Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Diwylliant yr Hunlun

Faint o amser ydyn ni’n ei dreulio’n gwenu ar gyfer y camera?

gan Helen Gwynne-Kinsey

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried y mater o hunluniau, neu selfies, yn ein diwylliant heddiw.

Paratoad a Deunyddiau

  • Mae'r gwasanaeth hwn yn gweithio orau os bydd y person sy'n arwain y gwasanaeth wedi paratoi sioe sleidiau o hunluniau personol y mae ef neu hi wedi eu tynnu yn ystod diwrnod ysgol arferol. Gallai enghreifftiau gynnwys:

    - cyrraedd mynedfa’r ysgol
    - eistedd yn ystafell yr athrawon
    - disgwyl i’r myfyrwyr gyrraedd i wers gyntaf y dydd
    - gwneud gwaith marcio
    - cael paned amser egwyl
    - gweithio ar y cyfrifiadur
    - bwyta cinio
    - clirio cyn mynd adref
    - gadael adeilad yr ysgol

    Fe fydd arnoch chi angen trefnu modd o arddangos y delweddau hyn yn ystod y gwasanaeth hefyd.

Gwasanaeth

  1. Soniwch wrth y myfyrwyr pa mor brysur oedd eich diwrnod yn yr ysgol ddoe. Eglurwch eich bod, er mwyn profi pa mor brysur oeddech chi, wedi cymryd hunluniau drwy gydol y dydd!

    Dangoswch y sioe hunluniau, gan roi sylwebaeth syml, rywbeth yn debyg i’r canlynol, wrth i chi wneud hynny.Er enghraifft, ‘Dyma fi’n cyrraedd yr ysgol bore ddoe . . . bechod bod fy ngwallt yn flêr’ neu, ‘Dyma fi’n marcio gwaith rhai ohonoch chi . . . doeddwn i ddim yn sylweddoli bod y tei yn un mor erchyll!’

  2. Pan fydd y sioe sleidiau ar ben, darllenwch y stori ganlynol i’r myfyrwyr, stori gan newyddiadurwr o’r Unol Daleithiau o'r enw Michael Rosenblum. Fe ymddangosodd yn y papur newydd The Huffington Post ar 22 Mai 2016.

    Walking through Times Square . . . I was astonished to see about 1,000 people all clustered and staring up at something.Normally, as a hardened New Yorker, I try to ignore this kind of stuff. But you don’t often see 1,000 people all staring at a single spot. Something big must have been happening . . . I turned to look. What they were all staring at, what had grabbed their attention, was . . . themselves.

    There, on the corner of 43rd Street and Broadway, Revlon had created a gigantic video screen that, instead of projecting ads for Revlon products, was merely showing a live video of the crowd that was staring at the screen. The ultimate ‘selfie’. And it worked! . . . Well, like they say in show business, give the people what they want. And clearly what they want to see is . . . themselves! Not only were they both mesmerized and delighted at seeing themselves, but they took out their phones and took pictures and videos of themselves looking at themselves looking at themselves!

  3. Mae llawer o bobl yn ein cymdeithas yn ymddangos fe pe bydden nhw’n cofnodi pob manylyn munud o'u bywyd ar eu ffonau. Ond gadewch i ni feddwl am eiliad am y cwestiynau pwysig canlynol.

    - Pam rydyn ni'n teimlo bod angen i ni dynnu hunluniau bob cyfle sy’n bosib?
    - Ai oherwydd ein bod yn falch?
    - A yw oherwydd ein bod yn teimlo nad ydyn ni wedi byw y foment oni bai ein bod wedi ei dal mewn llun neu fideo?
    - A yw hyn yn dda i ni?
    - A yw hyn yn ddrwg i ni?

  4. Mae gan bob un ohonom, yn ôl pob tebyg, wahanol farn am hunluniau. Mae rhai ohonom wrth ein bodd yn tynnu ein llun ein hunain; mae rhai ohonom yn osgoi hynny os gallwn ni. Er hynny, mae un peth yn hanfodol. Rhaid i ni beidio â bod mor brysur yn cymryd hunluniau fel ein bod yn colli’r profiadau go iawn y mae bywyd yn eu cynnig i ni. Yn hytrach na threulio amser yn meddwl, 'Ydw i'n edrych yn dda yn y llun yma?' Neu, 'A oes modd i mi fod mewn osgo gwell ar gyfer y llun yma?', efallai y dylem roi ein ffonau i gadw a mwynhau’r digwyddiad gan roi ein sylw llawn i’r profiad.

  5. Tra bydd ein ffonau yn cael eu cadw allan o'r golwg, efallai y byddai’n bosib i ni dreulio amser yn edrych o gwmpas a sylweddoli bod yna bobl eraill hefyd sy'n rhannu'r un profiad â ni. Beth am siarad gyda nhw am y peth yn bersonol yn hytrach na dim ond postio llun a sylw bachog ar Facebook neu Instagram? Efallai bod angen i ni dorri'n rhydd oddi wrth y diwylliant hunlun bob hyn a hyn a dechrau gweithredu fel aelodau o gymuned ehangach.

Amser i feddwl

Yn ei iaith ei hun, fe ysgrifennodd Hillel yr Hynaf, arweinydd crefyddol Iddewig, ddatganiad fel a ganlyn, "Os nad wyf i drosof fi fy hun, pwy a fydd drosof? 'Aeth yn ei flaen i ddweud," Ond pan wyf drosof hun, beth ydw ‘i’?' Dyfynnir ei ddatganiad yn  Saesneg fel, ‘If I am not for myself, who will be for me?’ a‘But when I am for myself, what am “I”?’

Ailddarllenwch y geiriau gan oedi i roi amser i'r myfyrwyr feddwl am yr ystyr.

Pwysleisiwch fod pobl a chymuned yn agweddau hanfodol sy’n perthyn i’n bywydau.

Gadewch i ni wneud yn siwr ein bod yn codi ein ffocws oddi arnom ni ein hunain weithiau ac yn hytrach yn meddwl am eraill.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon