Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dewis Gobaith

Gwasanaeth wedi ei seilio ar y Gemau Paralympaidd i annog y myfyrwyr i ddewis gobaith bob amser.

gan Helen Redfern

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Gwasanaeth wedi ei seilio ar y Gemau Paralympaidd i annog y myfyrwyr i ddewis gobaith bob amser.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Arweinydd  Mae pethau drwg yn digwydd yn rhywle bob dydd. Weithiau i ni. Weithiau i bobl eraill. Ambell waith, pethau bach dibwys iawn yw rhai o’r pethau hyn, o’i gymharu â rhai o’r trychinebau mawr sy’n gallu digwydd yn y byd. Ond ambell dro, fe all rhywbeth ofnadwy ddigwydd sy’n newid bywyd rhywun yn llwyr. Fe all pob math o ddigwyddiadau anffodus, boed y rheini’n bethau bach dibwys neu’n drasiedi fwy difrifol, effeithio’n ddrwg arnom a’n gadael yn teimlo’n ddiobaith a diymadferth.

    Darllenydd 1  Fe gefais i lythyr trwy’r post bore heddiw yn dweud nad oeddwn i wedi cael fy newis i fod yn aelod o’r Academi Pêl-droed. A dyna oedd fy holl fywyd. Dyna’r cyfan oeddwn i eisiau ei wneud. Dydw i ddim yn teimlo bod bywyd yn werth ei fyw, fel arall.
    Darllenydd 2  Fe gollais i fy ffôn ar y bws y bore ’ma, ar fy ffordd i’r ysgol. Mae fy holl fywyd i ar fy ffôn. Fydda i ddim yn gallu dal ati heb fy ffôn.

    Darllenydd 3  Neithiwr, fe ddywedodd fy mam wrthyf fod ganddi hi lwmp, ac mae’n meddwl ei fod yn ganser. Dydw i ddim yn gwybod beth i’w wneud. Alla i ddim byw heb fy mam.

    Darllenydd 4  Rydw i newydd glywed bod fy nghariad wedi fy nhwyllo, ac wedi bod yn mynd allan gyda fy ffrind gorau, y tu ôl i fy nghefn, ers mis. Fydda i byth yn gallu trystio neb arall eto. Alla i byth garu neb eto. Mae fy mywyd i ar ben.

    Darllenydd 5  Fe wnes i anafu fy hun mewn cystadleuaeth gymnasteg yr wythnos diwethaf, ac rydw i’n mynd i gael canlyniad yr archwiliad pelydr X heddiw. Efallai na fyddaf yn gallu gwneud gymnasteg byth eto. Heb hynny, dydw i ‘n ddim. Fydd dim pwrpas i fy mywyd.

    Darllenydd 6  Mae dros wythnos ers pan fu rhaid i ni fynd â’n ci ni at y milfeddyg, a’i roi i gysgu. Rydw i’n dal i fod yn teimlo’n drist. Dydi bywyd ddim yr un fath hebddo. Dydw i ddim yn meddwl y byddaf yn hapus byth eto.

    Darllenydd 7  Pan wnes i ddeffro bore heddiw, fe deimlais i’r sbot enfawr dychrynllyd yma ar fy nhrwyn, a does gen i ddim ar ôl o’r colur hwnnw i’w roi arno i’w guddio.

    Darllenydd 8  Fe wnaeth fy nhad a fy mam wahanu adeg y Nadolig, a nawr maen nhw wedi penderfynu cael ysgariad. Does dim gobaith iddyn nhw ddod yn ôl at ei gilydd. Dim gobaith i ni fod yn deulu hapus. Dim gobaith i mi.

    Darllenydd 9  Pan es i ati i argraffu fy mhroject, bore heddiw, doedd fy ngwaith ddim ar y cyfrifiadur. Oedd o jyst ddim yno! Roedd o wedi diflannu. Rydw i wedi colli’r holl waith. Rydw i’n teimlo’n hollol sâl - gutted! Alla i byth ail wneud y cyfan. Dim gobaith.

    Darllenydd 10  Rydw i wedi cael fy nhraethawd hanes yn ôl, wedi ei farcio. Dim ond ‘B’ gefais i. Roeddwn i wedi gweithio mor galed, ac mae hyn wedi lladd pob awydd ynof fi i ddal ati. Beth yw pwrpas gweithio mor galed? Waeth i mi roi’r gorau iddi, yma, nawr.

  2. Stori: Damwain ddifrifol

    Ar 25 Ebrill 2007, fe gollodd gyrrwr bws reolaeth ar ei gerbyd ac fe aeth dros y palmant a tharo tri aelod o’r un teulu - merch fach, ei mam, a’i nain - a oedd yn cerdded heibio ar y pryd. Cafodd y fam, Sarah Hope, ei dal yn gaeth o dan y bws. Roedd yn methu symud. A’i mam hithau yr un fath hefyd. Fe fu’r nain farw, Elizabeth oedd ei henw, ac roedd Sara wedi ei hanafu’n ddifrifol. Roedd merch fach Sara gyda nhw. Pollyanna oedd ei henw hi, ac fe geisiodd Pollyanna gropian at ei mam a’i nain ar ei dwy law ac un pen glin. Roedd yn amlwg ei bod wedi anafu’r goes arall yn ddrwg iawn. Roedd Sarah, y fam, mewn gofid enfawr am na allai gyrraedd at y ferch fach i’w helpu. Ar ôl y ddamwain ddifrifol hon, cafodd Pollyanna nifer fawr o lawdriniaethau - pedair ar ddeg mewn dim ond chwe wythnos - ond, yn drist iawn, doedd y llawfeddygon ddim wedi gallu arbed ei choes. Fe fu’n rhaid iddyn nhw ei thorri i ffwrdd yn y diwedd.

  3. O ganlyniad i’r ddamwain honno, fe ddioddefodd y teulu agos hwn drawma mawr. Fe allen nhw fod wedi eu llethu’n llwyr gan eu tristwch. Fe allen nhw fod wedi rhoi’r gorau i bopeth mewn anobaith mawr. Ond, na, yn lle hynny fe ddewisodd Sarah Hope obaith. 

    Fe symudodd y teulu i fyw yn nes at efeilles Sarah, Victoria, a’i theulu hi. Gyda help a sesiynau cwnsela, maen nhw wedi gallu dod i ddygymod â’r profiad erchyll a ddaeth i’w rhan. 

  4. Am ei bod yn derbyn gofal meddygol da, ac oherwydd ei phenderfyniad mawr ei hun, mae’r ferch fach, Pollyanna, erbyn hyn yn gallu cerdded, neidio, sgipio a chware, yn union yr un fath â’i ffrindiau. 

    Oherwydd ei bod yn tyfu’n gyflym, mae ar Pollyanna angen coes prosthetig newydd o leiaf ddwywaith bob blwyddyn. Mae’r arbenigwr sy’n gofalu amdani yn Surrey, ac mae Pollyanna wrth ei bodd yn mynd yno. Mae’n symud yn arafach na phlant eraill, ac mae’n blino’n hawdd. Ond pan fydd y goes brosthetig yn ei lle, mae’n anodd dweud bod unrhyw beth yn wahanol yn y ferch fach ddewr hon. 

    Pan fydd rhywun yn ei holi am ei hanabledd, fe fydd hi’n dweud yn syml bod ei choes dde wedi mynd i’r nefoedd. Mae hi wrth ei bodd yn gwneud lluniau ac mae’n mwynhau’r gwersi ymarfer corff. Fe enillodd gystadleuaeth hopian ym mabolgampau ei hysgol. 

  5. Roedd Sarah Hope a’i chwaer efell Victoria Bacon yn benderfynol o ddewis ‘gobaith’. Roedden nhw’n ymroddedig i ofalu y byddai goleuni’n dod o’r tywyllwch.

    Roedden nhw’n cydnabod bod miloedd o blant yn y gwledydd sy’n datblygu heb obaith cael yr un gefnogaeth a’r gofal o ansawdd da ag a gafodd Pollyanna. Ac oherwydd hynny, roedden nhw’n sylweddoli ei bod yn ymdrech fawr iddyn nhw allu ymdopi yn yr un fath o sefyllfa. Felly, er cof am eu mam, Elizabeth, mae Sarah a Victoria wedi sefydlu elusen o’r enw Eizabeth’s Legacy of Hope. Mae’r elusen yn cefnogi plant sydd wedi colli braich neu goes, plant yn y wlad hon yn ogystal â phlant mewn gwledydd eraill llai datblygedig ledled y byd. Mae’r elusen Elizabeth’s Legacy of Hope yn cynnig dyfodol hapusach a mwy bywiog i blant sydd wedi colli braich/ breichiau neu goes/ coesau - yn debyg i Pollyanna.

  6. Mewn cyfweliad, fe ddywedodd Victoria: ‘Out of the tragedy of the bus crash in April 2007, hope can come. This terrible event has opened doors for us to help amputee children all over the world to walk, jump and run.’

    O drychineb, fe all gobaith ddod.
    Fe wyddom fod hynny’n wir yn y stori hon.

    O drychineb, fe all gobaith ddod.
    Fe wyddom fod hynny’n wir ym mywydau athletwyr sy’n hyfforddi i gymryd rhan yn y 170 o gystadlaethau yn rhaglen Baralympaidd Gemau Llundain yn 2012.

    O drychineb, fe all gobaith ddod.
    Fe wyddom fod hynny’n wir yn hanes y bobl sydd o’n cwmpas, ac yn ein bywydau unigol ni ein hunain hefyd.

  7. Mae popeth yn edrych yn wahanol pan fydd gennych chi obaith. 

    Gadewch i ni fynd yn ôl at y deg myfyriwr y clywson ni eu hanes ar ddechrau’r gwasanaeth. Gadewch i ni chwistrellu tipyn o ‘obaith’ iddyn nhw, a gweld sut mae hynny’n newid eu golwg ar fywyd.

    Darllenydd 1  Dyw’r ffaith fy mod i heb gael fy newis gan yr Academi Pêl-droed ddim yn golygu na chaf i chwarae pêl-droed byth eto. Mae digonedd o dimau eraill o gwmpas.

    Darllenydd 2  Wel, mae’n debyg nad yw colli fy ffôn yn golygu ei bod yn ddiwedd y byd! Fe af i’r dderbynfa i holi oes rhywun wedi dod o hyd iddi ac wedi mynd â hi yno. Neu, efallai y bydd rhywun yno’n gallu ffonio’r cwmni bysiau ar fy rhan, i ddweud fy mod wedi ei cholli. Mae gen i hen ffôn gartref, fe alla i ddefnyddio honno yn y cyfamser os bydda i angen ffonio rhywun.

    Darllenydd 3  Ddylwn i ddim mynd o flaen gofid. Efallai nad yw’r lwmp yn ganser. Ac os mai dyna ydyw, wel, fe fydda i yno i gefnogi fy mam beth bynnag fydd yn digwydd.

    Darllenydd 4  Mae gen i ddigon o ffrindiau eraill fydd yn ffyddlon i mi ac a fydd yn fy nghefnogi i ddygymod â’r tro sâl yma sydd wedi digwydd i mi. Mae’n broses boenus, ond ymhen amser, fe fydd yn fy ngwneud yn gryfach, mae’n debyg.

    Darllenydd 5  Ddylwn i ddim siarad am fethu gwneud unrhyw gymnasteg eto. Mae’r Gemau Paralympaidd yn cael eu cynnal cyn bo hir. Rydw i’n cael fy ysbrydoli’n fawr gan yr holl athletwyr rheini sydd wedi goresgyn anawsterau corfforol er mwyn gallu cystadlu. Rwy’n siwr y gallaf ddod o hyd i rywbeth y byddaf yn gallu ei wneud, beth bynnag ddaw o ganlyniad i’r anaf yma rydw i wedi’i gael.

    Darllenydd 6  Mae’n debyg nad yw wythnos yn amser hir, o ystyried eich bod wedi caru eich ci ar hyd eich bywyd. Mae gen i lawer iawn o atgofion hapus iawn a lluniau. Mae pobl yn dweud bod amser yn gwella briwiau. Caf weld os yw hynny’n wir mewn sbel.

    Darllenydd 7  O bosib fy mod i’n meddwl fod y sbot yma sydd gen i ar fy nhrwyn yn edrych yn waeth nag ydyw mewn gwirionedd. Ac efallai nad yw pobl eraill yn sylwi arno. Os gwna i geisio anghofio amdano efallai na wnaiff unrhyw un sylwi ei fod yno. Wnaiff y sbot dim para am byth, beth bynnag.

    Darllenydd 8  Mae mam a thad gen i o hyd, ac mae’r ddau’n fy ngharu i er nad ydyn nhw’n byw yn yr un ty erbyn hyn. Fe ddylwn i fod yn ddiolchgar am hynny.

    Darllenydd 9  Pan af i adref, fe wna i ddechrau gweithio ar fy mhroject eto. Mae’n siwr y gallaf gofio’r rhan fwyaf ohono. Mae’r nodiadau gen i beth bynnag, ac mae’n debyg na wnaiff gymryd cymaint o amser i’w ail deipio ag a wnaeth y tro cyntaf.

    Darllenydd 10  Dyw gradd ‘B’ mewn hanes ddim yn ddrwg iawn, mae’n debyg. Beth bynnag, rydw i’n mynd i weld yr athro ar ôl y wers nesaf a chaf weld beth wnes i’n anghywir. Wedyn, fe allaf i wneud yn well y tro nesaf, gobeithio.

 

Amser i feddwl

Arweinydd  Gadewch i ni dreulio moment yn meddwl am yr holl bethau rydyn ni wedi clywed sôn amdanyn nhw heddiw yn y gwasanaeth.

(Saib)

Gweddi

Gwrandewch ar eiriau’r weddi hon ac, os hoffech chi, fe allech chi eu gwneud yn weddi i chi eich hun.

Annwyl Dduw,

rydyn ni’n diolch am yr holl enghreifftiau disglair

o bobl sydd wedi wynebu trychinebau

ac wedi dewis gobaith.

Helpa ni i ddod o hyd i lwybr

trwy’r holl bethau anffodus all ddigwydd i ni yn ystod ein bywyd.

Gad i ni ddod o hyd i oleuni yn y tywyllwch.

Dangos i ni’r heulwen ar ôl y storm.

Gad i ni ddod o hyd i obaith yng nghanol yr anobaith.

Dangos i ni’r enfys yn y glaw.

Gad i ni ddod o hyd i ddewrder

er mwyn i ni allu ail ddechrau byw eto.

Dangos i ni’r da sy’n gallu dod o’r drwg.

Gad i ni ddewis gobaith.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth y chwanegol a argymhellir

What doesn’t kill you (Stronger)’ gan Kelly Clarkson

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon