Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Traddodiadau: Cyflwyno'r Faner

Meddwl am y traddodiadau sy’n rhan o fywydau pobl.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Meddwl am y traddodiadau sy’n rhan o fywydau pobl.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Chwaraewch gêm cysylltiadau. Mae gofyn i’r plant gysylltu tri gair gwahanol â phedwerydd gair sy’n cysylltu pob un gyda’i gilydd. Er enghraifft:

    Anrhegion, Teisen, Gemau – Parti neu Barti Pen-blwydd
    Twrci, Craceri, Golygfa Gwyl y Geni – Nadolig
    Racedi, Peli, Mefus a hufen – Wimbledon

    Dewiswch chi enghreifftiau fydd yn briodol i’ch ysgol neu’ch cymdogaeth.

  2. Cyflwynwch y gair ‘traddodiad’. Ystyr traddodiad yw rhywbeth sydd wedi’i drosglwyddo, neu wedi’i arfer dros amser. 

    Mae pobl wedi mwynhau cael anrhegion, teisen, a chwarae gemau mewn partïon pen-blwydd ers llawer o flynyddoedd. Holwch y plant beth sy’n digwydd yn eu cartrefi nhw pan fydd rhywun yn cael ei ben-blwydd.

    Mae twrci, craceri a golygfa Gwyl y Geni yn rhan o’n traddodiad ar adeg y Nadolig. Mae miloedd o gartrefi ledled Prydain yn dathlu fel hyn bob Nadolig.

  3. Fe fyddwn ni’n aml, fel teuluoedd, yn cadw traddodiadau arbennig. Efallai mai rhywbeth syml yw ambell un, fel pan fyddwn ni’n mynd i dy Nain fe fyddwn ni bob amser yn gwneud y peth a’r peth. Neu, efallai, bod nos Sadwrn yn noson cael pysgodyn a sglodion i’w fwyta. 

    Rhowch gyfle i’r plant sgwrsio am rai o’u traddodiadau teuluol nhw. Mae’n bosib y gall rhai o’r rhain gynnwys arferion crefyddol. Fe allech chi sôn am y Shabbat, traddodiad arbennig y mae plant Iddewig yn ei rannu gyda’u teuluoedd bob nos Wener hyd nos Sadwrn. Mae mynd i’r eglwys ar ddydd Sul yn draddodiad gan deuluoedd Cristnogol. Neu, soniwch am draddodiadau eraill sy’n briodol i deulu eich ysgol.

  4. Weithiau, fe fyddwn ni’n rhannu traddodiadau gyda chymuned ehangach. Trafodwch unrhyw draddodiadau sy’n perthyn i’r ysgol neu’r gymuned leol.

  5. Weithiau, fe fydd traddodiadau yn cael eu rhannu gyda phobl gwlad gyfan. Mae traddodiad yn rhoi i ni’r synnwyr o berthyn, ac mae’n gallu gwneud i ni deimlo’n falch a diogel. Eglurwch draddodiad Cyflwyno’r Faner (Trooping the Colour). 

    Dechreuwch trwy ofyn i’r plant faint ohonyn nhw sy’n mwynhau penblwyddi. Sut bydden nhw’n hoffi cael dau ben-blwydd bob blwyddyn? Mae ein brenhines, Elizabeth, yn dathlu dau ben-blwydd bob blwyddyn. Un yw ei phen-blwydd go iawn, y llall yw’r dathliad cyhoeddus o ben-blwydd ei chyfnod fel brenhines. Mae’r traddodiad yma o ddathlu dau ben blwydd y brenin neu’r frenhines, sy’n teyrnasu ar y pryd, yn dyddio’n ôl i’r amser pan benderfynwyd y byddai’n well dathlu yn yr haf. Pe byddai brenin neu frenhines yn cael pen-blwydd yn y gaeaf, fe allai’n tywydd fod yn anffafriol i gynnal seremoni yn yr awyr agored. Felly, yr amser gorau i ddathlu’r teyrnasiad fyddai’r haf.

    Ebrill 21 yw diwrnod pen-blwydd go iawn y Frenhines Elizabeth. Ond, mae dathliadau ei phen-blwydd swyddogol yn cael eu cynnal ar yr ail Sadwrn ym Mis Mehefin (sef 13 Mehefin, eleni). Ar y diwrnod hwnnw rydyn i’n dathlu’r traddodiad o Gyflwyno’r Faner.

    Yn 1748, cyfunwyd dathlu pen-blwydd swyddogol y brenin â seremoni Cyflwyno’r Faner. Dyma draddodiad sy’n mynd yn ôl i’r dyddiau pan fyddai’r faner yn cael ei chludo heibio i’r holl filwyr, er mwyn gofalu bod pawb a oedd yn brwydro yn gallu adnabod eu baner mewn brwydr.

    Erbyn heddiw, mae parêd mawr yn cael ei drefnu yn Llundain gyda Gwarchodlu’r Frenhines a Gwyr Meirch y Teulu Brenhinol yn cymryd rhan. Ar un adeg, fe fyddai’r frenhines yn arolygu’r  parêd ar gefn ceffyl, ond erbyn hyn bydd yn cael ei chario o gwmpas ei chatrawd mewn cerbyd to agored. 

    Daw’r digwyddiad i ben gyda’r teulu brenhinol yn ymgynnull ar y balconi ym Mhalas Buckingham i wylio awyrennau’r Llu Awyr Brenhinol (RAF) yn hedfan heibio.

    Mae miloedd o bobl yn mynd i weld y seremoni draddodiadol yma bob blwyddyn, a bydd llawer o dwristiaid o bob cwr o’r byd hefyd yn ymuno â’r dyfra i wylio’r orymdaith a’r seremoni.

    Dangoswch glip fideo.

Amser i feddwl

Myfyrdod

Dychmygwch eich bod yn mynd i Lundain i wylio gorymdaith Cyflwyno’r Faner.
Pa ran fyddech chi’n ei fwynhau fwyaf?
Sut mae gwylio’r digwyddiad yn gwneud i chi deimlo?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Rydyn ni’n diolch i ti am ein gwlad.
Rydyn ni’n diolch i ti ein bod ni’n perthyn i’r wlad yma.
Rydyn ni’n diolch i ti am yr holl draddodiadau rydyn ni’n eu rhannu.
Rydyn ni’n gweddïo dros ein Brenhines, Elizabeth.
Rydyn ni’n diolch i ti am ei chariad at y wlad, ac am y ffordd y mae hi wedi gwasanaethu’r wlad mor ffyddlon ar hyd yr holl flynyddoedd.
Bendithia hi wrth iddi ddathlu ei phen-blwydd swyddogol yn ystod mis Mehefin.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon