Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gall Hyn Ddrechrau Gyda Mi

Helpu’r plant i werthfawrogi ei bod hi’n bosib datrys problemau eithaf mawr wrth weithio gyda’n gilydd.

gan Gordon Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Helpu’r plant i werthfawrogi ei bod hi’n bosib datrys problemau eithaf mawr wrth weithio gyda’n gilydd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Mae’r gwasanaeth wedi’i sylfaenu ar addasiad o gân syml sy’n bosib ei chanu ar dôn yr emyn ‘He’s got the whole world, in His hand’.

Gwasanaeth

  1. Cyflwynwch y gân a’i dysgu i’r plant, trwy ei chanu ddwy neu dair o weithiau.

    Mae’n cymryd llawer o bobl i newid y byd,
    Mae’n cymryd llawer o bobl i newid y byd,
    Mae’n cymryd llawer o bobl i newid y byd,
    Ond, gall hyn ddechrau gyda mi.

    Os gweithiwn gyda’n gilydd, gallwn newid y byd,
    Os gweithiwn gyda’n gilydd, gallwn newid y byd,
    Os gweithiwn gyda’n gilydd, gallwn newid y byd,
    A gall hyn ddechrau gyda mi.

    Gall un newid bach newid y byd,
    Dim ond un newid bach newid y byd,
    Ie, gall un newid bach newid y byd,
    A gall hyn ddechrau gyda mi.

  2. Gofynnwch i’r plant beth fyddai’r peth y bydden nhw’n hoffi gallu ei newid er mwyn gwneud y byd yn lle gwell i bawb. Gwerthfawrogwch eu holl awgrymiadau, a dewiswch un a allai fod yn llythrennol bosib, er enghraifft, digon i fwyd i bawb, neu ddod ag anghydfod y mae’r plant wedi clywed amdano mewn rhyw wlad, i ben.

    Dewiswch blentyn y credwch fyddai’n fodlon cydweithredu â chi am foment i gael rhywfaint o hwyl. Galwch y plentyn yn ‘Mahinda’, a gofyn iddo ef neu hi sefyll. Yna dywedwch: ‘Dos i ddatrys y broblem yma rydyn ni wedi’i dewis heddiw, os gweli di’n dda, Mahinda, a gorau oll os galli di wneud hynny a dod yn ôl erbyn amser egwyl. Iawn, dyna un broblem... pa broblem arall gawn ni ei datrys …’

    Gofynnwch i’ch gwirfoddolwr ac i weddill y gynulleidfa pam fod yr hyn rydych chi newydd ei ofyn i ‘Mahinda’ yn afresymol:

    Am fod y broblem yn broblem fawr.
    Am na all ‘Mahinda’ ddatrys y broblem ar ei ben/ ei phen ei hun.
    Fe fyddai’n costio llawer o arian.

  3. Gofynnwch, os felly, a oes pwrpas meddwl am y peth? Neu, tybed all geiriau ein cân ein helpu i weld yr ateb?

  4. Eglurwch fod rhai problemau mawr iawn ledled y byd. Mae llawer o bobl yn newynu; eraill heb ddwr glân; mae llawer o bobl yn sâl, ond fe allen nhw wella pe bydden nhw’n cael meddyginiaeth syml; mae rhai yn methu fforddio talu am fwyd a lloches; ac weithiau mae trychinebau annisgwyl yn digwydd. Dyma un stori am eneth fach o’r enw Sylvia:

    Merch fach yw Sylvia sy’n byw gyda’i theulu yn Sri Lanka, ynys yn ymyl India. Roedd hi a’i theulu yn arfer byw mewn ty heb fod ymhell o lan y môr. Ond, ychydig o flynyddoedd yn ôl, ar adeg y Nadolig, fe ddaeth ton enfawr o’r môr a tharo’r ynys. Byddwn yn galw ton mor fawr â honno’n tswnami. Chwalwyd ei chartref a’r pentref gan y don enfawr, a chafodd Sylvia ei chario allan i’r môr gyda’r dwr. Roedd hi wedi cael ei gwahanu oddi wrth ei theulu, ac roedd hi ar ben ei hun yng nghanol y môr mawr. Llwyddodd i ddal  gafael mewn darn o bren oedd yn arnofio ar wyneb y dwr, ac fe fu yno trwy’r dydd a thrwy’r nos. O’r diwedd, fe ddaeth criw hofrennydd y fyddin o hyd iddi a’i hachub. Yn anffodus, doedd ei brawd naw oed a’i ffrind gorau ddim wedi bod mor lwcus; roedd y ddau wedi boddi.

    Eglurwch y gallai’r plant feddwl bod sefyllfa o’r fath yn un o’r sefyllfaoedd amhosib rheini - sut yn y byd y gallai unrhyw un wneud unrhyw beth i helpu mewn achos felly? Ond, erbyn hyn, nifer o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae pethau’n well eto ym mywyd Sylvia ac ym mywydau miloedd o bobl eraill tebyg iddi a gollodd bopeth yn nhrychineb y tswnami. Wrth gwrs, mae Sylvia yn dal i hiraethu am ei brawd a’i ffrind gorau a fu farw, ond mae llawer o bobl ledled y byd wedi dangos eu bod yn gofidio am bobl fel Sylvia, ac wedi anfon arian a phob math arall o gymorth i helpu’r bobl ailadeiladu eu cartrefi a’u bywydau.

  5. Gorffennwch trwy ddweud bod y byd yn wynebu problemau mawr, ac nad yw’n bosib i rywun bicio allan a’u datrys fel y gwnaethoch chi ofyn i ‘Mahinda’ ei wneud. Er hynny, mae llawer o bobl yn gweithio’n galed bob dydd i wneud y byd yn lle gwell i fyw ynddo. Ac fel mae geiriau’n gân yn dweud, ‘Gall hyn ddechrau gyda mi’. Canwch y gân eto.

Amser i feddwl

Myfyrdod
Gall hyn ddechrau gyda mi.
Beth allaf fi ei wneud?
Sut y gallaf fi helpu?
Sut y gallaf fi wneud gwahaniaeth?

Mae’n cymryd llawer o bobl i newid y byd.
Alla i fod yn un ohonyn nhw?

Os gweithiwn ni gyda’n gilydd, gallwn newid y byd.
Alla i helpu i wneud pethau’n well?

Gall un newid bach newid y byd.
A gall hyn ddechrau gyda mi.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am yr holl bethau da sydd gennym ni:
ein bwyd, ein cartref, ein teulu a’n ffrindiau, ein hysgol.

Rydyn ni’n meddwl am bobl sydd heb yr holl bethau da sydd gennym ni,
ac rydyn ni’n diolch fod pobl yn gweithio i wneud y byd yn fyd gwell ac yn fyd mwy teg.
Helpa ni i fod yn rhan o hynny,
oherwydd, os gwnawn ni weithio gyda’n gilydd, fe allwn ni newid y byd.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon