Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Mae Bechgyn Mawr Yn Crio

Archwilio’r rhyddid i ddangos emosiwn yn gyhoeddus.

gan Helen Bryant

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio’r rhyddid i ddangos emosiwn yn gyhoeddus.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Os oes rhywbeth y mae 2012 wedi ei ddysgu i ni, y peth hwnnw yw ei fod yn beth derbyniol i grio’n gyhoeddus, ac yn fwy na dim ei fod yn beth derbyniol i ddynion grio’n agored yn gyhoeddus.

    Yn aml, fe fydd pobl yn disgwyl i fechgyn a dynion beidio â chrio - ‘Dydi bechgyn mawr ddim yn crio!’ Ond mae 2012 wedi dangos i ni na fydd dynion yn colli parch pobl eraill os byddan nhw’n crio’n gyhoeddus. Yn aml, fe fydd dagrau’n dangos unigolyn sydd â rheolaeth drosto’i hun - rhywun sydd mewn cyswllt a’i emosiynau ac sy’n deall bod achlysuron yn codi weithiau pryd y byddwch chi’n gallu gwneud dim ond crio o’r galon.

  2. Fe welwyd Andy Murray yn crio’n agored yn ei siom o fethu ennill yng nghystadleuaeth tennis Wimbledon. Roedd llawer un yn crio gydag ef, ac yn cydymdeimlo ag ef, yn ei dristwch a’i siomedigaeth.

    Fe welwyd Felix Sanchez o’r Weriniaeth Ddominicaidd yn crio wrth adennill ei fedal aur (gwelwch yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’ am gyfeiriad y wefan er mwyn cael delweddau ohono).

    Fe welwyd Zac Purchase a Mark Hunter yn crio’n agored pan drechwyd nhw o drwch blewyn yn Eton Dorney: y fedal arian ddaeth iddyn nhw yn hytrach na’r aur yn rownd derfynol sgwl dwbl dynion pwysau ysgafn.

    Yr hyn mae’r cyfan yn ei ddangos i ni yw bod bechgyn mawr yn crio, ac mae’n berffaith dderbyniol iddyn nhw wneud hynny. Mae’r dynion hyn ar frig eu ffitrwydd corfforol. Maen nhw’n ddynion cryf ac yn athletwyr anhygoel. Ac eto, pan fydd angen, maen nhw’n gallu gadael i’r dagrau lifo’n rhwydd.

  3. Ac nid yn unig oherwydd siom y bydd y cystadleuwyr yn crio. Weithiau maen nhw’n crio oherwydd eu bod yn falch o fod wedi gallu cyflawni camp enfawr, neu o fod wedi ennill medal aur.

    Fe welwyd Andy Murray yn crio eto pan enillodd y fedal aur yn y Gemau Olympaidd.

    Roedd Syr Chris Hoy yn ymddangos ei fod y dan deimlad, nid yn unig wrth iddo dderbyn ei fedal aur ond hefyd wrth iddo gario’r faner i’r Stadiwm Olympaidd yn y seremoni agoriadol, ac yna wedyn pan dderbyniodd ei chweched fedal aur.

  4. Pam y dylai hi fod yn iawn i’r bobl hyn ddangos eu hemosiwn yn gyhoeddus, ond ddim yn iawn i fechgyn a dynion cyffredin wneud yr un peth? Yn wir, os yw dynion cryfaf ein daear yn gallu dangos eu hemosiwn, mae’n iawn felly i bob dyn cyffredin wneud hynny hefyd. Ddylai pobl ddim eich ystyried yn ‘fabi mam’ os ydych chi’n crio. Mae babanod yn crio am nad oes ganddyn nhw ffordd arall o fynegi eu teimladau - does ganddyn nhw ddim geiriau eto. Weithiau mae hynny’n gallu digwydd i bobl hefyd pan fydd ganddyn nhw ddim geiriau i fynegi eu teimladau - pob math o bobl, bechgyn, merched, pencampwyr Olympaidd neu fab neu ferch mewn galar.

  5. Mae crio’n bwysig - dyma ffordd y corff o ryddhau emosiwn. Y rheswm pam mae’r dagrau’n dod yw am na allwn gadw’r teimladau i mewn ddim yn hwy.

    Rydyn ni’n crio pan fyddwn ni mewn poen, am nad oes ffordd arall i’r corff ymdopi ag ef. Yr unig ffordd i ryddhau’r emosiwn, cael gwared â’r tensiwn, neu i fynegi ein hunain yw trwy ollwng dagrau. Os nad ydych chi’n gallu rhyddhau’r emosiwn, nac yn gallu gadael i’r dagrau lifo, mae’n bosib y byddai’r teimladau cryfion yn corddi y tu mewn i chi ac yn eich niweidio.

  6. Felly, y tro nesaf y byddwch yn teimlo eich bod eisiau crio, gwnewch hynny. Rhyddhewch yr emosiwn. Mae’n debyg y byddwch yn teimlo’n well o lawer wedyn. Fe fyddwch chi hefyd ymysg rhai o’r athletwyr gorau a fu erioed ar wyneb y ddaear.

Amser i feddwl

(Goleuwch gannwyll a dangoswch y delweddau o’r athletwyr yn eu dagrau.)

Pa bryd oedd y tro diwethaf i chi grio? Beth oedd wedi digwydd bryd hynny? Sut roeddech chi’n teimlo wedi hynny?

Rydyn ni angen crio. Mae angen i ni ddangos ein hemosiynau cryfion, a rhannu ein llawenydd a’n gofidiau gyda’n gilydd.

Gweddi

Arglwydd Dduw,

helpa ni i chwerthin gyda’n gilydd, ac i grio gyda’n gilydd,

i gefnogi ein gilydd, ac i helpu ein gilydd.

Helpa ni i fod yn ddewr, yn gryf ac i fod mewn cyswllt â’n gilydd.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Fe allech chi ddefnyddio’r gân ‘Big girls don’t cry’, wedi ei chyfansoddi gan Bob Crewe a Bob Gaudio

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon