Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y Wasgfa Grdyd

Archwilio cysyniad y 'wasgfa gredyd'.

gan Peter Freeman

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Archwilio cysyniad y 'wasgfa gredyd'.

Paratoad a Deunyddiau

  • Gosodwch lein ddillad i fyny, gyda gwahanol fathau o arian wedi eu pegio arni: e.e. papur £5, papur 10 ewro, siec wag, cerdyn credyd, cerdyn debyd, a darnau arian hefyd, os yw’n bosib. Yn ychwanegol at hyn pegiwch rai eitemau smalio ar y lein: darnau o bapur wedi’u torri i’r un maint â’r papurau arian, darnau plastig tebyg i’r cardiau plastig, darnau crwn o fetel.

Gwasanaeth

  1. Cwestiwn: Beth fydd pwnc trafod y gwasanaeth heddiw, tybed? Ateb: Arian. 

    Gofynnwch i’r plant, beth yw arian? Edrychwch ar yr enghreifftiau sydd gennych chi wedi’u pegio ar eich lein, a phenderfynwch beth yw arian. Er enghraifft, rhywbeth rydyn ni’n ei drysori, rhywbeth rydyn ni’n ei adnabod, rhywbeth o werth.

  2. Canolbwyntiwch ar y cerdyn credyd. Eglurwch sut mae cerdyn credyd yn gweithio. Rydych chi’n defnyddio’r cerdyn i brynu pethau, ond mae gennych chi gyfyngiad, neu swm neilltuol na allwch chi wario mwy na hwnnw. Bob mis, fe fyddwch chi’n cael bil am y swm o arian rydych chi wedi’i wario trwy ddefnyddio’r cerdyn, a rhaid i chi dalu’r bil.

    Eglurwch fod y gair ‘credyd’ yn dod o’r gair Lladin ‘credo’ sy’n golygu ‘credu’. Felly mae’r cerdyn credyd wedi ei seilio ar ‘gredu’. Mae’r banc yn fy nhrystio i gyda’i arian. Mae’r banc yn credu fy mod i’n ddibynadwy, ac mae’r banc yn credu y byddaf yn ad-dalu’r arian yn ôl. Fe allech chi drafod cynilo arian mewn banc, lle bydd y plant yn credu y bydd eu harian yn ddiogel ac yn parhau i fod o werth!

    Nid yw pawb yn cael cerdyn credyd. Mae cael cerdyn credyd yn gyfrifoldeb mawr, ac fe ddylai unrhyw un sy’n cael cerdyn fel hwn deimlo’n falch bod y banc yn credu ynddyn nhw ac yn credu yn eu gallu … i dalu! Os yw hynny’n briodol, fe allech chi ddangos un o’ch biliau cerdyn credyd chi a’i drafod gyda’r plant.

    Mae credu yn broses ddwy ffordd. Mae ein heconomi a’n system ariannol wedi’i sylfaenu ar gredu.

  3. Holwch oes rhywun wedi clywed sôn am y wasgfa gredyd. Eglurwch nad yw’r banciau, ar hyn o bryd, mor awyddus i roi credyd i bobl. Dydyn nhw ddim mor sicr y byddan nhw’n cael eu harian yn ôl.

    Gofynnwch i rai o’r plant ddod atoch chi i’ch helpu, a smalio bod yn fanciau sy’n rhannu  ‘cardiau credyd’. Gall plant eraill ddod i’r tu blaen i dderbyn cerdyn bach tua’r un maint â cherdyn credyd. Gofynnwch i’r plant feddwl am rywbeth da y maen nhw’n ei gredu am un eraill o’r plant yn yr ystafell, ac ysgrifennu hynny ar y cerdyn, e.e. ‘Rydw i’n credu bod Tom yn arlunydd gwych.’

  4. Casglwch y cardiau hyn. Darllenwch y sylwadau ar unwaith wedi ichi eu casglu, neu fe allech chi eu cadw nes y byddwch chi’n cwrdd y tro nesaf, a’u darllen i’r plant bryd hynny.

Amser i feddwl

Myfyrdod
Gofynnwch i’r plant feddwl am y geiriau y maen nhw newydd eu clywed gan hwn a’r llall.
Nawr, meddyliwch amdanoch chi eich hun: eich talentau neu eich doniau, beth mae pobl yn ei hoffi amdanoch chi? Efallai y bydd hwnnw’n rhywbeth rydych chi wedi ei glywed am y tro cyntaf heddiw.
Dyna grwp o bobl ryfeddol ydyn ni! Ac os mai dyna faint rydyn ni’n ei feddwl ohonom ni ein hunain, ac am y naill a’r llall, faint yn fwy y bydd Duw yn ei feddwl ohonom ni?

Gweddi
Rydyn ni’n diolch i ti, Dduw, am ein ffrindiau,
am eu doniau, ac am eu gallu,
ac am yr holl bethau rydyn ni’n eu hoffi amdanyn nhw.
Helpa ni i gredu yn ein ffrindiau,
ac yn ein cyfeillgarwch:
fel y byddwn ni’n gallu dibynnu arnyn nhw,
ac y bydd pobl yn gallu dibynnu arnom ninnau hefyd.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon