Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Rhoi Croeso

Archwilio realiti ymfudo, ac annog yr holl fyfyrwyr i fod yn groesawgar.

gan James Lamont

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio realiti ymfudo, ac annog yr holl fyfyrwyr i fod yn groesawgar.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe allech chi lwytho i lawr fap o’r byd, a nodi’r gwledydd lle mae gwreiddiau rhai o’ch myfyrwyr yn gysylltiedig â nhw.
  • Fe allech chi nodi hefyd lle mae rhai o’r myfyrwyr wedi symud ohonyn nhw o fewn eich gwlad neu o fewn eich tref eich hun.
  • Paratowch y sgetsh sydd gennych chi i gyflwyno’r gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Cyflwyniad 

    Mae dau fyfyriwr yn cael sgwrs fyrfyfyr, ond mae un myfyriwr yn nodio’i ben yn gadarnhaol bob tro mae’n dweud ie/ ydw/ oes ac ati, tra mae’r myfyriwr arall yn nodio’i ben yn gadarnhaol bob tro mae’n dweud geiriau negyddol fel na/ nac ydw/ nag oes ac ati.

    Gofynnwch i’r gynulleidfa oedd hi’n anodd anwybyddu iaith y corff a chanolbwyntio’n unig ar y geiriau oedd yn cael eu dweud?  

  2. Mae’r byd yn fwy rhyng-gysylltiol nag erioed. Erbyn hyn, mae’n beth cyffredin iawn i bobl fynd i fyw i wledydd eraill sy’n wahanol i’w gwlad eu hun, a dysgu ieithoedd newydd, ac addasu i ddiwylliant gwahanol. 

    Efallai bod myfyrwyr tramor yn eich ysgol neu yn eich dosbarth chi. Efallai bod pobl newydd wedi symud i fyw i’ch cymdogaeth. 

    Mae gan bobl o wahanol gefndiroedd lawer sy’n wahanol i’w gynnig i ni fyddai ddim gan bobl eraill– storïau diddorol a safbwyntiau gwahanol, er enghraifft; crefydd wahanol, yn aml; a’r cyfle i ddysgu mwy am y byd o’n cwmpas. 

  3. Gall hyd yn oed symud i fyw i dref, dinas neu bentref arall yn yr un wlad fod yn anodd. Yn achos y rhai hynny sy’n symud o un wlad i’r llall, mae’n anoddach. Mae’n rhaid iddyn nhw ddysgu iaith newydd ac addasu i ddiwylliant newydd. 

    Yn fwy na hynny, nid yr un symbolau sy’n perthyn i bob diwylliant. Yng ngwlad Bwlgaria, mae nodio eich pen i fyny ac i lawr yn golygu ‘na’, ac ysgwyd eich pen o’r naill ochr i’r llall yn golygu ‘ie’. 

    Fe allai cyfarfod rhwng swyddogion gweithredol Japaneaidd ac Americanaidd ddechrau’n ystrydebol gyda’r Americanwr yn ymgrymu’n llaes ac yn hir - fel bydd y Japaneaid yn gwneud - er mawr syndod i’ r swyddog Japaneaidd, sydd  wedi dal ei law allan yn syth, yn barod i ysgwyd llaw yn gadarn - fel mae’r Americanwyr yn gwneud! 

    Gan hynny, mae’n gofyn cael ychydig o synnwyr digrifwch wrth symud i wlad newydd, er mwyn gallu chwerthin am ben eich camgymeriadau eich hun, ac mae’n gofyn gallu gweld eich arferion yn union fel ag y maen nhw, sef rhan o un o lawer o’r systemau a’r diwylliannau sydd yn y byd.

    Ond, hyd yn oed gyda’r synnwyr digrifwch gorau, a chyda’r meddwl mwyaf agored, fe fydd ymfudwyr newydd a ffoaduriaid yn parhau i ymdrechu wrth geisio ymdopi ar adegau, yn enwedig os ydyn nhw’n teimlo bod eu cartref newydd yn lle gelyniaethus a bygythiol. 

  4. Dyma ble mae’r un sydd yno eisoes yn chwarae ei ran. Mae cyfathrebu di-eiriau’n hynod o bwysig. Er bod gan bob cenedl ei harferion ei hun, mae ambell beth yn croesi’r holl ffiniau. Yn y dyddiau cynnar, fe fydd dim ond gwên neu fynegiant o ddiddordeb yn ddigon i allu troi diwrnod gwael rhywun yn ddiwrnod da. Ym mhob diwylliant, mae ymddwyn mewn ffordd groesawgar agored yn cael ei ystyried fel gweithred o gyfeillgarwch, a does dim un diwylliant yn credu mewn cefnu ar ystum o’r fath.

    Fe allwch chi ymchwilio i rai arferion sylfaenol er mwyn rhagweld anawsterau. Fe fyddai hynny’n weithred ddefnyddiol a allai helpu i wneud y newydd-ddyfodiad deimlo ei fod yn cael ei groesawu a’i dderbyn.

    Mae’n bosib i unrhyw weithred fechan o garedigrwydd neu gydnabyddiaeth gael effaith nodedig. Fe all wneud i’r newydd-ddyfodiad deimlo ei fod yn cael croeso. At hynny, fe all gweithred o’r fath fod yn rhoi boddhad i’r un sy’n eu cyflawni hefyd, drosodd a throsodd.

    Mae’n dda trin pobl eraill yn yr un modd ag yr hoffech chi iddyn nhw eich trin chi, does dim gwahaniaeth o ble maen nhw’n dod.

Amser i feddwl

(Goleuwch gannwyll, ac aros yn dawel am ysbaid.)

Dychmygwch eich bod newydd gyrraedd y wlad hon o rywle hollol wahanol -

Rhywle, oedd â thywydd gwahanol,

Iaith wahanol,

Bwyd gwahanol,

Gwahanol nodweddion mynegiant ar wynebau’r bobl,

a’u hymddygiad a’u harferion yn wahanol hefyd.

Pa mor unig fyddech chi’n teimlo?

Nawr, meddyliwch am unrhyw un rydych chi’n ei adnabod sydd wedi cyrraedd o’r newydd i’ch ysgol chi’n ddiweddar, hyd yn oed os mai dim ond o’r ochr arall i’r dref y mae ef neu hi wedi dod, o ysgol arall!

Sut gallech chi wneud i’r newydd-ddyfodiad deimlo bod croeso iddo ef neu hi?

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Chwaraewch gerddoriaeth sy’n perthyn i rai o’r myfyrwyr sydd â chysylltiadau tramor. Fe allech chi ofyn i fyfyrwyr berfformio cerddoriaeth fyw.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon