Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Amseru ymateb

Dysgu ymateb mewn ffordd newydd

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried faint y gallwn ni reoli ar ein hymateb i amgylchiadau heriol.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen Arweinydd ac un Darllenydd.

  • Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân ‘Changes’ gan David Bowie a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

Arweinydd: Sut un ydych chi am ymateb i bethau?Os byddwch chi’n arogli pryd o fwyd blasus yn cael ei goginio, beth fydd yn digwydd?

Darllenydd: Bydd yn ‘tynnu dwr o fy nannedd’.

Arweinydd:Pe byddwn i’n clecian fy mysedd yn ymyl eich llygaid, beth fydd yn digwydd?

Darllenydd:Fe fyddwn i’n awtomatig yn blincio.

Arweinydd:Os byddech chi’n eistedd i lawr a minnau’n tapio eich coes ychydig o dan y pen-glin, beth fydd yn digwydd?

Darllenydd: Fe fyddai’r atgyrch yn fy mhen-glin yn plycio fy nhroed i fyny (knee-jerk reflex).

Arweinydd:Mae pob un o’r symudiadau hyn  yn beth rydyn ni’n ei alw’n 'weithred atgyrch’, neu’n ‘reflex reaction'. Mae hyn yn golygu fod ein corff yn ymateb, ar unwaith heb orfod meddwl, ac yn ymateb mewn ffordd neilltuol gan ragweld perygl, er mwyn ein hamddiffyn ni, neu mewn ffordd neilltuol oherwydd ein bod wedi ymateb yn y ffordd hon o’r blaen i brofiad neu ddigwyddiad pleserus. Mae cysylltiad amlwg rhwng yr ysgogiad a’r adwaith.

Ffisiolegydd o Rwsia oedd Ivan Pavlov, a fu farw ar 27 Chwefror 1936. Fe wnaeth Ivan Pavlov ddau ddarganfyddiad pwysig a oedd yn ymwneud â’n hadwaith tuag at bethau ag â sut rydyn ni’n ymateb i bethau. 

Fe ddechreuodd drwy nodi bod cwn, yn ei labordy, yn dechrau glafoerio, nid yn unig pan oedd bwyd yn cael ei osod o’u blaen, ond hefyd pan oedd ef neu’r rhai a fyddai’n ei helpu (y rhai a fyddai’n arfer dod â’r bwyd i’r cwn) yn dod i mewn i’r ystafell hyd yn oed. Ac roedd hyn yn digwydd hyd yn oed pan na fydden nhw’n dod â’r bwyd. Galwodd  Pavlov hyn yn ‘ymateb cyflyredig’ ('conditioned response') - hynny yw, ymateb sydd wedi ei greu o ganlyniad i drefn reolaidd, yr hyn sydd i’w ddisgwyl. 

Gan fynd â phethau gam ymhellach, fe luniodd Pavlov ymateb cyflyredig oedd â dim o gwbl i’w wneud â’r bwyd ei hun. Bob tro y byddai’r bwyd yn cael ei roi i’r cwn, fe fyddai’n canu cloch. Ymhen amser, hyd yn oed pan na fyddai bwyd yn cael ei roi iddyn nhw, a hyd yn oed pan na fyddai ef na’r rhai a fyddai’n ei helpu’n bresennol ychwaith, pe byddai cloch yn cael ei chanu, fe fyddai’r cwn yn dechrau glafoerio. Roedd y cwn wedi cael eu cyflyru neu eu hyfforddi i ymateb yn y ffordd hon yn ôl ysgogiad y gloch.

Nawr, gadewch i ni fynd yn ôl at ein hystyriaeth o adwaith ac ymateb. Fe fydd pawb ohonom yn naturiol yn ymddwyn neu’n adweithio mewn ffyrdd heb i ni feddwl. Fe fydd arogl rhai bwydydd yn gallu ein hatgoffa o rywle y buom ynddo ar ein gwyliau efallai. Neu, fe fydd darn o gerddoriaeth a fydd yn cael ei chwarae ar y radio, efallai, yn ein hatgoffa o rywun neilltuol.

Yn yr un modd, mewn achos o argyfwng, fe fydd rhai pobl yn ymladd ac eraill yn dianc (fight or flight). Efallai bydd rhai eraill yn anwybyddu’r digwyddiad ac yn ‘claddu eu pen yn y tywod’ gan gymryd arnyn nhw na ddigwyddodd y peth, neu’n gobeithio na fyddai byth yn digwydd.

Os byddwn ni’n cael anrheg, rydym yn dweud ‘Diolch’. Os bydd rhywun yn ein taro, fe allai rhai ohonom ni ymateb trwy daro’n ôl.

Fydd ein hadwaith yn yr holl wahanol sefyllfaoedd ddim o angenrheidrwydd yr un peth yn achos pawb. Mae ein personoliaethau’n wahanol, ac mae profiad pob un ohonom o fywyd yn wahanol hefyd. Y cwestiwn yw, oes raid i ni ymateb fel hyn, er gwell neu er gwaeth? A yw Pavlov a Duw, yn gallu agor ffordd i ni ymateb mewn ffordd arall?

Beth ydw i’n ei olygu wrth ddweud hyn? Pan oedd Iesu ar y Ddaear, fe siaradodd am garu ein gelynion, troi’r foch arall, rhoi ein heiddo i’r tlodion, rhoi anghenion pobl eraill o flaen ein rhai ni ein hunain, a barnu ein hunain cyn barnu pobl eraill. Ychydig iawn ohonom  a fyddai’n honni mai dyna fyddai ein hymateb naturiol. Fe fyddwn yn llawer mwy tebygol o ddial, bob amser yn wyliadwrus i gael rhywbeth i ni ein hunain, i gael bod ar flaen y ciw, ac i amddiffyn ein hunain hyd yn oed pan fyddwn yn gwybod ein bod yn anghywir. Eto, pe byddem yn ymddwyn fel mae Iesu’n awgrymu, efallai y byddai’r byd yn lle tawelach, yn fwy maddeugar, yn fwy diogel, ac yn lle gwell i fyw ynddo. Felly sut gallwn ni newid y ffordd y byddwn ni’n ymateb?

Mae ymchwil Pavlov yn awgrymu ei bod hi’n bosib cyflyru ein hymateb. Trwy ganu’r gloch yn fwriadol bob tro y byddai’r bwyd yn dod i’r golwg, fe ddigwyddodd newid yn ymateb y cwn.

Darllenydd:Iawn, ond rwy’n gobeithio eich bod wedi sylwi nad ci ydw i! Dydych chi ddim yn fy hyfforddi i i eistedd, i nôl pêl, neu i fegio am rywbeth.

Arweinydd: Rwy’n derbyn hynny, ond eto, mae’r hawl gennym i ddewis ymddwyn mewn ffordd neilltuol a, phe baem yn ymddwyn yn y ffordd honno’n ddigon aml, fe allai ddod yn adwaith awtomatig. Er enghraifft, os ydych chi’n dueddol o ateb pobl yn ôl pan fyddan nhw’n eich cythruddo, mae’n debyg eich bod wedi clywed rhywun yn awgrymu y dylech ddilyn cyngor sy’n cael ei gynnig yn gyffredin.

Darllenydd:Wyt ti’n cyfeirio at yr arferiad o ‘gyfrif i ddeg’ cyn dweud rhywbeth?

Arweinydd:Yn union. Fe allwn ni ddatblygu’r arferiad o oedi cyn talu’n ôl, gan roi amser i ni ein hunain dawelu, ac yna gynnig ymateb mwy rhesymol.

Dyma enghraifft arall. Fe fydd rhai pobl ar ddechrau’r dydd, yn dwyn i gof yr holl bobl hynny sy’n eu cythruddo, rhai y maen nhw’n ddig wrthyn nhw, neu’r rhai y maen nhw’n ei chael hi’n anodd cyd-dynnu â nhw. Ac, yna’n fwriadol maen nhw’n meddwl am rinweddau’r bobl hynny. Y gobaith yw y byddai hynny’n eu harwain i adweithio’n llawer mwy cadarnhaol pan fyddan nhw’n eu cyfarfod yn ystod y dydd. Mae rhai pobl eraill yn rhoi cyfran o’r arian sydd ganddyn nhw, bob wythnos neu bob mis, er mwyn datblygu’r arferiad o fod yn hael.

Mae hyn i gyd yn ymwneud â gwneud penderfyniad i ddatblygu arferion cadarnhaol a fydd yn y pen draw yn dod yn rhan o’n personoliaeth, ac yn dod yn  ymateb cyflyredig.

Amser i feddwl

Wrth gwrs, mae newid ein personoliaethau yn dasg anodd. Mae'n cymryd llawer o ymrwymiad ac ymdrech. Rydyn ni’n mynd yn ôl i’r hen ffordd o ymddwyn mor rhwydd. Rydyn ni’n digalonni’n hawdd ar yr adegau pan fyddwn ni’n methu ymateb yn y ffordd y byddem yn dymuno. Yn wir, mae Cristnogion yn credu na all newid o'r fath ddigwydd ond gyda chymorth Duw. Yn amlwg, er nad yw hynny’n hawdd, mae'n ymddangos yn sicr yn werth rhoi cynnig arni.

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti bod gennym ni’r potensial i newid.
Atgoffa ni pa agweddau ar ein personoliaeth y gallen ni eu gwella.
Rho i ni’r adnoddau i roi cynnig arni, a’r ymrwymiad i ddyfalbarhau.
Amen.

Changes’ gan David Bowie

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon