu cadw’n ddiogel wrth iddyn nhw fynd trwy adegau anodd. Mae adnod yn y Beibl yn dweud: ‘Y mae’r gobaith hwn gennym fel angor i’n bywyd, un diogel a chadarn,’ (Hebreaid 6.19).

    (c) Pan ddechreuodd Cristnogaeth ledaenu, roedd yr awdurdodau mewn llawer lle yn anfodlon, ac roedd rhaid i Gristnogion gadw eu cred yn gyfrinach. Fel roedd y gwasanaeth cyntaf yn y gyfres hon o wasanaethau am symbolau Cristnogol yn sôn, roedd symbol y groes yn bwysig iawn gan Gristnogion. Doedden nhw ddim eisio peidio defnyddio’r symbol hwnnw. Ond fe wnaethon nhw sylweddoli y gallech chi ffurfio siâp angor dim ond trwy ychwanegu dwy linell ychwanegol ar waelod siâp croes syml. Credai’r Cristnogion cynnar na fyddai siâp yr angor mor amlwg i awdurdodau a fyddai yn eu hamau, ond fe fydda’n parhau i gynnwys siâp y groes o fewn y symbol.

  5. Os oes gan eich ysgol chi arwyddlun neu logo, trefnwch fod gennych chi gopi ohono i’w ddangos i’r plant fel y gallwch chi ei drafod. Holwch pam y mae’r symbol(au) yn yr arwyddlun yn bwysig. Am beth mae’r arwyddlun yn ein hatgoffa? Yn yr un ffordd ag y mae Cristnogion yn defnyddio symbolau i’w hatgoffa am eu ffydd yn Iesu, felly hefyd y mae gennym ninnau symbol(au)  yn yr ysgol sy’n ein hatgoffa am werthoedd yr ysgol a’n cyfrifoldebau tuag at eraill.

Amser i feddwl

Myfyrdod
Caewch eich llygaid a meddyliwch am arwyddlun neu logo'r ysgol. Beth mae hwn yn mynd i’ch atgoffa i’w wneud y tro nesaf y gwelwch chi’r arwyddlun?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Fe ddefnyddiai’r Cristnogion cynnar symbolau i’w hatgoffa eu hunain amdanat ti.
Helpa ni, os gweli di’n dda, i beidio dy anghofio di
ac i gofio gofalu am y bobl sydd o’n cwmpas ni.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon