Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cysylltwch

Rhai o heriau’r cyfryngau cymdeithasol

gan Claire Law

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Archwilio’r heriau mae’r cyfryngau cymdeithasol yn eu rhoi i ni yn ein bywyd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Trefnwch fod gennych chi gopi o’r clip fideo YouTube, 'Look Up' a’r modd o’i ddangos  yn ystod y gwasanaeth. Mae’n para4.58 munud.

Gwasanaeth

  1. Beth ydych yn ei feddwl oedd aelod o'r teulu Brenhinol yn ei wneud am y tro cyntaf 40 blynedd yn ôl?

    Gwrandewch ar amrywiaeth o ymatebion. 

  2. Yr ateb yw mai ar 26 Mawrth 1976 y cafodd yr e-bost Brenhinol cyntaf ei anfon! 

  3. Fe hoffwn i chi feddwl am y modd y mae'r dechnoleg sy'n caniatáu i ni gadw mewn cyswllt wedi datblygu ers y flwyddyn 1976.

    Pwy sy'n berchen ar ffôn symudol fel y 'smartphone'?

    Pwy sy'n defnyddio Facebook?

    Pwy sy'n defnyddio Twitter?

  4. Mae technoleg wedi ei gwneud hi'n llawer haws cysylltu ag eraill a chadw mewn cysylltiad nag oedd hi ddim ond ychydig o flynyddoedd yn ôl. 

    Efallai y byddech yn dymuno gofyn a oes unrhyw aelod o'r staff sy'n gallu cofio cyfnod cyn yr e-bost a'r ffôn symudol, neu a oedd yn gorfod ffonio eu ffrindiau ar ffôn y ty pan oedden nhw yn eu harddegau, ac yn gorfod ymestyn cebl y ffôn cyn belled â phosib er mwyn bod allan o glyw eu rhieni! 

  5. Pam mae hi mor bwysig cadw mewn cyswllt?

    Bodau cymdeithasol ydyn ni, wedi ein creu i fyw mewn cymdeithas. Pan gafodd Adda ei greu gan Dduw – mae’r hanes yn cael ei ddisgrifio yn Llyfr Genesis (2.18) yn y Beibl - fe ddywedodd Duw, ‘Nid da  bod y dyn ar ben ei hun’. Yn y Testament Newydd, cawn ein hatgoffa gan Paul nad ydym i fod i fyw fel unigolion, ac ar wahân i bawb arall. Rydyn ni'n rhan o gymuned neu gorff o bobl. Yn 1 Corinthiaid 12.27, mae Paul yn dweud, ‘Yn awr, chwi yw corff Crist, ac y mae i bob un ohonoch ei le fel aelod.’ 

  6. Mae yna berygl pan fyddwn ni’n dibynnu ar dechnoleg yn unig i'n helpu i gysylltu, y byddwn ni’n canfod nad ydym mewn gwirionedd yn cysylltu ar lefel ddofn â neb.

    Fe wnaeth astudiaeth, a luniwyd yn y flwyddyn 2013 gan Brifysgol Michigan, ddarganfod bod y cyfryngau cymdeithasol ar-lein, yn hytrach na rhoi'r teimlad i ni o fod mewn cyswllt, yn cyfrannu at unigrwydd, ac yn lleihau ein boddhad cyffredinol mewn bywyd. Mae'r fideo y cawn ei gweld yn tanlinellu'r un pwynt, sef - bod dibynnu’n ormodol ar dechnoleg yn gallu tanseilio ein cysylltiadau ag eraill.

    Dangoswch y clip fideo YouTube, 'Look Up'.

Amser i feddwl

Fel y gwelsom, mae technoleg yn ardderchog er mwyn ein helpu i gysylltu ar-lein, ond ni ddylai fyth gymryd lle'r cyswllt dynol, sgyrsiau wyneb yn wyneb a gwir gyswllt llygad.

Pa mor wahanol tybed fyddai ein byd pe byddem yn gwenu ar eraill heddiw, eu cyfarch, gan wneud cyswllt â'r llygad a chael gair cyfeillgar, neu roi gwir goflaid i rywun?

 phwy y gallech chi gysylltu wyneb yn wyneb heddiw?

Gadewch i ni atgoffa ein gilydd ein bod yn rhan o gymuned, cymdeithas o gydfodau dynol. 

Efallai y byddech yn dymuno gofyn i'r myfyrwyr rannu arwydd o dangnefedd â'r rhai sydd agosaf atyn nhw. Os bydd hynny’n angenrheidiol, eglurwch fod hyn yn golygu'n syml eich bod yn ysgwyd llaw ac yn dweud wrth bob person, ‘Tangnefedd a fo gyda chi.'

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti am ein gwneud ni fel ein bod yn gallu cysylltu ag eraill.
Diolch i ti am roi i ni’r gallu i ddod o hyd i dechnolegau newydd a’u datblygu.
Helpa ni i ddefnyddio technoleg yn ddoeth.
Helpa ni i ddod o hyd i ffyrdd o gysylltu â phobl eraill ar lefel ddofn heddiw.
Helpa ni i weld sut y gall cyswllt llygad, a’n geiriau a'n presenoldeb, ddod â heddwch i eraill.
Helpa ni hefyd i gadw mewn cyswllt â thi bob amser.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon