Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gwyliau

Edrych ymlaen at ein gwyliau.

gan Melanie Glover

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Edrych ymlaen at ein gwyliau.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen saith darn mawr o gerdyn neu bapur, ac un bob un o’r llythrennau arnyn nhw i sillafu’r gair GWYLIAU.
  • Sbectol haul, het haul, a chap gwlân a menig cynnes.

  • Llwythwch i lawr y gân ‘Holiday’ gan Hi-5.

  • Cardiau fflach gyda lluniau arnyn nhw o garafán, gwesty, fflatiau gwyliau, a phabell.

  • Sach deithio (rucksack), a sach gysgu.

  • Bwcedi a rhawiau glan y môr.

  • Darn hir o ddefnydd glas i gynrychioli’r môr.

Gwasanaeth

  1. Yn ein gwasanaeth heddiw, fe fyddwn ni’n sôn am wyliau. 

    Daw saith plentyn i sefyll yn y tu blaen gan wynebu’r gynulleidfa, yn dal y llythrennau sy’n sillafu’r gair GWYLIAU. Yna, fe fyddan nhw’n eistedd i lawr.

    Mae gwyliau yn adeg pan fydd pawb yn cael cyfle i ymlacio. Bydd rhai pobl yn rhannu eu gwyliau â ffrindiau neu aelodau eu teulu. Mae’n braf cael gwyliau. Gall gwyliau fod yn hir neu’n fyr. Weithiau, fe fydd pobl yn cael seibiant byr am benwythnos yn unig. Dro arall, fe fydd pobl yn mynd am wythnos neu bythefnos o wyliau. Ambell dro, fe fydd rhai pobl yn mynd i ffwrdd am gyfnodau hirach.

  2. Bydd llawer o bobl yn mynd ar wyliau i lefydd cynnes a heulog. 

    Daw plentyn ymlaen gan estyn het haul a sbectol haul, a’u gwisgo. 

    Bydd rhai pobl yn mynd ar wyliau i lefydd oerach, lle byddan nhw’n gallu sgïo ar yr eira. 

    Daw plentyn ymlaen gan estyn het wlân a menig cynnes, a’u gwisgo.

    Beth bynnag fyddwn ni’n ei wneud, rydyn ni i gyd yn mwynhau ein hunain ar ein gwyliau! 

    Chwaraewch y trac cerddoriaeth ‘Holiday’ gan Hi-5. Fe fyddai’n bosib i’r plant ganu a gwneud symudiadau gyda’r gerddoriaeth, os hoffech chi.

  3. Yn ein dosbarth ni, rydyn ni wedi bod yn siarad am ein gwyliau. 

    Daliwch y cardiau fflach i fyny wrth i chi sôn am bob eitem. 

    Mae rhai plant wedi aros mewn carafán.
    Mae rhai eraill wedi aros mewn gwesty.
    Mae rhai wedi aros mewn fflatiau gwyliau. Efallai eu bod wedi teithio mewn awyren.
    Mae rhai plant wedi bod yn gwersylla, ac wedi aros mewn pabell. Mae’n bosib eu bod nhw wedi teithio mewn car.

  4. Mae gwersylla’n hwyl fawr. Mae angen i chi fynd â digon o ddillad cynnes gyda chi pan fyddwch chi’n mynd i wersylla. Fe fydd rhai pobl yn defnyddio sach deithio i gario’u pethau ar eu cefn. 

    Dyma sach gysgu. 

    Daw plentyn ymlaen gan ddal y sach gysgu. 

    Mae’r sach gysgu’n eich cadw’n gynnes pan fyddwch chi’n cysgu yn y nos yn y babell. 

    Mae’r plentyn yn agor y sach gysgu ac yn mynd i mewn iddi, a smalio cysgu ynddi.

    Bydd rhai pobl yn mynd â stof fechan gyda nhw, pan fyddan nhw’n gwersylla, i goginio bwyd. Bydd pobl eraill yn coginio bwyd ar y barbiciw. 

    Mae rhai pobl yn cynnau tân gwersyll i gadw’n gynnes - ond rhaid cofio bod yn ofalus. 

    Daw’r plentyn allan o’r sach gysgu gan rwbio’i ddwylo a smalio cadw’n gynnes o flaen y tân. Yna, mae’n eistedd i lawr eto.

  5. Pan fyddwch chi’n mynd ar eich gwyliau, efallai y byddwch chi’n mynd i rywle sydd wrth ymyl glan y môr. 

    Daw pump o blant ymlaen gan sefyll i ddisgwyl eu tro.

    Fe allwch chi adeiladu cestyll tywod. 

    Bydd dau o’r plant yn smalio adeiladu castell tywod.

    Fe allwch chi fynd i ymdrochi neu nofio yn y môr. 

    Trefnwch i ddau oedolyn afael ym mhob pen i’r darn defnydd glas, i gyfleu dwr y môr. Yna gall un o’r plant sefyll y tu ôl i’r defnydd gan smalio nofio. Wedyn, symudwch y defnydd i’r naill ochr. 

    Neu, fe allwch chi drochi’ch traed yn unig, padlo yn nwr y môr, a chasglu cerrig crynion. 

    Gall plentyn arall ddod ymlaen gan smalio padlo yn nwr y môr a phlygu i godi cerrig crynion.

    Mae rhai pobl yn hoffi casglu cregyn. 

    Bydd y plentyn arall yn smalio chwilio am gregyn, yn codi un, yn ei harchwilio ac yn ei rhoi yn ôl ar y traeth.

    Mae’n braf cael bod ar lan y môr. 

    Yma, gall y plant yma ganu llinell neu ddwy o’r gân ‘Oh I do like to be beside the seaside’. (Neu, efallai y gallech chi drosi’r geiriau’n syml, a’u cael i ganu rhywbeth fel: ‘O mae’n grêt cael bod ar lan y môr ar wyliau. Ydi’n wir, mae’n grêt cael bod ar lan y môr.’)

    Peth arall y byddwn ni’n hoffi ei wneud weithiau ar lan y môr yw cael reid ar yr asyn bach ...  a bwyta hufen ia ... iym, iym!

  6. Beth bynnag fyddwch chi’n ei wneud yn ystod gwyliau’r haf, mwynhewch eich hun. Ac os ydych chi’n aros gartref, mwynhewch eich hun yno’r un fath, a chael hwyl yn gwneud pethau difyr.

Amser i feddwl

Gofynnwch i ddau blentyn ddarllen y weddi.

Annwyl Dduw,
Diolch am yr hwyl y byddwn ni’n ei gael pan fyddwn ni’n mynd am wyliau i rywle.
Diolch am yr holl amser da y byddwn ni’n ei gael.

Gad i ni gofio nad yw’n bwysig i ble byddwn ni’n mynd ar ein gwyliau, na pha bryd.
Yr hyn sy’n bwysig yw ein bod yn rhannu ein hamser gyda’r bobl rydyn ni’n eu caru, ac yn mwynhau bod yn eu cwmni.

Weithiau, fe fyddwn ni’n aros am amser hir cyn y cawn ni wyliau, ond fe gawn ni hwyl yn y diwedd.

Helpa ni i sylweddoli gymaint y bydd ein rhieni yn ei wneud drosom ni.
Maen nhw’n gweithio’n galed i bacio pethau a gofalu am bopeth. Mae’n debyg eu bod nhw hefyd wedi bod yn cynilo arian er mwyn i ni allu mynd ar ein gwyliau.
Gad i ni ddiolch iddyn nhw am eu gwaith caled.
Yn dy enw di,
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon